Categories
Comment Press & Comment

Dylunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru – Ymgynghoriad ar Ddogfen Ganllaw Ddrafft

 Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn ymgysylltu am yr ail dro ar y canllawiau drafft – Dylunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 24 Ebrill 2023, a’r dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 19 Mehefin 2023.

Gweler ein llythyr i gael rhagor o wybodaeth.

I roi sylwadau, llenwch yr holiadur yn unol â’r fformat a nodir yn y deunyddiau ymgynghori, a’i anfon dros yr e-bost at connect@dcfw.org.

Diolch yn fawr.

Categories
Comment Press & Comment

Ystyr Enwau Lleoedd: Pwysigrwydd Enwau Lleoedd Cymraeg mewn Hinsawdd sy’n Newid

Un o chwe elfen siarter Creu Lleoedd Cymru yw ‘Hunaniaeth’. Mae iaith sy’n ffynnu a chyfoeth diwylliannol hefyd yn gonglfeini Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae llawer o leoedd Cymru, p’un a ydynt yn rhai hynafol neu rai modern, yn cael eu hamgyffred yn ôl eu hystyr, ac mae eu hystyr yn ddealladwy o hyd mewn Cymraeg cyfoes. Ond sut maen nhw’n cyfleu ‘hunaniaeth’, ac a allai hunaniaeth lle gael ei heffeithio gan hinsawdd sy’n newid?

Mae enwau lleoedd Cymraeg yn aml yn dweud wrthym am dirwedd y lle, yn ogystal â’i leoliad, ei hanes a’i dreftadaeth. Mae’r enw’n rhan hanfodol o’i hunaniaeth. Gydag effeithiau newid hinsawdd yn bygwth siapio dyfodol tirwedd Cymru, mae hi’n bwysicach nag erioed ein bod yn gwerthfawrogi’r hyn y mae’r enwau hyn yn ei olygu. Pan fo’r hinsawdd yn newid, mae’r tir yn newid – tir sydd wedi ei siapio, ei adnabod a’i ddirnad ers cenedlaethau. O’r herwydd, heb gamau gweithredu sylweddol, gallai ein henwau lleoedd droi’n gerrig coffa sy’n  cyfleu’r hyn a oedd yn arfer bod, nid yr hyn sydd.

Mae Aberteifi, Abergwyngregyn, Aberystwyth, Aberarth, Abertawe ac Aberdaugleddau wedi’u lleoli wrth yr arfordir, ac yn aml, ystyr ‘Aber’ yw cydlifiad dau gorff o ddŵr. Gall hyn gyfleu newid yn y dirwedd i’r dyfodol.

Gallai lleoedd ag enwau megis Glanyfferi, Glanyrafon, Glan-y-wern, a Glan-y-gors, lle bo ‘glan’ yn awgrymu lleoliad wrth dŵr, weld newid mawr yn sgil llanwau cyfnewidiol a llifogydd. Mae ‘traeth’ yn air arall sydd i’w weld yn aml mewn  enwau lleoedd Cymru. Mae Pentraeth, Traeth Mawr, Trefdraeth a Traeth Bach oll yn cynnwys yr elfen hon.

Mae Cors Fochno, Cors Caron, Cors Ddyga, a Glan-y-gors oll yn cynnwys y gair ‘cors’, sy’n cyfeirio at gorstir. Wrth i fawn gael ei echdynnu ar raddfa ddiwydiannol, ac wrth i losgi effeithio ar gorstiroedd, mae’n hanfodol bwysig bod y tirweddau hyn yn cael eu hamddiffyn, eu cydnabod am eu pwysigrwydd, a’u dathlu. Mae ‘gwern’ yn cyfeirio at y wernen, sef coeden sy’n tyfu mewn gwlypdiroedd a chorstiroedd, ac mae i’w gweld mewn enwau megis Gwernydomen, Gwernymynydd, Glanywern, a Penywern.

Mae tirweddau ac iaith yn llawn awgrymiadau a all ddweud wrthym am hanes ardal, a hanes y bobl a chymunedau ledled Cymru. Mae ‘ynys’ yn golygu tir wedi’i amgylchynu gan ddŵr, ac mae i’w weld mewn enwau ynysoedd megis Ynys Llanddwyn, ond hefyd ar ardaloedd mewndirol, megis Ynyslas ger Aberystwyth.

Mae Morfa yn cyfeirio at forfa heli neu rostir, ac mae i’w weld mewn enwau lleoedd megis Tremorfa, Morfa Nefyn, Morfa Bach, Penmorfa, a Morfa Harlech. Gallai’r  tirweddau newid yn sylweddol oherwydd y defnydd o blaladdwyr a gwrtaith ar dir amaeth cyfagos, cynnydd yn lefel y môr a llygredd mewn afonydd. Os caiff y lleoedd hyn eu trawsnewid, a allant barhau i fod yn forfeydd?

Mae llawer o elfennau enwau lleoedd Cymru yn dweud wrthym am eu tirwedd a’u lleoliad, megis Mign, Tywyn, Trwyn, Pwll, Rhyd, Penrhyn, Sarn, Ystum, Cildraeth, Gwastad, Isel a Gwaelod – yn aml, bydd hyd yn oed y rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl yn deall y rhain. Maent yn ystyrlon – maen nhw’n clymu’r rheiny sy’n ymuniaethu fel pobl Gymreig mewn cyd-ddiwylliant..

Mae’n hynod bwysig bod yr enwau lleoedd hyn yn cael eu cydnabod a’u dathlu. Nid yw lleoedd nac enwau lleoedd yn bodoli ar eu pennau eu hunain: ffrwyth gweithredu a dehongli ydyn nhw. P’un a ydyn nhw’n rhai modern neu rai hynafol, mae ffordd o fyw rhywrai wedi llunio’r lle hwnnw; mae rhywrai wedi ystyried y dirwedd a rhoi enw arni ar sail eu profiad ohoni. Mae’r enwi a’r llunio hwnnw yn troi tir yn lle.

Mae tirwedd Cymru yn gyforiog o’r enwau hyn. Chwiliwch amdanyn nhw, dysgwch am eu hystyr, cysylltwch â’r gorffennol a wnaeth eu siapio nhw, ac fe fydd y tir yn llefaru.

gan Efa Lois

Categories
Comment Press & Comment

DCFW sy’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 – Yr Athro Juliet Davis

Mae ein cydweithiwr Yr Athro Juliet Davis yn rhannu ei meddyliau heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a helpu #breakthebias #IWD #IWD2022

Yr Athro Juliet Davis

Flynyddoedd yn ôl, cefais gyfle i ymweld â safle adeilad cyhoeddus adnabyddus yn Llundain pan oedd yn dal yn safle adeiladu. Y peth cyntaf roedd yn rhaid i mi ei wneud ar ddechrau’r ymweliad oedd mynd i nôl het galed ac esgidiau addas o swyddfa’r contractwr. Roedd un o’r fformyn wedi cael y dasg o ddosbarthu esgidiau o faint addas i’r ymwelwyr. Pan ddaeth ataf fi, roedd yn poeni y byddai’r esgidiau i gyd yn rhy fawr. Sefais o’i flaen, fy nhrwyn i ar yr un lefel â’i gorun ef. “Beth yw maint dy draed?”, gofynnodd, yn ddigon dymunol. “Maint 10, EU 45”, meddwn i. Dyw hyn ddim yn syndod; rwyf dros chwe troedfedd.

Mae’r gallu hwn i gynnal delwedd ystrydebol, hyd yn oed pan fo’r dystiolaeth yn amlwg yn gwrthbrofi hynny, yn fath o ragfarn. Dim ond stori ddifyr yw hon, wrth gwrs, ond mae’n dangos ffaith ddifrifol rydym yn tueddu i’w hanghofio – nad yr hyn rydym yn tybio ein bod yn ei weld â’n llygaid yw’r darlun cywir o reidrwydd, a bod ein canfyddiad o rywun arall bob amser yn cael ei ddatblygu mewn cyd-destun cymdeithasol. Fel y mae John Berger yn dadlau, mae gwahanol ‘ffyrdd o weld’ yn bosibl. Mae ffactorau cymdeithasol a ffisiolegol yn cyfuno i ffurfio delweddau, rhagdybiaethau a disgwyliadau sy’n cael eu cyfleu i bobl eraill.

Mae gweld a delweddu pobl a lleoedd yn rhan o weithgaredd craidd penseiri, ac addysg bensaernïol. Mae dylunwyr yn dysgu yn gynnar iawn sut i arsylwi ar y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio ac yn defnyddio lleoedd bob dydd, a sut i leoli pobl yn y lleoedd y maent yn eu dychmygu. A ydym yn eu haddysgu ddigon ynglŷn â phwy maent yn ei weld a sut, ynglŷn â sut y gallai rhagdybiaethau ddylanwadu ar eu dadansoddiadau? Ynglŷn â sut y gall ffrâm llun gynnwys a chau allan? Ynglŷn â’r tybiaethau ynghylch pobl, rolau a photensial y gall cynlluniau a chyflwyniadau pensaernïol eu cynnwys?

Mae ymrwymo i fynd i’r afael â rhagfarn mewn ysgol bensaernïaeth yn golygu cydnabod prosiect amlweddog sy’n cynnwys agweddau newydd at hanes dylunio, ailedrych ar hen ffurfiau addysgegol fel y ‘feirniadaeth’ a thrawsnewid diwylliannau stiwdio sy’n arwain at oriau gwaith hir. Ond, i mi, mae mynd i’r afael â materion gweld hefyd yn hanfodol os ydym am sicrhau nad yw penseiri ifanc heddiw yn ymestyn anghyfiawnderau sydd â’u gwreiddiau mewn rhagfarn drwy amgylchedd adeiledig yfory, gan gyfyngu’r cyfleoedd i ferched a menywod mewn gwahanol gyfnodau o’u bywyd ac o wahanol gefndiroedd diwylliannol ddefnyddio mannau cyhoeddus yn gyfforddus ac yn ddiogel, a datblygu eu potensial yn y gweithle.

Fel mae fy stori agoriadol yn awgrymu, mae mynd i’r afael â materion yn ymwneud â gweld yn dasg bwysig ar draws y diwydiant adeiladu gan fod stereoteipiau yn gallu effeithio ar lawer mwy o bethau na dewis esgidiau, gan fwrw amheuaeth ar wybodaeth a hyfedredd proffesiynol menywod, a dylanwadu ar eu gallu i gyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae gan ysgolion ran i’w chwarae yn y cyswllt hwn hefyd wrth iddynt baratoi menywod ar gyfer gyrfaoedd yn ymarferol ac ymgysylltu â chyrff proffesiynol. Fel y fenyw gyntaf i fod yn bennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru, rwyf wedi ymrwymo i bob agwedd ar y prosiect.

Juliet Davis yw Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Categories
Comment Press & Comment

DCFW sy’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 – Cora Kwiatkowski

Mae ein cydweithiwr Cora Kwiatkowski yn rhannu ei meddyliau heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a helpu #breakthebias #IWD #IWD2022

 

Cora Kwiatkowski

Heb os nac oni bai, mae llawer iawn o bwysau yn y diwydiant adeiladu, ac mae cymaint o bethau pwysig i’w hystyried – rhaglen, cyllideb, ac yn y pen draw, llwyddiant lleoedd a mannau rydym yn eu creu i bobl am flynyddoedd. Mae prosiectau’n mynd yn fwy a mwy cymhleth â’r timau’n mynd yn fwy ac yn fwy. O ganlyniad, mae angen i ni wneud llawer o benderfyniadau yn gyflym – a dyma lle mae tuedd naturiol i’n hymennydd symleiddio gwybodaeth sy’n berthnasol i’n gwaith, a hefyd i’r bobl rydym yn gweithio â hwy. Mae llawer o ymddygiadau ac agweddau’n deillio o, yn cael eu dylanwadu gan ac yn dibynnu ar brosesau meddyliol sy’n symleiddio ffeithiau ac yn categoreiddio pobl i stereoteipiau, heb i ni hyd yn oed sylweddoli.

Mae rhagfarn ym mhobman: rhywedd, oed, tarddiad, acen – hyd yn oed taldra a harddwch. Mae angen i bob un ohonom gadw meddwl agored, edrych o ddifri arnom ni ein hunain a chamu’n ôl oddi wrth ragdybiaethau, hyd yn oed os yw’n golygu mwy o ymdrech.

Er bod ein diwydiant yn cael ei gydnabod yn ehangach ac yn cael ei ddeall yn well erbyn hyn, mae llawer o waith i’w wneud eto er mwyn mynd i’r afael â rhagfarn. Mae’n anodd iawn newid canfyddiadau. Bydd cydnabod llwyddiant pawb a pharchu personoliaeth a chyfraniad pawb i’r diwydiant hwn, sy’n cynnwys dynion gwyn canol oed gan mwyaf, yn helpu i newid pethau – dylai fod yn normal i weld menywod a phobl â lliw croen gwahanol mewn rolau strategol, yn arwain cwmnïau yn ogystal â phrosiectau proffil uchel, gan symud y diwydiant cyfan yn ei flaen. A phan fyddwn yn eu cyfarfod, gadewch i ni fod yn gefn iddynt a sicrhau eu bod yn cael lle hyd yn oed yn fwy amlwg.

Wrth edrych ar fy ngwaith i fy hun, fyddwn i ddim wedi gallu llwyddo ar fy mhen fy hun yn unrhyw un o’r prosiectau anhygoel rydw i wedi’u dylunio. Roedd angen cefnogaeth tîm cyfan i wneud i bethau ddigwydd, yn seiliedig ar barch rhwng y ddwy ochr, gweld y ‘person go iawn’ yn hytrach na’r stereoteip, cyfathrebu a gwaith tîm – gwerthfawrogi cyfraniad pawb. Mae creu perthnasoedd hirdymor a rhwydwaith cefnogi yn gwneud prosiectau’n fwy o hwyl, a hefyd yn galluogi sgyrsiau gonest sy’n ein helpu i oresgyn rhwystrau posibl. Mae’n bendant yn teimlo’n haws i wneud hynny mewn amgylchedd amlweddog megis addysg uwch lle mae mwy o amrywiaeth yn barod ymhlith dylunwyr, cleientiaid a defnyddwyr.

Nid yw un persbectif yn arwain at arloesi. Nid yw un person yn mynd i allu rhoi’r atebion i gyd. Nid yw pawb yn meddwl yr un fath. Mae gwahanol bersbectifau a syniadau yn cyflymu dulliau creadigol o ddatrys problemau. Yn hytrach na bod yn ddiog ac yn gul ein meddyliau, gadewch i ni fod yn agored ac yn gynhwysol fel bod pawb yn elwa!

 

Mae Cora Kwiatkowski yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol yn Stride Treglown ac yn un o Gomisiynwyr DCFW.

Categories
Comment Press & Comment

DCFW sy’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 – Chithra Marsh

Mae ein cydweithiwr Chithra Marsh yn rhannu ei meddyliau heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a helpu #breakthebias #IWD #IWD2022

Chithra Marsh

LLYTHYR DIOLCH I FAM BENDERFYNOL

Annwyl Mam,

Ar ôl yr holl amser!

Rwyf wedi bod yn meddwl llawer amdanoch yn ddiweddar – am y gwersi y gwnaethoch eu dysgu i mi drwy ddweud eich storïau drosodd a throsodd, a sut y gwnaethoch chi ddylanwadu arna i a’m gwneud yn fenyw Indiaidd gref ag uchelgais.

Ro’n i wrth fy modd yn clywed mai chi oedd y fenyw gyntaf i fynd allan i weithio yn ein teulu ni. Mae’n rhaid bod mynd yn groes i’r traddodiad wedi bod yn anodd, ond cawsoch eich gwobrwyo â swydd mewn cyfnewidfa ffôn a wnaeth eich helpu i wella eich sgiliau Saesneg a gwneud ffrindiau da. Rwy’n siŵr eich bod wedi cael llawer o hwyl hefyd!

Roedd gadael diogelwch cartref eich teulu yn Bangalore a symud i’r DU gyda Dad yn y 1960au, a mynd ati ar unwaith i chwilio am waith a sicrhau eich annibyniaeth, hefyd yn gam dewr. Gwrthod y swydd mewn siop saris a gynigiodd y ganolfan waith i chi fel yr unig opsiwn i fenyw Indiaidd, a chychwyn gyrfa faith ym maes Cyfrifon.

Roeddech chi eisiau ffitio i mewn, felly fe wnaethoch chi beth oedd yn rhaid i chi ei wneud er mwyn cael eich derbyn yn y byd newydd hwn. Gwisgo dillad ‘Gorllewinol’, a chadw eich saris at achlysuron arbennig. Bod yn ofalus wrth goginio hefyd, gan gadw’r cymdogion yn hapus drwy wneud yn siŵr nad oedd arogl y bwyd yn rhy gryf. Trueni na fyddech chi wedi cael eich derbyn a’ch gwerthfawrogi am yr hyn oeddech chi – menyw Indiaidd falch ag uchelgais (a oedd yn coginio seigiau anhygoel o Dde India!)

Roeddech chi am i mi gael fy nhrin fel pob plentyn arall o’r dechrau un, a pheidio â theimlo fy mod yn wahanol, felly dyma chi’n dweud hynny wrth fy athrawes gyntaf. Fe wnaethoch chi fy annog i barchu fy nhreftadaeth a’m diwylliant Hindŵaidd, ac roedd gennych ddisgwyliadau uchel ar gyfer fy addysg a’m gyrfa.

Roedd yna adegau pan nad o’n i’n gwerthfawrogi beth roeddech chi’n ceisio ei wneud, ond o edrych yn ôl, rwy’n gwybod mai ceisio rhoi gwell cyfleoedd i mi gael fy nerbyn ac i ffynnu oedd eich bwriad. Er nad ydych chi yma nawr, mae eich llais yn fy mhen ac mae eich storïau yn ysbrydoliaeth i mi.

Diolch i chi, rwyf wedi ymrwymo i gefnogi cynhwysedd ac amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu. Rwyf eisiau ysgogi newid cadarnhaol fel na fydd neb arall yn teimlo bod angen newid pwy ydyn nhw er mwyn ffitio i mewn.

Dim rhagfarn. Dim stereoteipiau. Dim gwahaniaethu.

Diolch Mam.

#breakthebias #IWD2022

 

Mae Chithra Marsh yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn Buttress Architects.

Categories
Comment Press & Comment

DCFW yn dathlu Diwrnod y Llyfr 2022

Er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr 2022, gofynnon ni i ffrindiau a chydweithwyr DCFW am y llyfrau maen nhw’n eu hargymell.

Cora Kwiatkowski

Rydw i’n un sydd wedi caru llyfrau erioed. Fel arfer byddaf yn darllen beth bynnag sy’n dod i law ac sy’n cael ei argymell i mi, a does dim digon o le ar fy silffoedd llyfrau i’w dal nhw i gyd felly roedd yn rhaid alltudio rhai ohonyn nhw i’r atig, ond iddyn nhw gael eu nôl wedyn ar ôl ychydig, a darllen rhai ohonyn nhw eto. Pan oeddwn yn fy arddegau, fy hoff le i ddarllen ar wyliau oedd wrth eistedd 5 metr i fyny mewn coeden!

Rydw i’n berchen ar ddewis da o lyfrau ar bensaernïaeth a dylunio ond, yn fwy diweddar, rydw i wedi troi at ddarllen erthyglau mewn cylchlythyrau ac ar y rhyngrwyd yn eu lle.

Er hynny, mae yna lyfrau weithiau sy’n dal fy sylw, a rhaid i mi eu prynu nhw, er gwaethaf y diffyg lle. Ar ôl gweld arddangosfa Renzo Piano yn yr Academi Frenhinol yn Llundain a gynhaliwyd rhwng Medi 2018 ac Ionawr 2019, cefais i fy ysbrydoli gymaint gan y ffilm fer a’r cyfweliad gan Thomas Riedelsheimer a ddangoswyd yn yr ystafell lle adeiladwyd ‘Piano Island’ – model mawr gyda’r holl brosiectau mae wedi gweithio arnyn nhw – fel fy mod i am ail-fyw’r profiad a dal i gael fy ysbrydoli gan syniadau Piano. Mae’r testun dehongliadol ‘Renzo Piano: The Art of Making Buildings’ yn rhoi lle canolog i gyfweliad tebyg ac mae rhywun yn cael y teimlad bod Renzo Piano yn yr ystafell gyda chi.

Mae ei waith wedi fy nilyn ar hyd fy ngyrfa. Pan oeddwn yn fyfyriwr, roedd gen i feddwl mawr o Ganolfan Ddiwylliannol Jean-Marie Tjibaou, Nouméa (1998), sy’n cynnwys strwythurau lluniaidd sy’n cyfuno traddodiad a chyd-destun â pheirianneg fodern ac apêl ddiwylliannol. Nawr bydda i’n gweld The Shard (2012), un o’i adeiladau mwy diweddar, bron bob tro y bydda i yn Llundain, adeilad mor finiog â nodwydd yn marcio’r canol.

Mae Piano yn sôn am ‘harddwch’ – gair sydd wedi’i drafod yn helaeth yn ddiweddar – a pha mor hynod o gymhleth y mae. Rhywbeth y mae pob un ohonyn ni’n dyheu am ei weld; mae’n cael ei alw’n rhywbeth tebyg i Atlantis. Rhywbeth y byddwch chi’n chwilio amdano ond byth yn ei gael – ond fe allwch ddod yn agos. Mae ein gwaith ni fel penseiri yn ymwneud â chreu lleoedd i bobl a dod â harddwch yn ôl i’r byd rydyn ni’n byw ynddo.

Wrth gamu’n ôl o’r gwaith dylunio pob dydd a’i heriau, mae’n braf cael ein hatgoffa am bwysigrwydd ein gwaith ac am yr effaith y mae ein hadeiladau’n gallu ei chael.

Ar hyn o bryd rydw i’n darllen Spring Cannot Be Cancelled’ – David Hockney in Normandy’. Llyfr sy’n eich atgoffa am y gallu sydd gan gelfyddyd i dynnu’ch sylw a’ch ysbrydoli. Mae’r ohebiaeth lawen hon rhwng dau ffrind – Hockney a Martin Gayford – nid yn unig yn gadael i ni gymryd rhan yn eu bywydau ond mae hefyd yn bersonol iawn – y ffordd syml o fyw a oedd gan David Hockney ar ganol y cyfnod clo, agosáu at natur eto a mwynhau’r gallu i ganolbwyntio ar bethau. Byddwch yn barod am ragor o argymhellion am lyfrau i’w darllen a mwynhewch y darluniau hardd, rhai ohonyn nhw heb eu cyhoeddi o’r blaen. Mae David Hockney yn dangos i ni sut i weld pethau a sut mae ei fywyd wedi newid, gan ganolbwyntio ar y pethau hanfodol mewn bywyd. Rydw i’n ei gymeradwyo’n fawr!

Mae Cora Kwiatkowski yn Gyfarwyddwr Adrannol yn Stride Treglown ac yn Gomisiynydd DCFW.

Dolenni:

Darllenwch a gwyliwch y testun a’r ffilmiau yn ffilm arddangosfa Renzo Piano. Comisiynwyd y gosodwaith ffilm dwy sgrin hwn sy’n 17 munud o hyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa. © Academi Frenhinol y Celfyddydau, Llundain, 2018. Ffilm gan Thomas Riedelsheimer

Prynwch y llyfrau:

Renzo Piano: The Art of Making Buildings

Spring Cannot be Cancelled: David Hockney in Normandy 

 

Jon James

Mae llyfrau ac amrywiaeth o ddeunyddiau darllen yn ein hysbrydoli ni i gyd mewn sawl ffordd – rydw i bob amser yn ceisio darllen cymysgedd o draethodau pensaernïol a llyfrau sy’n gallu rhoi darlun diwylliannol gwahanol i mi, na fydda i byth yn ei brofi fy hun. Mae gen i arfer drwg o ddarllen mwy nag un llyfr ar yr un pryd ac rydw i’n tueddu i stopio ac ailgychwyn: weithiau misoedd ar wahân!

Ar hyn o bryd, rydw i ar ganol dau lyfr, sef Gandhi’s autobiography: The Story of My Experiments with Truth ac rydw i hefyd newydd ddechrau Still Breathing: Black Voices on Racism – 100 Ways to change the narrative. Mae’r ddwy gyfrol yn ymwneud â phrofiadau a safbwyntiau uniongyrchol sy’n gwneud i chi feddwl mewn ffyrdd gwahanol am realiti a dewrder wynebu adfyd. Mae bron popeth rydw i’n ei ddarllen yn ffeithiol, yn fywgraffyddol neu’n hunangofiannol, ond darllenais lyfr cwbl wahanol yn ddiweddar, sy’n enwog am ei syniadau pellgyrhaeddol o’r enw The Power gan Naomi Alderman. Yn y bôn, mae’r stori’n ymwneud â menywod yn ennill pwerau i fod y rhyw cryfaf yn y byd. Mae wedi’i ysgrifennu’n wych, mae’n procio’r meddwl ac yn afaelgar o’r dechrau i’r diwedd.

O ran Pensaernïaeth, mae nifer o lyfrau sy’n sefyll allan i mi. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddeunydd darllen nodweddiadol i Bensaer ond sydd, er hynny, yn bwysig ac wedi fy ysbrydoli drwy gydol fy ngyrfa. Mae Towards a New Architecture gan Le Corbusier yn bwysig am ei ddadleuon o ran ysgogi trafodaeth ar wahanol lefelau. Mae’n amrywio o’r raddfa fodiwlaidd ddynol i’r cynllunio trefol ar gyfer dinas gyfan. Mae’n fy atgoffa i ehangu fy ngorwelion a dysgu o’r gorffennol, ac fe wnaeth fy annog i deithio gymaint â phosibl a deall llefydd hanesyddol fel yr Acropolis. Mae hyn, yn ei dro, yn llywio’r dyfodol, ond rhaid i ni hefyd fod yn y presennol ac nid myfyrio ar hiraeth y gorffennol. Mae hyn yn arbennig o ingol i mi wrth i ni wynebu’r argyfwng hinsawdd; sy’n fy arwain yn naturiol at gyfrol wych Richard Rogers, Cities for a small planet (a’r gyfrol ategol Cities for a small country); fe’i hysgrifennwyd tua 25 mlynedd yn ôl, ond mae’r un mor berthnasol heddiw. Yn bennaf oll, mae’n dangos bod angen newid diwylliannol i’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn werthfawr yn ein hamgylchedd adeiledig, sydd wedi cael ei ddominyddu ers degawdau gan y sector eiddo tirol yn gwneud arian. Rydw i’n hoffi meddwl bod pethau’n newid nawr a bod y pwyslais erbyn hyn ar gynaliadwyedd.

Yn ogystal â deunydd ysgrifenedig, a minnau mewn proffesiwn gweledol, rydw i’n mwynhau llyfrau heb eiriau hefyd. Mae rhai llyfrau’n cynnwys syniadau dylunio/adeiladau/deunyddiau a manylion ynghylch sut mae ein hadeiladau a’n mannau yn cael eu creu ac o beth maen nhw wedi’u creu.

Yn olaf, fel beiciwr amatur sy’n byw yn Ne Cymru, rydw i wedi mwynhau cyfrol hunangofiannol Geraint Thomas, Enillydd Tour De France – mae gen i gopi wedi’i lofnodi o’r llyfr. Yn benodol, ei anturiaethau dros fryniau, Dyffrynnoedd a Mynyddoedd y De ac o’u hamgylch. Gall unrhyw un sydd wedi beicio uniaethu â’i brofiadau, hyd yn oed os yw ydyn nhw’n teithio ar gyflymder fymryn yn wahanol!

Mae Diwrnod y Llyfr yn esgus gwych i stopio, myfyrio a rhannu. Rydw i’n edrych ymlaen at ddarllen argymhellion pobl eraill er mwyn gallu parhau i gael fy ysbrydoli o’r newydd.

Mae Jon James yn Bensaer cofrestredig, yn ddylunydd Passivhaus ardystiedig, ac yn Gomisiynydd DCFW.

Prynwch y llyfrau:

An Autobiography – M K Gandhi 

Still Breathing: 100 Black Voices on Racism–100 Ways to Change the Narrative

The Power – Naomi Alderman

Towards a New Architecture – Le Corbusier

Cities for a Small Planet – Lord Richard Rogers

Cities for a Small Country – Lord Richard Rogers

The Tour According to G: My Journey to the Yellow Jersey – Geraint Thomas

World of Cycling According to G – Geraint Thomas

Mountains According to G – Geraint Thomas

 

Gayna Jones

Mae’r llyfr Invisible Women – Exposing Data Bias in a World Designed for Men gan Caroline Criado Perez wedi agor fy llygaid i’r ffordd ‘mewn byd sydd wedi’i adeiladu’n bennaf ar gyfer dynion a ganddyn nhw, rydyn ni’n anwybyddu hanner y boblogaeth mewn modd systematig’. Rydw i’n fenyw mewn byd a ddyluniwyd gan ddynion!

Roedd y llwybr a ddilynais cyn dod i’r Comisiwn Dylunio wedi dechrau ym maes tai cymdeithasol, lle gall y dylunio fod yn wael. Wrth ddarllen y llyfr hwn, roedd fy mhrofiad yn dechrau gwneud synnwyr i mi.
Yn fy nghegin, mae rhai cypyrddau’n uchel. Mae’r rhan fwyaf o ddynion yn gallu eu cyrraedd, ond fel menyw â thaldra o 5’4”, dydw i ddim. Mae Criado-Perez yn nodi bod y ffordd o weld dynion fel y ‘bod dynol diofyn’ yn hanfodol i strwythur cymdeithas ddynol ac mae’n darparu llawer o ddata i brofi hynny. Un enghraifft syml yw’r ffordd y mae pethau mor wahanol â phiano a ffôn clyfar yn cael eu dylunio ar gyfer maint cyfartalog y llaw wrywaidd.

Mae’n dangos bod ceir yn cael eu dylunio ar gyfer dynion a chanddyn nhw, gan greu problemau go iawn o ran diogelwch i fenywod. Un enghraifft o hyn sy’n achosi rhwystredigaeth i mi yw gwregysau diogelwch mewn ceir; dydw i erioed wedi cael un sy’n gyfforddus!

Bydd stadau tai’n cael eu dylunio’n bennaf i gwrdd ag anghenion ceir yn hytrach na phobl, gan anwybyddu anghenion plant yn benodol mewn llawer achos. Yn rhannol o ganlyniad i’r pandemig, rydyn ni’n dechrau rhoi’r gorau i’r arfer o ddangos mwy o barch at geir nag at gerddwyr, ond mae’r rhan fwyaf o stadau’n cael eu dylunio o hyd ar sail priffyrdd, mannau parcio a’r defnydd o geir. Mae’r rhan fwyaf o lawer o weithwyr trafnidiaeth proffesiynol yn ddynion. Meddai Criado-Perez, ‘mae’r ymchwil sydd ar gael yn dangos yn glir fod tuedd at foddau trafnidiaeth gwrywaidd’. Mae trafnidiaeth yn cael ei dylunio’n bennaf ar sail patrymau teithio dynion – yn ddiofyn; dwy siwrnai bob dydd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, yn hytrach na nifer o deithiau i’r ysgol, siopau, at berthnasau, i gyfleusterau gofal iechyd. Mae’n darparu ar gyfer dynion sy’n teithio ar eu pen eu hunain, yn hytrach na menywod sy’n teithio gyda neges siopa, bygis, plant, neu berthnasau oedrannus. ‘Mae palmentydd cul, anwastad â chraciau, yn llawn dodrefn stryd wedi’u lleoli’n wael, ynghyd â grisiau cul a serth, yn ei gwneud yn anodd iawn mynd o gwmpas dinas gyda bygi’. Bydd nifer mawr o fenywod yn teimlo’n anniogel mewn lleoedd fel safleoedd bysiau, ond mae lleoedd trefol wedi’u dylunio heb roi ystyriaeth i hyn. Nid yw goleuadau stryd yn cael dim neu nemor ddim blaenoriaeth.

Ceir enghraifft dda arall yn Sweden, lle maen nhw’n rhoi blaenoriaeth i glirio eira oddi ar y ffyrdd er mwyn ceir, yn hytrach nag oddi ar balmentydd sy’n cael eu defnyddio’n bennaf gan fenywod sy’n cerdded. Drwy newid y flaenoriaeth hon, cafwyd gostyngiad mawr yn nifer y damweiniau.

Mae’r llyfr hwn yn eich helpu i weld sut mae pethau fel y maen nhw a’i bod yn hen bryd cael newid pwyslais. Rydw i’n ei gymeradwyo’n fawr.

Gayna Jones yw Cadeirydd Comisiwn Dylunio Cymru.

Prynwch y llyfr:
Invisible Women: Exposing Data Bias in a World Designed for Men – Caroline Criado-Perez

 

Martin Knight

Rydw i wrth fy modd o gael llyfrau o’m cwmpas, er na alla i feddwl pa bryd y caf amser i’w darllen. Bydd cyfle prin yn codi ym mis Ionawr, gyda’r nosweithiau hir a llond lle o lyfrau pen blwydd a Nadolig i fynd drwyddyn nhw.

Rydw i wedi dewis pedwar llyfr i ddathlu Diwrnod y Llyfr, tri ohonyn nhw’n rhai cyfoes ac yn rhai i’w darllen er mwyn pleser yn ogystal â chael gwybodaeth. Mae’r pedwerydd yn un rydw i wedi’i ddarllen lawer gwaith ac sy’n cynnig ysbrydoliaeth a goleuni yn ogystal â mwynhad.

Yn ddiweddar, prynais David Mellor: Master Metalworker wrth ymweld â Ffatri Cytleri David Mellor yn Hathersage, Swydd Derby. Er fy mod i’n gwybod am eu cytleri o waith llaw a’u ffatri hardd yn y Peak District, a ddyluniwyd gan y Penseiri Hopkins, roeddwn i’n gwybod llai am y rhan a chwaraeodd David Mellor ym maes dylunio ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Mae ei waith yn cynnwys nwyddau cain i’r bwrdd ar gyfer digwyddiadau ffasiynol a dodrefn stryd y gellir eu hadnabod ar unwaith, yn cynnwys y goleuadau traffig eiconig ym Mhrydain, croesfan i gerddwyr (gyda’r botwm y mae pob plentyn wedi teimlo’r awydd i’w bwyso), a chysgodfannau safleoedd bysiau. Mae pwysigrwydd y dylunio, boed ar gyfer digwyddiadau anghyffredin neu fywyd pob dydd, wedi’i groniclo’n feddylgar.

Mae ei helyntion dyddiol yn Tour de France y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu cofnodi’n boenus o onest yn Tour de Force, gan Mark Cavendish. Mae’r naratif cyffrous hyd yn oed yn fwy emosiynol o gofio ei fod yn dychwelyd ar ôl rhai blynyddoedd o salwch, anafiadau a pherfformiad gwael. Gafaelgar iawn yw’r disgrifiad o’r gwaith manwl o baratoi’r athletwr a’r peiriant – bob amser o dan lygad barcud y swyddogion mewn camp sydd â hanes budr iddo – ynghyd â hunan-gred anorchfygol yr athletwr elît.

Cefais fenthyg copi o eiddo fy ewythr o Island Years, Island Farm gan Frank Fraser Darling yr haf diwethaf (prynais un i mi fy hun ers hynny!), yn dilyn sgwrs am dreftadaeth ein hynys ein hunain. Dyma ddisgrifiad arall o ymdrech galed – un dros dymhorau yn hytrach na rhannau o eiliad – sy’n cofnodi anturiaethau gwirioneddol un teulu ar wahanol ynysoedd bychain yn yr Alban yn y 1930au, yn gwylio bywyd gwyllt ac yn dysgu ffermio. Mae’n disgrifio perthynas araf, fuddiol a llawn parch â natur a aeth yn angof er mawr gost iddo yn y byd modern.

Y dewis olaf yw fy hoff lyfr. Mae Zen and the Art of Motorcycle Maintenance gan Robert M. Pirsig yn hanes taith ar gefn beic modur, gan dad a mab, am athroniaeth a realiti. Mae’r daith yn drosiad am fywyd ac mae’r storïwr yn ymchwilio i themâu sy’n cynnwys Ansawdd a’r Naws am Leoedd, sy’n adleisio fy nghariad at ddylunio pontydd.

Martin Knight yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Knight Architects, ac mae’n aelod o Banel Adolygu Dyluniadau DCFW.

Prynwch y llyfrau:

David Mellor: Master Metalworker

Tour de Force – Mark Cavendish 

Island Years, Island Farm – Frank Fraser Darling 

Zen and the Art of Motorcycle Maintenance – Robert M. Pirsig

 

Joanna Rees

Prynhawniau Sadwrn gwlyb yn Llyfrgell Pyle yn y 1980au. Aroglau leinin plastig a phobl yn sibrwd ‘isht’. Prynu llyfrau yn Smiths yng Nghanolfan Rhiw a’u darllen yn y car cyn cyrraedd gartref. Y cyffro o gael tocyn llyfr ar fy mhen blwydd i fynd i siop Lears a’r trip i Gaerdydd. Mae gen i gariad erioed at lyfrau, dweud storïau a’r ddihangfa a gaf o hynny. Alla i ddim honni bod darllen yn ddylanwad mawr ar fy ngyrfa; pe byddai llyfrau fy mhlentyndod wedi cael dylanwad o’r fath, byddwn i’n rhedeg ysgol breswyl neu’n gofalu am y merlod gyda Jill.

Rydw i wrth fy modd â llyfrau sy’n cyfleu naws lle, hanes a phensaernïaeth lle galla i gamu i mewn i feddyliau ac i dirlun rhywun arall. O’r rhyfeloedd opiwm yn Sea of Poppies (Amitav Ghosh), i ddistryw rhyfel yn Penang a’r rhaniadau mewn teyrngarwch yn The Gift of Rain (Tan Twan Eng), rydw i’n hoffi cael fy nghario’n ôl mewn amser a gorfod meddwl am y cyfnod. Y llyfrau sy’n aros gyda chi, meddwl am y teulu yn y nofel Sealwoman’s Gift (Sally Magnusson) sydd wedi’i seilio ar hanes cyrch môr-ladron yng Ngwlad yr Iâ ym 1627, yn cael eu cipio i fod yn gaethweision yn Algiers, ac a oedden nhw’n well eu byd yn bwyta pomgranadau ger y ffynhonnau neu adar pâl wedi’u stwffio ar y clogwyni gwyntog.

Ysgrifennu am natur hefyd, yr ysgrifennu gogoneddus gan Robert Macfarlane am dirwedd Prydain, am dir, am iaith, ac am y byd o dan y ddaear. Shepherd’s Life gan James Rebanks gyda’i ddefaid Hardwick a’r heriau a wynebodd wrth adfer dulliau ffermio traddodiadol yn Ardal y Llynnoedd. Heb anghofio’r pleser o ddarllen blodeugerdd fach. Teimladau John Clare at natur, y ddwy ffordd yn gwahanu yn y goedwig honno gan Robert Frost a’r ‘Darkling Thrush gan Hardy. A’r tŷ cychod hwnnw yn Nhalacharn yn cynnig “the mussel pooled and the heron Priested shore”.

Yn olaf, os bydda i’n methu â chysgu, barddoniaeth i mi bob tro a Mary Oliver bob amser am obaith a Wendy Cope am y tro coeglyd a hiraethus annisgwyl hwnnw.

Mae Joanna Rees yn Bartner yn Blake Morgan, ac yn un o Gomisiynwyr DCFW.

Prynwch y llyfrau:

Sea of Poppies – Amitav Ghosh

The Gift of Rain – Tan Twan Eng

The Sealwoman’s Gift – Sally Magnusson

The Shepherd’s Life – James Rebanks

Faber Nature Poets: John Clare

The Collected Poems – Robert Frost

New and Selected Poems – Mary Oliver

Serious Concerns – Wendy Cope

Dolenni:
Read ‘The Darkling Thrush’ by Thomas Hardy online.

Read ‘A Poem in October’ by Dylan Thomas online.

An article on John Clare’s poetry.

 

Fiona Nixon

Mae’n debyg bod elfen gyffredin i’r holl lyfrau ffuglen sy’n ffefrynnau i mi, hynny yw, ymdeimlad cryf o gymeriad lle, neu adeilad sydd â lle canolog yng nghynllwyn y stori. Bydda i wrth fy modd yn darllen llyfr sydd wedi’i seilio ar ymchwil dda ac un sydd wedi’i leoli mewn lle go iawn. Ai fi yw’r unig un sy’n chwilio am y lleoliadau ar Google Earth?

Fy hoff lyfr erioed, ac un y byddaf yn ei argymell yn aml, yw Oscar and Lucinda gan Peter Carey. Mae cynifer o elfennau diddorol a meistrolgar yn y ffordd y mae Carey yn dweud stori; yr Oscar poenus o chwithig, y Lucinda anghonfensiynol a’i threialon yn gweithio ym myd dynion ar ddiwedd y 1800au, wedi’u tynnu at ei gilydd i ganol sgandal gan eu caethiwed i hapchwarae. Mae’r naratif manwl a doniol yn symud yn ddi-dor rhwng y ffyrdd y mae’r gwahanol gymeriadau’n gweld y digwyddiadau sy’n datblygu. Rydw i wrth fy modd â’r ffeithiau a’r trosiadau sy’n ymwneud â gwydr, yn enwedig ‘Prince Rupert’s Drops’ – ‘tân gwyllt’ y gweithfeydd gwydr. Mae’r stori’n codi o gam-ddweud a chamddeall ac yn dod i’w huchafbwynt wrth gludo eglwys wydr dros dir sydd heb ei fapio ac i lawr afon Bellinger.

Mae The Bone People gan Keri Hulme yn fwy o her i’w ddarllen. Mae wedi’i leoli yn Seland Newydd gyda dylanwadau Maori, ac yn stori anghonfensiynol am gariad ac am y gydberthynas rhwng menyw, dyn a phlentyn, ond yn cynnwys themâu sy’n ymwneud ag ynysigrwydd, ofn a thrais. Mae Kerewin yn byw mewn tŵr cerrig, sy’n cael ei ddatgymalu a’i hailadeiladu ganddi mewn ffordd wahanol, yn symbol o’r newidiadau yn ei bywyd.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi darllen dau lyfr rhagorol sydd hefyd â thai ar eu canol, y ddau, fel y mae’n digwydd, wedi’u lleoli ar gyrion Philadelphia. Mae The Dutch House gan Ann Patchett, yn ymdrin â’r ymlyniad gan deulu wrth dŷ mawr o ddyluniad hynod mewn maestref – mwy o wydr, mwy o gamddeall a mwy o benderfyniadau gwael. Mae Unsheltered gan Barbara Kingsolver yn dilyn hanes dau deulu yn byw yn yr un tŷ ar wahanol adegau, 1870 a 2016, y ddau’n ymdrechu i gynnal y tŷ a chadw’r teulu ynghyd. Mae themâu mwy cyfoes ynddo sy’n ymwneud â chyfalafiaeth, tlodi, ffeministiaeth ac iechyd meddwl.

Beth rydw i’n ei ddarllen nawr? Wel, rydw i wedi symud ychydig oddi wrth yr adeiladau, ac nid ffuglen yw e, ond mae wedi’i wreiddio yn y gorffennol yn sicr – English Pastoral gan James Rebanks. ‘Stori am y ffordd roedd un ffermwr, yng ngoleuni’r gorffennol, wedi dechrau achub un gornel fach o Loegr a oedd nawr yn eiddo iddo ef, gan wneud ei orau i adfer y bywyd a oedd wedi diflannu a gadael gwaddol i’r dyfodol.’ Dim ond dwy bennod rydw i wedi’u darllen hyd yma, ond rydw i’n meddwl y bydda i’n ei fwynhau.

Mae Fiona Nixon yn Bensaer, yn Gomisiynydd DCFW, ac yn gyn Bennaeth Prosiectau Ystadau ym Mhrifysgol Abertawe.

Prynwch y llyfrau:

Oscar and Lucinda – Peter Carey

The Bone People – Keri Hulme

The Dutch House – Ann Patchett

Unsheltered – Barbara Kingsolver

English Pastoral – James Rebanks

 

Jamie Brewster

THE ELECTRIC STATE – Simon Stålenhag

Des i ar draws gwaith Simon Stålenhag yn gyntaf chwe blynedd yn ôl. Wrth chwilio’r we am luniau, des i ar draws ei ddelweddau cyfareddol a oedd yn ymddangos yn wirioneddol real ar yr olwg gyntaf. Gan eu bod bron mor realistig â ffotograffau, dim ond y pynciau, y ffordd anarferol o gyfosod tirweddau gwledig â seilwaith a thechnoleg arallfydol, a oedd yn awgrymu fel arall. Ymchwiliais yn bellach a dod o hyd i bortffolio cynhwysfawr o baentiadau hardd, y cyfan yn rhannu’r naws gythryblus honno sy’n cyfuno pethau pob dydd a’r anarferol. Gyda’r dylanwadau amlwg o waith Syd Mead, Ralph McQuarrie ac Edward Hopper, roedd yr apêl yn fwy byth o sylweddoli bod yr hyn a gymerwyd i fod yn baentiadau olew/acrylig yn rhai cwbl ddigidol mewn gwirionedd. Ar ei wefan, bydd yn aml yn rhannu darnau o’i ‘baentiadau’ wedi’u chwyddo, gan egluro ei dechneg yn haelfrydig. Rydw i wedi treulio oriau’n ‘darllen’ ei ddelweddau, yn rhyfeddu at y grefft aruchel sydd mewn llunio delweddau digidol.

Ac mae hefyd yn llenor medrus. Crëir y delweddau i ategu storïau cyfareddol sy’n hel atgofion am hanes amgen. Ac yntau wedi ymdrwytho mewn ffuglen wyddonias, mae ei weledigaeth yn un sy’n dadelfennu’r dyfodol drwy lygaid hiraethus. Ar ôl canolbwyntio yn ei hanesion ar Sweden ei famwlad yn ei ddau lyfr cyntaf, mae stori The Electric State wedi’i lleoli mewn fersiwn o America sydd â’i hanes wedi’i ailddychmygu.

Dyma daith mewn car sy’n dra gwahanol: mae’r stori’n dilyn siwrnai Michelle a’i chydymaith robotig bach Skip o arfordir y dwyrain i lannau’r gorllewin. Ar daith drwy’r hyn sy’n ymddangos yn dirwedd glasurol America, maent yn dod ar draws strwythurau rhyfedd ond hardd, peiriannau a phobl sydd yng ngafael hunanddinistr wedi’i ysgogi gan dechnoleg. Wrth i’r stori ddatblygu, mae’r naws arswydus a thywyll yn tyfu. Mae’r diweddglo sy’n amlygu pwy/beth yw Skip yn un emosiynol.

Rydw i wedi mwynhau darllen y llyfr hwn lawer gwaith gan edrych arno mewn ffordd wahanol bob tro. Weithiau, byddaf yn canolbwyntio ar y delweddau’n unig. Weithiau byddaf yn gwneud fel arall, yn rhoi fy holl sylw i’r testun. Mae’r profiad yn un cyfoethog a gwerthfawr pa ffordd bynnag y byddwch yn dewis darllen y gwaith. Y naill ffordd neu’r llall, mae lle i’w ddehongli o’r newydd bob tro, boed drwy ddefnyddio’r delweddau, y testun, neu’r ddau, yn ffynhonnell.

Y thema gyffredin yng ngwaith Stålenhag, sydd wedi’i hamlygu yn The Electric State, yw’r syniad o le. Mae ei allu i gyfleu darluniau real o leoedd drwy ddisgrifio naws ac awyrgylch mewn geiriau a delweddau yn golygu bod y llyfr hwn yn un gafaelgar ac ysbrydoledig ar nifer mawr o lefelau.

Mae Jamie Brewster yn Uwch Bensaer Cyswllt gyda DB3, ac mae’n aelod o Banel Adolygu Dyluniadau Comisiwn Dylunio Cymru.

Prynwch y llyfr:

The Electric State –  Simon Stålenhag

 

Steve Smith

As I Walked Out One Midsummer Morning – Laurie Lee

Mae eiliadau o newid mawr mewn bywyd yn cael eu nodi’n aml gan seremonïau a dathliadau cyhoeddus. Nid yw’r newid wrth adael cartref am y tro cyntaf yn ddigwyddiad o’r fath. Mae’n cael ei nodweddu gan gymysgedd cryf o dristwch a balchder yng nghalonnau rhieni, ac ofn a disgwylgarwch yng nghalonnau ieuenctid. Celir drama’r funud o dan eiriau ystrydebol o ffarwél, a chyngor sy’n cael ei roi’n ddidwyll ond yn hanner cellweirus. Mae’r achlysur yn rhy bersonol, ond hefyd yn rhy bwysig, i ganiatáu i ddefod a seremoni gyhoeddus ymyrryd â’r eiliad breifat hon.

Mae’r profiad o adael cartref yn cael ei ddal yn berffaith yn nheitl ac ar dudalennau cyntaf llyfr Laurie Lee sy’n disgrifio sut yr ymadawodd â chartref ei blentyndod i weld y byd ym 1934. Rywsut neu’i gilydd, mae’n cyfleu emosiynau ei fam heb ddefnyddio’r un gair am y pwnc. Yn hytrach, ceir disgrifiad syml ohoni’n chwifio ei llaw i ffarwelio wrth iddo ef gychwyn ar ei daith yn cario ei feiolin ar ddechrau’r antur a’r bennod nesaf yn ei fywyd.

Mae’r stori sy’n datblygu yn disgrifio’r hyn y mae’r bachgen naïf a diniwed hwn yn dod ar ei draws ar y ffyrdd yn Sbaen yn y blynyddoedd cyn trychineb yr Ail Ryfel Byd. Mae i’w weld yn tramwyo’n ddiogel drwy fyd symlach, yn sicr o’i allu i lwyddo – cyflwr meddwl breintiedig nad yw ond ar gael i ieuenctid diniwed ar grwydr. Fesul tipyn, mae ei ddiniweidrwydd yn cael ei dymheru gan y dystiolaeth gynyddol o’r rhyfel cartref sydd ar y gorwel yn Sbaen.

Bydd pob darllenydd sy’n dod ar draws pennod gyntaf y llyfr hwn yn cael ei gyfoethogi ganddi. Os aiff yn ei flaen i ddarllen rhagor, bydd yn profi antur a fydd yn aros yn fyw yn y cof.

Mae Steve Smith yn bensaer ac yn Gyfarwyddwr yn urban narrative. Mae hefyd yn aelod o Banel Adolygu Dyluniadau DCFW.

Prynwch y llyfr:

As I Walked Out One Midsummer Morning – Laurie Lee

 

Categories
Comment Press & Comment

Persbectif 95cm

Rydyn ni i gyd wedi bod yn 95cm o daldra ar un adeg, o gwmpas y teirblwydd oed. Ydych chi’n cofio sut oedd llefydd yn edrych o’r fan honno?

A ninnau’n 5 neu 6 troedfedd neu’n eistedd mewn sedd car, gall fod yn hawdd anghofio persbectif y plentyn. Felly, mae plant yn gweld ac yn profi pethau’n wahanol – llawenydd, perygl a hud llefydd.

Mae bod yn rhiant neu ofalwr i blentyn hefyd yn newid persbectif. Mae amser cerdded yn hirach pan fo rhaid cofio am y traed bach yn trio eu gorau i gydgerdded â chi, mae cael mynediad i gyfleusterau fel toiledau yn fwyfwy pwysig pan fo angen newid cewyn, neu ddysgu plentyn i ddefnyddio toiled, ac mae ‘aros ar y palmant’ yn dod yn rhan o eirfa naturiol, ond dim ond os oes palmant clir, a lle nad oes ceir arno. Mae crwydro a mwynhau’r ddinas yn newid yng nghwmni plant, ond mae gweld pethau o’u persbectif nhw yn cael ei anghofio’n aml wrth gynllunio a dylunio ein trefi a’n dinasoedd.

Felly mae Urban 95 Academy am i gynllunwyr dinasoedd feddwl o’r persbectif hwn.  Mae sefydliad y Bernard van Leer Foundation ac Ysgol Economeg a Gwleidyddiaeth Gwyddonol Llundain wedi datblygu ‘rhaglen arweinyddiaeth wedi’i chynllunio ar gyfer arweinwyr trefol ledled y byd i ddysgu a datblygu strategaethau i sicrhau fod dinasoedd yn fwy addas i fabanod, plant bach a’u gofalwyr’[1].  Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle arbennig i gynllunwyr dinasoedd i ddysgu o brofiadau rhyngwladol wrth iddynt ddyfeisio strategaethau ar gyfer eu dinasoedd eu hunain.  Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan yr Urban 95 Academy.

Fel yr amlygwyd gan Play Wales, mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae, hawl sydd wedi ei hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plentyn[2].  Mae Erthygl 31 y Confensiwn yn nodi:

Mae gan bob plentyn yr hawl i orffwys a hamdden, i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden sy’n briodol i oed y plentyn ac i gyfranogi’n ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.

Mae hyn yn cynnwys nid yn unig plant ifanc ond plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael ei diystyru wrth gynllunio ardaloedd, fel nad ydynt yn llefydd croesawgar a hygyrch iddynt.  Yn y cyd destun hwn y sefydlwyd yr elusen Make Space for Girls, i ‘ymgyrchu dros gynllunio parciau a mannau cyhoeddus ar gyfer merched a menywod ifanc, nid bechgyn a dynion ifanc yn unig’[3].  Canfu eu hymchwil nad oedd y ddarpariaeth o ran cynllunio gofod cyhoeddus yn dda o gwbl ar gyfer merched yn eu harddegau, yn wir, roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio’n weithredol gan y cynllun.   Maent yn tynnu sylw at yr angen i ddeall cyd-destun unrhyw ofod cyhoeddus ac i siarad â merched yn yr ardal i ddatblygu atebion creadigol, gan nad yw’r un cynllun yn addas i bawb. Mae eu gwefan, fodd bynnag, yn darparu rhai enghreifftiau o syniadau sydd wedi eu treialu mewn llefydd eraill.

Boed yn ddatblygiad newydd, strategaeth canol tref, neu fuddsoddiad mewn gofod cyhoeddus sy’n bodoli’n barod, mae diffyg meddwl weithiau am bersbectifau yr holl ystod o bobl fydd yn defnyddio’r ardaloedd hyn.  Dylai ymchwil, siarad gyda defnyddwyr posib fod yn rhan sylfaenol o’r dull o weithredu ar gyfer cynllunio i fuddsoddi mewn ardaloedd cyhoeddus, ynghyd â monitro a buddsoddi parhaus.

Wrth gynllunio llefydd gan ddefnyddio model damcaniaethol cyfartalog, gall hynny anwybyddu llawer o bobl sydd â llawer o anghenion. Ond mae pobl yn wahanol, ac o edrych ar y cynllunio a’r dylunio trwy lygaid plentyn, gellid creu lleoliadau sy’n fwy hygyrch ac sy’n decach i bawb.

Gan Jen Heal

 

Footnotes:
[1] https://www.urban95academy.org/home
[2] https://www.playwales.org.uk/eng/rightoplay
[3] http://makespaceforgirls.co.uk/

Categories
Comment Press & Comment

Datganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Adeiladu Lleoedd Gwell

Mae Jen Heal, Ymhynghorydd Dylunio yng Nghomisiwn Dylunio Cymru, yn croesawu cyhoeddiad Adeiladu Lleoedd Gwell. Dywedodd hi: “Gall y system gynllunio helpu i gyflawni dyfodol mwy gwydn a disglair i Gymru.

“Mae’r misoedd diwethaf wedi amlygu sut gall lleoedd, a chreu lleoedd da, wneud gwahaniaeth mawr i ansawdd ein bywydau, ein lles a’n heconomi. Mae’r system gynllunio yn ganolog i hyn, felly rydym ni’n croesawu cyhoeddi’r ddogfen, a chadarnhad yr ymrwymiad i greu lleoedd o ansawdd.

“Yng Nghomiswn Dylunio Cymru, rydym ni’n dal i weithio gyda thimau dylunio, awdurdodau lleol, a datblygwyr i greu lleoedd gwell trwy ddylunio da. Mae hyn yn cynnwys ein gwaith ar gyfer Llywodraeth Cymru ar ddatblygu gwasanaeth adolygu dylunio arbenigol ar gyfer cynlluniau datblygu lleol, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau creu lleoedd yn gallu sicrhau’r canlyniadau gorau posib.

“Rydym ni’n dal i gefnogi Partnertiaeth Creu Lleoedd Cymru. Yn ein holl waith ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu cymhwyso’r hyn a ddysgom trwy gydol y misoedd anoddaf a hyrwyddo gwell canlyniadau ar gyfer pawb wrth i ni weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu gyda’r adferiad.”

Gallwch ddarllen ‘Adeiladu Lleoedd Gwell’, cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, yma.

Categories
Comment Press & Comment

Datganiad mewn ymateb i adroddiad dros dro Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

Mae Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru, yn croesawu cyhoeddiad adroddiad dros-dro Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Dywedodd hi: “Mae Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn ystyried sut gellid lleihau traffig, hwyluso cysylltedd a phrofi’r angen i gydlynu trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir.

“Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn cefnogi ymdrechion i gydlynu trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir yn llawn ac yn strategol. Fel y dangoswyd yn ein charette cydweithrediadol ar ddatblygiadau yng nghyswllt trafnidiaeth yn 2019, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, awdurdodau lleol, a Thrafnidiaeth Cymru er mwyn sichrau bod buddsoddiadau creu lleoedd yn y dyfodol yn gydgysylltiedig.

“Mae ein gwaith ar greu lleoedd trwy Bartneriaeth Creu Lleoedd Cymru, a thrwy ddatblygiad y Siarter Creu Lleoedd, wedi amlygu bod creu lleoedd sy’n addas ar gyfer teithio llesol, a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn allweddol i greu gofodau llwyddiannus. O’r herwydd, mae’n galonogol iawn gweld datblygu argymhellion sy’n bwriadu sefydlu rhwydwaith a allai gynyddu’r defnydd ar drafnidiaeth gyhoeddus, a theithio llesol yn yr ardal, gan ei gwneud yn ddewis arall deiniadol yn hytrach na defnyddio cerbydau preifat.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad dros dro yma.

Categories
Comment Press & Comment

Mae dylunio da yn ddeallus, a dyna sut y dylem adeiladu lleoedd i fyw ynddynt os ydym eisiau cartrefi gwell – Carole-Anne Davies

Mae dylunio da yn ddeallus, a dyna sut y dylem adeiladu lleoedd i fyw ynddynt os ydym eisiau cartrefi gwell – Carole-Anne Davies

Categories
Comment Press & Comment

Penodiadau i Gomisiwn Dylunio Cymru

Penodiadau i Gomisiwn Dylunio Cymru

Categories
Comment Press & Comment

Cyngor Abertawe yn ymrwymo i ailgodi’n gryfach gydag addewid Creu Lleoedd

Cyngor Abertawe yn ymrwymo i ailgodi’n gryfach gydag addewid Creu Lleoedd