DCFW sy'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 - Yr Athro Juliet Davis

Mae ein cydweithiwr Yr Athro Juliet Davis yn rhannu ei meddyliau heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a helpu #breakthebias #IWD #IWD2022

Yr Athro Juliet Davis

Flynyddoedd yn ôl, cefais gyfle i ymweld â safle adeilad cyhoeddus adnabyddus yn Llundain pan oedd yn dal yn safle adeiladu. Y peth cyntaf roedd yn rhaid i mi ei wneud ar ddechrau’r ymweliad oedd mynd i nôl het galed ac esgidiau addas o swyddfa’r contractwr. Roedd un o’r fformyn wedi cael y dasg o ddosbarthu esgidiau o faint addas i’r ymwelwyr. Pan ddaeth ataf fi, roedd yn poeni y byddai’r esgidiau i gyd yn rhy fawr. Sefais o’i flaen, fy nhrwyn i ar yr un lefel â’i gorun ef. “Beth yw maint dy draed?”, gofynnodd, yn ddigon dymunol. “Maint 10, EU 45”, meddwn i. Dyw hyn ddim yn syndod; rwyf dros chwe troedfedd.

Mae’r gallu hwn i gynnal delwedd ystrydebol, hyd yn oed pan fo’r dystiolaeth yn amlwg yn gwrthbrofi hynny, yn fath o ragfarn. Dim ond stori ddifyr yw hon, wrth gwrs, ond mae’n dangos ffaith ddifrifol rydym yn tueddu i’w hanghofio – nad yr hyn rydym yn tybio ein bod yn ei weld â’n llygaid yw’r darlun cywir o reidrwydd, a bod ein canfyddiad o rywun arall bob amser yn cael ei ddatblygu mewn cyd-destun cymdeithasol. Fel y mae John Berger yn dadlau, mae gwahanol ‘ffyrdd o weld’ yn bosibl. Mae ffactorau cymdeithasol a ffisiolegol yn cyfuno i ffurfio delweddau, rhagdybiaethau a disgwyliadau sy’n cael eu cyfleu i bobl eraill.

Mae gweld a delweddu pobl a lleoedd yn rhan o weithgaredd craidd penseiri, ac addysg bensaernïol. Mae dylunwyr yn dysgu yn gynnar iawn sut i arsylwi ar y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio ac yn defnyddio lleoedd bob dydd, a sut i leoli pobl yn y lleoedd y maent yn eu dychmygu. A ydym yn eu haddysgu ddigon ynglŷn â phwy maent yn ei weld a sut, ynglŷn â sut y gallai rhagdybiaethau ddylanwadu ar eu dadansoddiadau? Ynglŷn â sut y gall ffrâm llun gynnwys a chau allan? Ynglŷn â’r tybiaethau ynghylch pobl, rolau a photensial y gall cynlluniau a chyflwyniadau pensaernïol eu cynnwys?

Mae ymrwymo i fynd i’r afael â rhagfarn mewn ysgol bensaernïaeth yn golygu cydnabod prosiect amlweddog sy’n cynnwys agweddau newydd at hanes dylunio, ailedrych ar hen ffurfiau addysgegol fel y ‘feirniadaeth’ a thrawsnewid diwylliannau stiwdio sy’n arwain at oriau gwaith hir. Ond, i mi, mae mynd i’r afael â materion gweld hefyd yn hanfodol os ydym am sicrhau nad yw penseiri ifanc heddiw yn ymestyn anghyfiawnderau sydd â’u gwreiddiau mewn rhagfarn drwy amgylchedd adeiledig yfory, gan gyfyngu’r cyfleoedd i ferched a menywod mewn gwahanol gyfnodau o’u bywyd ac o wahanol gefndiroedd diwylliannol ddefnyddio mannau cyhoeddus yn gyfforddus ac yn ddiogel, a datblygu eu potensial yn y gweithle.

Fel mae fy stori agoriadol yn awgrymu, mae mynd i’r afael â materion yn ymwneud â gweld yn dasg bwysig ar draws y diwydiant adeiladu gan fod stereoteipiau yn gallu effeithio ar lawer mwy o bethau na dewis esgidiau, gan fwrw amheuaeth ar wybodaeth a hyfedredd proffesiynol menywod, a dylanwadu ar eu gallu i gyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae gan ysgolion ran i’w chwarae yn y cyswllt hwn hefyd wrth iddynt baratoi menywod ar gyfer gyrfaoedd yn ymarferol ac ymgysylltu â chyrff proffesiynol. Fel y fenyw gyntaf i fod yn bennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru, rwyf wedi ymrwymo i bob agwedd ar y prosiect.

Juliet Davis yw Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru.