
Creu Lleoedd Digidol: Sut mae Trefi Smart yn Trawsnewid Lleoedd yng Nghymru
Adam Greenwood, Arweinydd Creu Lleoedd Digidol gydag Owen Davies Consulting
Yng nghynhadledd ddiweddar Comisiwn Dylunio Cymru ar Greu Lleoedd ar gyfer Canol Trefi, trafodwyd y cydgyfeirio rhwng dau syniad a arferai gael eu hystyried ar wahân, sef creu lleoedd a datblygiadau digidol. Yng Nghymru, rydym yn gwirioneddol arwain y ffordd mewn creu lleoedd digidol.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae trefi ledled Cymru wedi bod yn archwilio creu lleoedd digidol. Boed yn ddadansoddi niferoedd ymwelwyr neu fonitro amgylcheddol, mae’r lleoedd hyn yn defnyddio data a thechnoleg i ddeall yn well sut mae trefi’n gweithredu – a sut y gallant weithredu’n well. Mae’r momentwm hwn yn helpu arweinwyr, busnesau a chymunedau lleol i fynd i’r afael â heriau sy’n eu hwynebu ers amser maith: hyfywedd y stryd fawr, darparu gwasanaethau, ennyn diddordeb ymwelwyr, a’r busnes cymhleth o reoli lleoedd ag adnoddau cyfyngedig.
Ymyriadau Bach, Effaith Sylweddol
Nid yw creu lleoedd digidol yn gofyn am brosiectau cyfalaf mawr. Mae’n cychwyn yn aml gydag ymyriadau syml: olrhain patrymau niferoedd ymwelwyr, mesur ffactorau amgylcheddol, neu fonitro amodau pridd i wella cynaliadwyedd.
Mae’r Fenni wedi gweithredu rhwydwaith synwyryddion sy’n monitro lleithder pridd a thymheredd yng nghanol y dref, gan alluogi dyfrhau mwy effeithlon a gwell penderfyniadau cynllunio. Fe wnaeth y dull arloesol hwn helpu’r dref i ennill Gwobr Garddio Cynaliadwy gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yng nghystadlaethau terfynol Prydain yn ei Blodau 2023.
Synhwyrydd lleithder pridd mewn cynhwysydd planhigion yn y / dashfwrdd data’r cynllun seilwaith gwyrdd
Defnyddio Data wrth Wneud Penderfyniadau
Mae’r egwyddor sylfaenol yn syml: mae gwell gwybodaeth yn arwain at well penderfyniadau. Mae data o ansawdd uchel yn galluogi cynghorau a’r rhai sy’n creu lleoedd i ddeall amodau amser-real a chynllunio’n fwy effeithiol.
Mae stori Wrecsam yn neilltuol o nodedig. Ers ennill statws dinas, a diddordeb byd-eang cynyddol ynddi yn sgil ei chlwb pêl-droed a’i huchelgeisiau Dinas Diwylliant 2029, mae’r ddinas wedi cofleidio creu lleoedd fel rhan o’i strategaeth drawsnewid ehangach. Mae Cynllun Lle Digidol y ddinas, a enillodd wobr Rhagoriaeth mewn Arferion Creu Lleoedd Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) Cymru yn 2024, wedi arwain penderfyniadau busnes, mentrau cymorth busnes, ac ymdrechion i leihau costau ac allyriadau carbon. Mae’r ddinas wedi defnyddio data synwyryddion i addasu cyfundrefnau cynnal a chadw a deall symudiadau ymwelwyr er mwyn cefnogi datblygiad y stryd fawr. Nid technoleg ffansi i greu argraff mo hyn – mae’n ymwneud â defnyddio’r offer iawn i ddeall lle yn gliriach.
Addas ac ar gael i Drefi o Bob Maint
I leoedd sy’n cychwyn ar eu taith Trefi Smart, gall creu lleoedd digidol ymddangos yn gostus neu’n dechnegol. Fodd bynnag, mae’r broses yn dilyn hanfodion creu lleoedd: deall blaenoriaethau lleol, ennyn diddordeb a chynnwys cymunedau, a datblygu cynlluniau gweithredu ymarferol.
Mae dull creu lleoedd digidol yn cychwyn gyda chyd-destun strategol ac asesiad seilwaith, yn symud ymlaen trwy gynnwys rhanddeiliaid, ac yn dod i ben gyda gweithredu seiliedig ar le. Mae’r dull hwn yn agor ein llygaid i’r dechnoleg, trwy alluogi trefi i ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na chymhlethdod.
Dull creu lleoedd digidol
Mae’n bwysig nodi nad yw’r dulliau hyn wedi eu cyfyngu i ardaloedd trefol mawr. Mae’r dechnoleg fel arfer yn fforddiadwy a hawdd ei chynnal a’i chadw, gan ei gwneud yn hygyrch i gymunedau o bob maint.
Cymru fel Arweinydd
Mae Cymru’n sefydlu ei hun fel arweinydd mewn creu lleoedd digidol. Mae rhaglen Trefi Smart Cymru wedi meithrin cymuned o ymarferwyr lleoedd a busnesau technoleg bach a chanolig yn cyfrannu at yr ecosystem hon sy’n tyfu. Mae gweithdai, cynadleddau ac adnoddau fel y Llawlyfr Cyflenwi Trefi Smart yn grymuso awdurdodau lleol â’r offer a’r hyder i weithredu’r strategaethau hyn.
Gyda chymorth cyllid trwy Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae integreiddio meddylfryd Trefi Smart i arferion bob dydd yn dod yn fwyfwy hygyrch.
Rhagolygon at y Dyfodol
Wrth i drefi Cymru wynebu crebachu mewn cyllidebau, pwysau hinsawdd, a newid yn nisgwyliadau’r cyhoedd, mae creu lleoedd digidol yn cynnig ffordd i weithio’n glyfrach a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.
I lawer o gymunedau, mae’r daith yn cychwyn trwy archwilio sut y gallai data gefnogi blaenoriaethau presennol: parciau gwyrddach, stryd fawr fwy bywiog, neu farchnadoedd wedi eu rheoli’n well. Nid uchelgeisiau sy’n perthyn i’r dyfodol pell yw’r rhain ond anghenion o ddydd i ddydd y mae creu lleoedd digidol yn ymdrin fwyfwy â nhw.
Darllen Pellach
Digital Placemaking, Owen Davies Consulting: https://owendaviesconsulting.co.uk/portfolio/digital-placemaking/
Rhaglen Trefi Smart Cymru: https://www.smarttowns.cymru/cy/hafan
Llawlyfr Cyflenwi Trefi Smart Cymru: https://www.smarttowns.cymru/cy/llawlyfr-cyflenwi-trefi-smart.html
Cysylltwch i gael gwybod mwy am ein dull Creu Lleoedd Digidol
Adam Greenwood, Arweinydd Creu Lleoedd Digidol, Owen Davies Consulting
adam@owendaviesconsulting.co.uk