Dulliau Digidol o Gynllunio a Chreu Lleoedd

Athro Peter Madden, OBE, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd

Er y llu o ddatblygiadau digidol sy’n digwydd yng ngweddill yr economi a chymdeithas, mae llawer o’r ffyrdd rydyn ni’n cynllunio lleoedd yn parhau i fod yn hen-ffasiwn tu hwnt. Yn aml, rydyn ni’n ymweld â lleoedd yn uniongyrchol, yn defnyddio darluniau 2D, yn cyfri gyda chlipfyrddau, ac yn rhoi data mewn PDFs nad oes modd eu chwilio.

Mae hyn yn arbennig o wir ym myd cynllunio gwlad a thref, lle mae prosesau ddaeth yn sgil y rhyfel yn dal i gyd-fynd â pholisïau a roddwyd yn eu lle ar ôl y rhyfel. Mae'r system yn rhy aml yn araf, yn gymhleth, ac mae’n anodd cael pen ffordd ynddi. Mae cynllunwyr sy’n gorweithio ac nad ydyn nhw’n cael cydnabyddiaeth yn treulio gormod o'u hamser yn gwneud gwaith swyddfa ac yn ymateb i e-byst, yn lle creu lleoedd gwell.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn ymchwilio ac yn addysgu ynghylch sut i ddigideiddio’r system gynllunio, gan ymchwilio i bosibiliadau defnyddio data mawr, awtomeiddio, gefeilliaid digidol, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â’r peryglon moesegol ac ymarferol o’u ddefnyddio.

Mae cynlluniau peilot a threialon ardderchog yn digwydd ar draws y DU: defnyddio dadansoddeg data i ddylanwadu ar ddyrannu tai ym Manceinion Fwyaf, awtomeiddio ymholiadau cyffredin, fel ‘oes angen caniatâd cynllunio arnaf i?’ yn Southwark, defnyddio Hysbysiadau Safle Digidol yn ogystal â darnau o bapur wedi clymu at byst lamp yn Camden, neu ddefnyddio modelau 3D i gyfathrebu â phreswylwyr ym Mwrdeistref Dacorum. Mae’r rhain i gyd yn rhan o ddymuniad Llywodraeth y DU i fabwysiadu “dull radical, digidol-yn-gyntaf o foderneiddio’r broses gynllunio.”

Credwn fod gan y dulliau digidol hyn, sy’n cael eu harwain gan ddata, y potensial i gael canlyniadau gwell i gwsmeriaid a rhanddeiliaid, ac i roi cyfle go iawn i gynllunwyr gael cynllunio! Rydyn ni wedi bod yn addysgu’r genhedlaeth nesaf o gynllunwyr yn y llwybrau digidol hyn, ac rydyn ni hefyd yn cynnal sesiynau ar y cyd ag RTPI Cymru i gynllunwyr sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus.

Wrth gwrs, nid cael gwared ar elfen ddynol y broses o greu lleoedd a rhoi gefeilliaid digidol a deallusrwydd artiffisial yn ei lle yw’r bwriad. Dim ond cymaint a chymaint y gall peiriannau ei wneud. Pan ofynnwyd i Ustus y Goruchaf Lys, Potter Stewart, ddisgrifio sut roedd yn profi am anweddustra ym 1964, ymatebodd: "Rwy’n adnabod y peth pan fyddaf i’n ei weld." Mae'r un peth yn wir wrth geisio deall beth sy'n gwneud lle da: rydyn ni'n adnabod un pan rydyn ni'n ei weld - ac nid ei weld yn unig, ond yn ei deimlo, yn ei arogli, yn ei glywed a’i brofi. Mae creu lleoedd gwych yn gofyn am weithwyr proffesiynol hyfforddedig, sy'n deall y cyd-destun ac sy’n gwneud penderfyniadau cymhleth, ac ni ddylid dibynnu ar fodel sydd wedi’i greu gan feddalwedd i benderfynu ar bopeth drosom ni.

Ond gallwn ni ddefnyddio'r offer hyn, yn union fel y mae bodau dynol wedi defnyddio offer erioed, i wella ein gwaith. Y byd digidol yw’r dyfodol, ac mae angen i ni allu manteisio ar y gallu hwnnw mewn system gynllunio sy’n wynebu cyfres gynyddol o heriau. Felly, beth am wneud y defnydd gorau o bopeth sydd gan y byd digidol i'w gynnig?

Os oes diddordeb gennych chi mewn dilyn hyfforddiant mewn cynllunio digidol, ymunwch â’n cwrs DPP nesaf ar 10 Gorffennaf yng Nghaerdydd, a dysgwch gyda rhai o ymarferwyr blaenllaw’r maes.

Cynllunio Digidol - Datblygu proffesiynol - Prifysgol Caerdydd

Clod am ddelweddau: GeraltPixabay and thepmadden