Treftadaeth Leol mewn Creu Lleoedd

Judith Alfrey, Pennaeth Adfywio a Chadwraeth Cadw

Mewn blwyddyn o gyfyngiadau symud, mae pawb wedi gorfod dibynnu ar adnoddau eu cymdogaeth agos, profiad sydd wedi bod yn fodd grymus i’n hatgoffa o werth yr amgylchedd lleol i gymunedau. Mae wedi tanlinellu pwysigrwydd cefnogi datblygiad lleoedd o safon uchel ar draws Cymru er budd cymunedau.

Mae hefyd efallai wedi amlygu apêl y cysyniad o’r ddinas 15-munud, lle y gall pawb gyfarfod y rhan fwyaf o’u hanghenion o fewn taith gerdded fer o’u cartref. Yn y ddinas 15-munud, caiff pobl eu hail-gysylltu gyda’u hardal leol, mae synnwyr cryf o gymuned, a llai o angen i deithio. Mae anghenion dyddiol a’r gwasanaethau sy’n cefnogi lles i gyd o fewn cyrhaeddiad hawdd.

Cafodd Cadw ei ysbrydoli gan y cysyniad hwn i feddwl y dylai pawb fedru cael budd o dreftadaeth o fewn 15 munud o gerdded o’u drws ffrynt, lle bynnag y maent yn byw – p’un ai’r ddinas, y dref neu yng nghefn gwlad. Nid yw treftadaeth yn cael ei adnabod mor agos â hynny at adref bob amser: nid oes gan bawb gastell yn eu cymuned leol ac efallai nad oes ganddynt heneb restredig neu adeilad cofrestredig gerllaw. Ond mae gan bob man ei dreftadaeth ei hunan, a bwriad ein menter Treftadaeth 15-Munud yw annog pobl i gamu allan o’u cartrefi ac archwilio’r dreftadaeth sydd ar riniog eu drws.

Rydym wedi dechrau trwy wneud defnydd o StoryMap, platfform ar y we sy’n defnyddio mapiau ar y cyd â thestun naratif, delweddau a chyfryngau eraill i greu straeon digidol am le. Mae’r straeon yn cael eu paratoi gan rai o aelodau ein staff ein hunain, a byddant ar gael ar ein gwefan.

Wrth wraidd yr adrodd straeon hyn yw gwahoddiad i fynd allan ac archwilio, a dylai pob man sy’n rhan o’r stori fod yn hygyrch i’r cyhoedd ar droed o bwynt cychwynnol penodol. Mae’r fenter felly yn cefnogi teithio llesol a hefyd thema symud sydd yn un o egwyddorion y siarter creu lle.

Wrth galon y fenter y mae ein cred fod treftadaeth yn gwneud lleoedd yn arbennig ac yn cyfrannu at hunaniaeth unigryw. Trwy adrodd straeon am leoedd, gallwn dynnu allan yr hanesion cudd, adnabod y priodweddau a dathlu’r diwylliant y mae hunaniaethau nodedig yn cael eu ffurfio ohonynt.

Yn 2020 gallodd Cadw gydweithio gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn cynllun grant treftadaeth 15-munud. Yma, ymestynnwyd y gwahoddiad i awdurdodau lleol ac ystod o fudiadau trydydd sector a chymunedol sy’n arwain prosiectau graddfa fechan er mwyn helpu i gysylltu cymunedau gyda threftadaeth. Mae prosiectau ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn cael eu cefnogi trwy’r cynllun hwn - mae eu hehangder dychmygus yn destament i’r ffyrdd niferus y gellir diffinio a dathlu treftadaeth leol.

Gall archwilio treftadaeth ar strydoedd a gofodau lle rydym yn eu galw’n gartref fod yn ffordd o gryfhau ymlyniad at le. Ond mae treftadaeth leol am bobl yn ogystal ag am le: mae pob cymdogaeth wedi’i gwneud a’i siapio gan y bobl sydd wedi byw a gweithio yno, ac mae lleoedd yn mabwysiadu ystyron o’r ffyrdd y mae pobl yn eu profi neu yn perthnasu â nhw.  Mae rhannu’r antur, a rhannu’r ystyron hyn, yn darparu cyfleoedd newydd i gysylltu pobl a lle mewn cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.

https://cadw.llyw.cymru/dysgu/treftadaeth-15-munud

Delweddau

Cofeb Evan James Caerffili. Mae un o’n ceidwaid wedi bod yn darganfod beth sy’n rhoi Caerffili ar y map. Nid dim ond caws a chastell: o fewn taith gerdded fer o’r castell y mae cyfres o gofebion i bobl o’r dref sydd wedi cyfrannu at hanes a diwylliant Cymru. Evan James oedd awdur geiriau ein Hanthem Genedlaethol.