Er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr 2022, gofynnon ni i ffrindiau a chydweithwyr DCFW am y llyfrau maen nhw’n eu hargymell.
Cora Kwiatkowski
Rydw i’n un sydd wedi caru llyfrau erioed. Fel arfer byddaf yn darllen beth bynnag sy’n dod i law ac sy’n cael ei argymell i mi, a does dim digon o le ar fy silffoedd llyfrau i’w dal nhw i gyd felly roedd yn rhaid alltudio rhai ohonyn nhw i’r atig, ond iddyn nhw gael eu nôl wedyn ar ôl ychydig, a darllen rhai ohonyn nhw eto. Pan oeddwn yn fy arddegau, fy hoff le i ddarllen ar wyliau oedd wrth eistedd 5 metr i fyny mewn coeden!
Rydw i’n berchen ar ddewis da o lyfrau ar bensaernïaeth a dylunio ond, yn fwy diweddar, rydw i wedi troi at ddarllen erthyglau mewn cylchlythyrau ac ar y rhyngrwyd yn eu lle.
Er hynny, mae yna lyfrau weithiau sy’n dal fy sylw, a rhaid i mi eu prynu nhw, er gwaethaf y diffyg lle. Ar ôl gweld arddangosfa Renzo Piano yn yr Academi Frenhinol yn Llundain a gynhaliwyd rhwng Medi 2018 ac Ionawr 2019, cefais i fy ysbrydoli gymaint gan y ffilm fer a’r cyfweliad gan Thomas Riedelsheimer a ddangoswyd yn yr ystafell lle adeiladwyd ‘Piano Island’ – model mawr gyda’r holl brosiectau mae wedi gweithio arnyn nhw – fel fy mod i am ail-fyw’r profiad a dal i gael fy ysbrydoli gan syniadau Piano. Mae’r testun dehongliadol ‘Renzo Piano: The Art of Making Buildings’ yn rhoi lle canolog i gyfweliad tebyg ac mae rhywun yn cael y teimlad bod Renzo Piano yn yr ystafell gyda chi.
Mae ei waith wedi fy nilyn ar hyd fy ngyrfa. Pan oeddwn yn fyfyriwr, roedd gen i feddwl mawr o Ganolfan Ddiwylliannol Jean-Marie Tjibaou, Nouméa (1998), sy’n cynnwys strwythurau lluniaidd sy’n cyfuno traddodiad a chyd-destun â pheirianneg fodern ac apêl ddiwylliannol. Nawr bydda i’n gweld The Shard (2012), un o’i adeiladau mwy diweddar, bron bob tro y bydda i yn Llundain, adeilad mor finiog â nodwydd yn marcio’r canol.
Mae Piano yn sôn am ‘harddwch’ – gair sydd wedi’i drafod yn helaeth yn ddiweddar – a pha mor hynod o gymhleth y mae. Rhywbeth y mae pob un ohonyn ni’n dyheu am ei weld; mae’n cael ei alw’n rhywbeth tebyg i Atlantis. Rhywbeth y byddwch chi’n chwilio amdano ond byth yn ei gael – ond fe allwch ddod yn agos. Mae ein gwaith ni fel penseiri yn ymwneud â chreu lleoedd i bobl a dod â harddwch yn ôl i’r byd rydyn ni’n byw ynddo.
Wrth gamu’n ôl o’r gwaith dylunio pob dydd a’i heriau, mae’n braf cael ein hatgoffa am bwysigrwydd ein gwaith ac am yr effaith y mae ein hadeiladau’n gallu ei chael.
Ar hyn o bryd rydw i’n darllen ‘Spring Cannot Be Cancelled’ – David Hockney in Normandy’. Llyfr sy’n eich atgoffa am y gallu sydd gan gelfyddyd i dynnu’ch sylw a’ch ysbrydoli. Mae’r ohebiaeth lawen hon rhwng dau ffrind – Hockney a Martin Gayford – nid yn unig yn gadael i ni gymryd rhan yn eu bywydau ond mae hefyd yn bersonol iawn – y ffordd syml o fyw a oedd gan David Hockney ar ganol y cyfnod clo, agosáu at natur eto a mwynhau’r gallu i ganolbwyntio ar bethau. Byddwch yn barod am ragor o argymhellion am lyfrau i’w darllen a mwynhewch y darluniau hardd, rhai ohonyn nhw heb eu cyhoeddi o’r blaen. Mae David Hockney yn dangos i ni sut i weld pethau a sut mae ei fywyd wedi newid, gan ganolbwyntio ar y pethau hanfodol mewn bywyd. Rydw i’n ei gymeradwyo’n fawr!
Mae Cora Kwiatkowski yn Gyfarwyddwr Adrannol yn Stride Treglown ac yn Gomisiynydd DCFW.
Dolenni:
Darllenwch a gwyliwch y testun a’r ffilmiau yn ffilm arddangosfa Renzo Piano. Comisiynwyd y gosodwaith ffilm dwy sgrin hwn sy’n 17 munud o hyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa. © Academi Frenhinol y Celfyddydau, Llundain, 2018. Ffilm gan Thomas Riedelsheimer
Prynwch y llyfrau:
Renzo Piano: The Art of Making Buildings
Spring Cannot be Cancelled: David Hockney in Normandy
Jon James
Mae llyfrau ac amrywiaeth o ddeunyddiau darllen yn ein hysbrydoli ni i gyd mewn sawl ffordd – rydw i bob amser yn ceisio darllen cymysgedd o draethodau pensaernïol a llyfrau sy’n gallu rhoi darlun diwylliannol gwahanol i mi, na fydda i byth yn ei brofi fy hun. Mae gen i arfer drwg o ddarllen mwy nag un llyfr ar yr un pryd ac rydw i’n tueddu i stopio ac ailgychwyn: weithiau misoedd ar wahân!
Ar hyn o bryd, rydw i ar ganol dau lyfr, sef Gandhi’s autobiography: The Story of My Experiments with Truth ac rydw i hefyd newydd ddechrau Still Breathing: Black Voices on Racism – 100 Ways to change the narrative. Mae’r ddwy gyfrol yn ymwneud â phrofiadau a safbwyntiau uniongyrchol sy’n gwneud i chi feddwl mewn ffyrdd gwahanol am realiti a dewrder wynebu adfyd. Mae bron popeth rydw i’n ei ddarllen yn ffeithiol, yn fywgraffyddol neu’n hunangofiannol, ond darllenais lyfr cwbl wahanol yn ddiweddar, sy’n enwog am ei syniadau pellgyrhaeddol o’r enw The Power gan Naomi Alderman. Yn y bôn, mae’r stori’n ymwneud â menywod yn ennill pwerau i fod y rhyw cryfaf yn y byd. Mae wedi’i ysgrifennu’n wych, mae’n procio’r meddwl ac yn afaelgar o’r dechrau i’r diwedd.
O ran Pensaernïaeth, mae nifer o lyfrau sy’n sefyll allan i mi. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddeunydd darllen nodweddiadol i Bensaer ond sydd, er hynny, yn bwysig ac wedi fy ysbrydoli drwy gydol fy ngyrfa. Mae Towards a New Architecture gan Le Corbusier yn bwysig am ei ddadleuon o ran ysgogi trafodaeth ar wahanol lefelau. Mae’n amrywio o’r raddfa fodiwlaidd ddynol i’r cynllunio trefol ar gyfer dinas gyfan. Mae’n fy atgoffa i ehangu fy ngorwelion a dysgu o’r gorffennol, ac fe wnaeth fy annog i deithio gymaint â phosibl a deall llefydd hanesyddol fel yr Acropolis. Mae hyn, yn ei dro, yn llywio’r dyfodol, ond rhaid i ni hefyd fod yn y presennol ac nid myfyrio ar hiraeth y gorffennol. Mae hyn yn arbennig o ingol i mi wrth i ni wynebu’r argyfwng hinsawdd; sy’n fy arwain yn naturiol at gyfrol wych Richard Rogers, Cities for a small planet (a’r gyfrol ategol Cities for a small country); fe’i hysgrifennwyd tua 25 mlynedd yn ôl, ond mae’r un mor berthnasol heddiw. Yn bennaf oll, mae’n dangos bod angen newid diwylliannol i’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn werthfawr yn ein hamgylchedd adeiledig, sydd wedi cael ei ddominyddu ers degawdau gan y sector eiddo tirol yn gwneud arian. Rydw i’n hoffi meddwl bod pethau’n newid nawr a bod y pwyslais erbyn hyn ar gynaliadwyedd.
Yn ogystal â deunydd ysgrifenedig, a minnau mewn proffesiwn gweledol, rydw i’n mwynhau llyfrau heb eiriau hefyd. Mae rhai llyfrau’n cynnwys syniadau dylunio/adeiladau/deunyddiau a manylion ynghylch sut mae ein hadeiladau a’n mannau yn cael eu creu ac o beth maen nhw wedi’u creu.
Yn olaf, fel beiciwr amatur sy’n byw yn Ne Cymru, rydw i wedi mwynhau cyfrol hunangofiannol Geraint Thomas, Enillydd Tour De France – mae gen i gopi wedi’i lofnodi o’r llyfr. Yn benodol, ei anturiaethau dros fryniau, Dyffrynnoedd a Mynyddoedd y De ac o’u hamgylch. Gall unrhyw un sydd wedi beicio uniaethu â’i brofiadau, hyd yn oed os yw ydyn nhw’n teithio ar gyflymder fymryn yn wahanol!
Mae Diwrnod y Llyfr yn esgus gwych i stopio, myfyrio a rhannu. Rydw i’n edrych ymlaen at ddarllen argymhellion pobl eraill er mwyn gallu parhau i gael fy ysbrydoli o’r newydd.
Mae Jon James yn Bensaer cofrestredig, yn ddylunydd Passivhaus ardystiedig, ac yn Gomisiynydd DCFW.
Prynwch y llyfrau:
An Autobiography – M K Gandhi
Still Breathing: 100 Black Voices on Racism–100 Ways to Change the Narrative
The Power – Naomi Alderman
Towards a New Architecture – Le Corbusier
Cities for a Small Planet – Lord Richard Rogers
Cities for a Small Country – Lord Richard Rogers
The Tour According to G: My Journey to the Yellow Jersey – Geraint Thomas
World of Cycling According to G – Geraint Thomas
Mountains According to G – Geraint Thomas
Gayna Jones
Mae’r llyfr Invisible Women – Exposing Data Bias in a World Designed for Men gan Caroline Criado Perez wedi agor fy llygaid i’r ffordd ‘mewn byd sydd wedi’i adeiladu’n bennaf ar gyfer dynion a ganddyn nhw, rydyn ni’n anwybyddu hanner y boblogaeth mewn modd systematig’. Rydw i’n fenyw mewn byd a ddyluniwyd gan ddynion!
Roedd y llwybr a ddilynais cyn dod i’r Comisiwn Dylunio wedi dechrau ym maes tai cymdeithasol, lle gall y dylunio fod yn wael. Wrth ddarllen y llyfr hwn, roedd fy mhrofiad yn dechrau gwneud synnwyr i mi.
Yn fy nghegin, mae rhai cypyrddau’n uchel. Mae’r rhan fwyaf o ddynion yn gallu eu cyrraedd, ond fel menyw â thaldra o 5’4”, dydw i ddim. Mae Criado-Perez yn nodi bod y ffordd o weld dynion fel y ‘bod dynol diofyn’ yn hanfodol i strwythur cymdeithas ddynol ac mae’n darparu llawer o ddata i brofi hynny. Un enghraifft syml yw’r ffordd y mae pethau mor wahanol â phiano a ffôn clyfar yn cael eu dylunio ar gyfer maint cyfartalog y llaw wrywaidd.
Mae’n dangos bod ceir yn cael eu dylunio ar gyfer dynion a chanddyn nhw, gan greu problemau go iawn o ran diogelwch i fenywod. Un enghraifft o hyn sy’n achosi rhwystredigaeth i mi yw gwregysau diogelwch mewn ceir; dydw i erioed wedi cael un sy’n gyfforddus!
Bydd stadau tai’n cael eu dylunio’n bennaf i gwrdd ag anghenion ceir yn hytrach na phobl, gan anwybyddu anghenion plant yn benodol mewn llawer achos. Yn rhannol o ganlyniad i’r pandemig, rydyn ni’n dechrau rhoi’r gorau i’r arfer o ddangos mwy o barch at geir nag at gerddwyr, ond mae’r rhan fwyaf o stadau’n cael eu dylunio o hyd ar sail priffyrdd, mannau parcio a’r defnydd o geir. Mae’r rhan fwyaf o lawer o weithwyr trafnidiaeth proffesiynol yn ddynion. Meddai Criado-Perez, ‘mae’r ymchwil sydd ar gael yn dangos yn glir fod tuedd at foddau trafnidiaeth gwrywaidd’. Mae trafnidiaeth yn cael ei dylunio’n bennaf ar sail patrymau teithio dynion – yn ddiofyn; dwy siwrnai bob dydd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, yn hytrach na nifer o deithiau i’r ysgol, siopau, at berthnasau, i gyfleusterau gofal iechyd. Mae’n darparu ar gyfer dynion sy’n teithio ar eu pen eu hunain, yn hytrach na menywod sy’n teithio gyda neges siopa, bygis, plant, neu berthnasau oedrannus. ‘Mae palmentydd cul, anwastad â chraciau, yn llawn dodrefn stryd wedi’u lleoli’n wael, ynghyd â grisiau cul a serth, yn ei gwneud yn anodd iawn mynd o gwmpas dinas gyda bygi’. Bydd nifer mawr o fenywod yn teimlo’n anniogel mewn lleoedd fel safleoedd bysiau, ond mae lleoedd trefol wedi’u dylunio heb roi ystyriaeth i hyn. Nid yw goleuadau stryd yn cael dim neu nemor ddim blaenoriaeth.
Ceir enghraifft dda arall yn Sweden, lle maen nhw’n rhoi blaenoriaeth i glirio eira oddi ar y ffyrdd er mwyn ceir, yn hytrach nag oddi ar balmentydd sy’n cael eu defnyddio’n bennaf gan fenywod sy’n cerdded. Drwy newid y flaenoriaeth hon, cafwyd gostyngiad mawr yn nifer y damweiniau.
Mae’r llyfr hwn yn eich helpu i weld sut mae pethau fel y maen nhw a’i bod yn hen bryd cael newid pwyslais. Rydw i’n ei gymeradwyo’n fawr.
Gayna Jones yw Cadeirydd Comisiwn Dylunio Cymru.
Prynwch y llyfr:
Invisible Women: Exposing Data Bias in a World Designed for Men – Caroline Criado-Perez
Martin Knight
Rydw i wrth fy modd o gael llyfrau o’m cwmpas, er na alla i feddwl pa bryd y caf amser i’w darllen. Bydd cyfle prin yn codi ym mis Ionawr, gyda’r nosweithiau hir a llond lle o lyfrau pen blwydd a Nadolig i fynd drwyddyn nhw.
Rydw i wedi dewis pedwar llyfr i ddathlu Diwrnod y Llyfr, tri ohonyn nhw’n rhai cyfoes ac yn rhai i’w darllen er mwyn pleser yn ogystal â chael gwybodaeth. Mae’r pedwerydd yn un rydw i wedi’i ddarllen lawer gwaith ac sy’n cynnig ysbrydoliaeth a goleuni yn ogystal â mwynhad.
Yn ddiweddar, prynais David Mellor: Master Metalworker wrth ymweld â Ffatri Cytleri David Mellor yn Hathersage, Swydd Derby. Er fy mod i’n gwybod am eu cytleri o waith llaw a’u ffatri hardd yn y Peak District, a ddyluniwyd gan y Penseiri Hopkins, roeddwn i’n gwybod llai am y rhan a chwaraeodd David Mellor ym maes dylunio ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Mae ei waith yn cynnwys nwyddau cain i’r bwrdd ar gyfer digwyddiadau ffasiynol a dodrefn stryd y gellir eu hadnabod ar unwaith, yn cynnwys y goleuadau traffig eiconig ym Mhrydain, croesfan i gerddwyr (gyda’r botwm y mae pob plentyn wedi teimlo’r awydd i’w bwyso), a chysgodfannau safleoedd bysiau. Mae pwysigrwydd y dylunio, boed ar gyfer digwyddiadau anghyffredin neu fywyd pob dydd, wedi’i groniclo’n feddylgar.
Mae ei helyntion dyddiol yn Tour de France y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu cofnodi’n boenus o onest yn Tour de Force, gan Mark Cavendish. Mae’r naratif cyffrous hyd yn oed yn fwy emosiynol o gofio ei fod yn dychwelyd ar ôl rhai blynyddoedd o salwch, anafiadau a pherfformiad gwael. Gafaelgar iawn yw’r disgrifiad o’r gwaith manwl o baratoi’r athletwr a’r peiriant – bob amser o dan lygad barcud y swyddogion mewn camp sydd â hanes budr iddo – ynghyd â hunan-gred anorchfygol yr athletwr elît.
Cefais fenthyg copi o eiddo fy ewythr o Island Years, Island Farm gan Frank Fraser Darling yr haf diwethaf (prynais un i mi fy hun ers hynny!), yn dilyn sgwrs am dreftadaeth ein hynys ein hunain. Dyma ddisgrifiad arall o ymdrech galed – un dros dymhorau yn hytrach na rhannau o eiliad – sy’n cofnodi anturiaethau gwirioneddol un teulu ar wahanol ynysoedd bychain yn yr Alban yn y 1930au, yn gwylio bywyd gwyllt ac yn dysgu ffermio. Mae’n disgrifio perthynas araf, fuddiol a llawn parch â natur a aeth yn angof er mawr gost iddo yn y byd modern.
Y dewis olaf yw fy hoff lyfr. Mae Zen and the Art of Motorcycle Maintenance gan Robert M. Pirsig yn hanes taith ar gefn beic modur, gan dad a mab, am athroniaeth a realiti. Mae’r daith yn drosiad am fywyd ac mae’r storïwr yn ymchwilio i themâu sy’n cynnwys Ansawdd a’r Naws am Leoedd, sy’n adleisio fy nghariad at ddylunio pontydd.
Martin Knight yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Knight Architects, ac mae’n aelod o Banel Adolygu Dyluniadau DCFW.
Prynwch y llyfrau:
David Mellor: Master Metalworker
Tour de Force – Mark Cavendish
Island Years, Island Farm – Frank Fraser Darling
Zen and the Art of Motorcycle Maintenance – Robert M. Pirsig
Joanna Rees
Prynhawniau Sadwrn gwlyb yn Llyfrgell Pyle yn y 1980au. Aroglau leinin plastig a phobl yn sibrwd ‘isht’. Prynu llyfrau yn Smiths yng Nghanolfan Rhiw a’u darllen yn y car cyn cyrraedd gartref. Y cyffro o gael tocyn llyfr ar fy mhen blwydd i fynd i siop Lears a’r trip i Gaerdydd. Mae gen i gariad erioed at lyfrau, dweud storïau a’r ddihangfa a gaf o hynny. Alla i ddim honni bod darllen yn ddylanwad mawr ar fy ngyrfa; pe byddai llyfrau fy mhlentyndod wedi cael dylanwad o’r fath, byddwn i’n rhedeg ysgol breswyl neu’n gofalu am y merlod gyda Jill.
Rydw i wrth fy modd â llyfrau sy’n cyfleu naws lle, hanes a phensaernïaeth lle galla i gamu i mewn i feddyliau ac i dirlun rhywun arall. O’r rhyfeloedd opiwm yn Sea of Poppies (Amitav Ghosh), i ddistryw rhyfel yn Penang a’r rhaniadau mewn teyrngarwch yn The Gift of Rain (Tan Twan Eng), rydw i’n hoffi cael fy nghario’n ôl mewn amser a gorfod meddwl am y cyfnod. Y llyfrau sy’n aros gyda chi, meddwl am y teulu yn y nofel Sealwoman’s Gift (Sally Magnusson) sydd wedi’i seilio ar hanes cyrch môr-ladron yng Ngwlad yr Iâ ym 1627, yn cael eu cipio i fod yn gaethweision yn Algiers, ac a oedden nhw’n well eu byd yn bwyta pomgranadau ger y ffynhonnau neu adar pâl wedi’u stwffio ar y clogwyni gwyntog.
Ysgrifennu am natur hefyd, yr ysgrifennu gogoneddus gan Robert Macfarlane am dirwedd Prydain, am dir, am iaith, ac am y byd o dan y ddaear. Shepherd’s Life gan James Rebanks gyda’i ddefaid Hardwick a’r heriau a wynebodd wrth adfer dulliau ffermio traddodiadol yn Ardal y Llynnoedd. Heb anghofio’r pleser o ddarllen blodeugerdd fach. Teimladau John Clare at natur, y ddwy ffordd yn gwahanu yn y goedwig honno gan Robert Frost a’r ‘Darkling Thrush’ gan Hardy. A’r tŷ cychod hwnnw yn Nhalacharn yn cynnig “the mussel pooled and the heron Priested shore”.
Yn olaf, os bydda i’n methu â chysgu, barddoniaeth i mi bob tro a Mary Oliver bob amser am obaith a Wendy Cope am y tro coeglyd a hiraethus annisgwyl hwnnw.
Mae Joanna Rees yn Bartner yn Blake Morgan, ac yn un o Gomisiynwyr DCFW.
Prynwch y llyfrau:
Sea of Poppies – Amitav Ghosh
The Gift of Rain – Tan Twan Eng
The Sealwoman’s Gift – Sally Magnusson
The Shepherd’s Life – James Rebanks
Faber Nature Poets: John Clare
The Collected Poems – Robert Frost
New and Selected Poems – Mary Oliver
Serious Concerns – Wendy Cope
Dolenni:
Read ‘The Darkling Thrush’ by Thomas Hardy online.
Read ‘A Poem in October’ by Dylan Thomas online.
An article on John Clare’s poetry.
Fiona Nixon
Mae’n debyg bod elfen gyffredin i’r holl lyfrau ffuglen sy’n ffefrynnau i mi, hynny yw, ymdeimlad cryf o gymeriad lle, neu adeilad sydd â lle canolog yng nghynllwyn y stori. Bydda i wrth fy modd yn darllen llyfr sydd wedi’i seilio ar ymchwil dda ac un sydd wedi’i leoli mewn lle go iawn. Ai fi yw’r unig un sy’n chwilio am y lleoliadau ar Google Earth?
Fy hoff lyfr erioed, ac un y byddaf yn ei argymell yn aml, yw Oscar and Lucinda gan Peter Carey. Mae cynifer o elfennau diddorol a meistrolgar yn y ffordd y mae Carey yn dweud stori; yr Oscar poenus o chwithig, y Lucinda anghonfensiynol a’i threialon yn gweithio ym myd dynion ar ddiwedd y 1800au, wedi’u tynnu at ei gilydd i ganol sgandal gan eu caethiwed i hapchwarae. Mae’r naratif manwl a doniol yn symud yn ddi-dor rhwng y ffyrdd y mae’r gwahanol gymeriadau’n gweld y digwyddiadau sy’n datblygu. Rydw i wrth fy modd â’r ffeithiau a’r trosiadau sy’n ymwneud â gwydr, yn enwedig ‘Prince Rupert’s Drops’ – ‘tân gwyllt’ y gweithfeydd gwydr. Mae’r stori’n codi o gam-ddweud a chamddeall ac yn dod i’w huchafbwynt wrth gludo eglwys wydr dros dir sydd heb ei fapio ac i lawr afon Bellinger.
Mae The Bone People gan Keri Hulme yn fwy o her i’w ddarllen. Mae wedi’i leoli yn Seland Newydd gyda dylanwadau Maori, ac yn stori anghonfensiynol am gariad ac am y gydberthynas rhwng menyw, dyn a phlentyn, ond yn cynnwys themâu sy’n ymwneud ag ynysigrwydd, ofn a thrais. Mae Kerewin yn byw mewn tŵr cerrig, sy’n cael ei ddatgymalu a’i hailadeiladu ganddi mewn ffordd wahanol, yn symbol o’r newidiadau yn ei bywyd.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi darllen dau lyfr rhagorol sydd hefyd â thai ar eu canol, y ddau, fel y mae’n digwydd, wedi’u lleoli ar gyrion Philadelphia. Mae The Dutch House gan Ann Patchett, yn ymdrin â’r ymlyniad gan deulu wrth dŷ mawr o ddyluniad hynod mewn maestref – mwy o wydr, mwy o gamddeall a mwy o benderfyniadau gwael. Mae Unsheltered gan Barbara Kingsolver yn dilyn hanes dau deulu yn byw yn yr un tŷ ar wahanol adegau, 1870 a 2016, y ddau’n ymdrechu i gynnal y tŷ a chadw’r teulu ynghyd. Mae themâu mwy cyfoes ynddo sy’n ymwneud â chyfalafiaeth, tlodi, ffeministiaeth ac iechyd meddwl.
Beth rydw i’n ei ddarllen nawr? Wel, rydw i wedi symud ychydig oddi wrth yr adeiladau, ac nid ffuglen yw e, ond mae wedi’i wreiddio yn y gorffennol yn sicr – English Pastoral gan James Rebanks. ‘Stori am y ffordd roedd un ffermwr, yng ngoleuni’r gorffennol, wedi dechrau achub un gornel fach o Loegr a oedd nawr yn eiddo iddo ef, gan wneud ei orau i adfer y bywyd a oedd wedi diflannu a gadael gwaddol i’r dyfodol.’ Dim ond dwy bennod rydw i wedi’u darllen hyd yma, ond rydw i’n meddwl y bydda i’n ei fwynhau.
Mae Fiona Nixon yn Bensaer, yn Gomisiynydd DCFW, ac yn gyn Bennaeth Prosiectau Ystadau ym Mhrifysgol Abertawe.
Prynwch y llyfrau:
Oscar and Lucinda – Peter Carey
The Bone People – Keri Hulme
The Dutch House – Ann Patchett
Unsheltered – Barbara Kingsolver
English Pastoral – James Rebanks
Jamie Brewster
THE ELECTRIC STATE – Simon Stålenhag
Des i ar draws gwaith Simon Stålenhag yn gyntaf chwe blynedd yn ôl. Wrth chwilio’r we am luniau, des i ar draws ei ddelweddau cyfareddol a oedd yn ymddangos yn wirioneddol real ar yr olwg gyntaf. Gan eu bod bron mor realistig â ffotograffau, dim ond y pynciau, y ffordd anarferol o gyfosod tirweddau gwledig â seilwaith a thechnoleg arallfydol, a oedd yn awgrymu fel arall. Ymchwiliais yn bellach a dod o hyd i bortffolio cynhwysfawr o baentiadau hardd, y cyfan yn rhannu’r naws gythryblus honno sy’n cyfuno pethau pob dydd a’r anarferol. Gyda’r dylanwadau amlwg o waith Syd Mead, Ralph McQuarrie ac Edward Hopper, roedd yr apêl yn fwy byth o sylweddoli bod yr hyn a gymerwyd i fod yn baentiadau olew/acrylig yn rhai cwbl ddigidol mewn gwirionedd. Ar ei wefan, bydd yn aml yn rhannu darnau o’i ‘baentiadau’ wedi’u chwyddo, gan egluro ei dechneg yn haelfrydig. Rydw i wedi treulio oriau’n ‘darllen’ ei ddelweddau, yn rhyfeddu at y grefft aruchel sydd mewn llunio delweddau digidol.
Ac mae hefyd yn llenor medrus. Crëir y delweddau i ategu storïau cyfareddol sy’n hel atgofion am hanes amgen. Ac yntau wedi ymdrwytho mewn ffuglen wyddonias, mae ei weledigaeth yn un sy’n dadelfennu’r dyfodol drwy lygaid hiraethus. Ar ôl canolbwyntio yn ei hanesion ar Sweden ei famwlad yn ei ddau lyfr cyntaf, mae stori The Electric State wedi’i lleoli mewn fersiwn o America sydd â’i hanes wedi’i ailddychmygu.
Dyma daith mewn car sy’n dra gwahanol: mae’r stori’n dilyn siwrnai Michelle a’i chydymaith robotig bach Skip o arfordir y dwyrain i lannau’r gorllewin. Ar daith drwy’r hyn sy’n ymddangos yn dirwedd glasurol America, maent yn dod ar draws strwythurau rhyfedd ond hardd, peiriannau a phobl sydd yng ngafael hunanddinistr wedi’i ysgogi gan dechnoleg. Wrth i’r stori ddatblygu, mae’r naws arswydus a thywyll yn tyfu. Mae’r diweddglo sy’n amlygu pwy/beth yw Skip yn un emosiynol.
Rydw i wedi mwynhau darllen y llyfr hwn lawer gwaith gan edrych arno mewn ffordd wahanol bob tro. Weithiau, byddaf yn canolbwyntio ar y delweddau’n unig. Weithiau byddaf yn gwneud fel arall, yn rhoi fy holl sylw i’r testun. Mae’r profiad yn un cyfoethog a gwerthfawr pa ffordd bynnag y byddwch yn dewis darllen y gwaith. Y naill ffordd neu’r llall, mae lle i’w ddehongli o’r newydd bob tro, boed drwy ddefnyddio’r delweddau, y testun, neu’r ddau, yn ffynhonnell.
Y thema gyffredin yng ngwaith Stålenhag, sydd wedi’i hamlygu yn The Electric State, yw’r syniad o le. Mae ei allu i gyfleu darluniau real o leoedd drwy ddisgrifio naws ac awyrgylch mewn geiriau a delweddau yn golygu bod y llyfr hwn yn un gafaelgar ac ysbrydoledig ar nifer mawr o lefelau.
Mae Jamie Brewster yn Uwch Bensaer Cyswllt gyda DB3, ac mae’n aelod o Banel Adolygu Dyluniadau Comisiwn Dylunio Cymru.
Prynwch y llyfr:
The Electric State – Simon Stålenhag
Steve Smith
As I Walked Out One Midsummer Morning – Laurie Lee
Mae eiliadau o newid mawr mewn bywyd yn cael eu nodi’n aml gan seremonïau a dathliadau cyhoeddus. Nid yw’r newid wrth adael cartref am y tro cyntaf yn ddigwyddiad o’r fath. Mae’n cael ei nodweddu gan gymysgedd cryf o dristwch a balchder yng nghalonnau rhieni, ac ofn a disgwylgarwch yng nghalonnau ieuenctid. Celir drama’r funud o dan eiriau ystrydebol o ffarwél, a chyngor sy’n cael ei roi’n ddidwyll ond yn hanner cellweirus. Mae’r achlysur yn rhy bersonol, ond hefyd yn rhy bwysig, i ganiatáu i ddefod a seremoni gyhoeddus ymyrryd â’r eiliad breifat hon.
Mae’r profiad o adael cartref yn cael ei ddal yn berffaith yn nheitl ac ar dudalennau cyntaf llyfr Laurie Lee sy’n disgrifio sut yr ymadawodd â chartref ei blentyndod i weld y byd ym 1934. Rywsut neu’i gilydd, mae’n cyfleu emosiynau ei fam heb ddefnyddio’r un gair am y pwnc. Yn hytrach, ceir disgrifiad syml ohoni’n chwifio ei llaw i ffarwelio wrth iddo ef gychwyn ar ei daith yn cario ei feiolin ar ddechrau’r antur a’r bennod nesaf yn ei fywyd.
Mae’r stori sy’n datblygu yn disgrifio’r hyn y mae’r bachgen naïf a diniwed hwn yn dod ar ei draws ar y ffyrdd yn Sbaen yn y blynyddoedd cyn trychineb yr Ail Ryfel Byd. Mae i’w weld yn tramwyo’n ddiogel drwy fyd symlach, yn sicr o’i allu i lwyddo – cyflwr meddwl breintiedig nad yw ond ar gael i ieuenctid diniwed ar grwydr. Fesul tipyn, mae ei ddiniweidrwydd yn cael ei dymheru gan y dystiolaeth gynyddol o’r rhyfel cartref sydd ar y gorwel yn Sbaen.
Bydd pob darllenydd sy’n dod ar draws pennod gyntaf y llyfr hwn yn cael ei gyfoethogi ganddi. Os aiff yn ei flaen i ddarllen rhagor, bydd yn profi antur a fydd yn aros yn fyw yn y cof.
Mae Steve Smith yn bensaer ac yn Gyfarwyddwr yn urban narrative. Mae hefyd yn aelod o Banel Adolygu Dyluniadau DCFW.
Prynwch y llyfr:
As I Walked Out One Midsummer Morning – Laurie Lee