Astudiaeth Achos: Creu llefydd sy’n ddiogel, cynaliadwy a deniadol

Mae Pobl yn dweud wrthym y stori creu lle y tu ôl i’w datblygiad preswyl arfaethedig yng Nghasnewydd.

 

Lleoliad: Tir ym Mhlot C1, Phoenix Park, Casnewydd – Loftus Cymal 2

Awdurdod Lleol: Cyngor Sir Casnewydd

Cleient: Pobl Group

Tîm Dylunio:

  • Dylunio: Hammond Architectural Ltd
  • Cynllunio: Asbri Planning
  • Trafnidiaeth: Asbri Transport
  • Ecoleg: JBA Consultancy
  • Peirianneg: JBA Consultancy
  • Sŵn: Acoustic and Noise
  • Geotechnegol: Integral Geotechnique
  • Tirlunio: Catherine Etchell Associates
  • Egni: Sero Homes & Energy
  • Gweithgynhyrchu: Castleoak

Dyddiad cwblhau: I’w gadarnhau

Gwerth y cytundeb: tua £11.4M

Arwynebedd y safle: 1.89 hectar [4.67 erw]

Dwysedd: 29 uned yr hectar

 

Pobl a Chymuned

Fel gyda Loftus Garden Village, mae ymgysylltu â’r gymuned leol yn rhan annatod o’r prosiect hwn.

O’r cychwyn amlinellodd Pobl Group eu dyheadau i ffurfio ‘estyniad naturiol’ i’r gymdogaeth Loftus Garden Village yma sydd wedi ennill gwobrau, gan ddarparu'r gymuned newydd a phresennol â lle deniadol i ddod at ei gilydd, dysgu a thyfu.

Gan dynnu ar wersi a ddysgwyd o Gymal 1 ac a gyfarwyddir gan adborth preswylwyr a rhanddeiliaid, adnabuwyd y pentref gardd deniadol, yr arddull celf a chrefft, strydoedd gwyrdd a rhwydwaith gerddi cegin fel cydrannau allweddol o’r dyluniadau cysyniad cynnar.

Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, mae Pobl Group wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus, a hynny drwy gynnwys ysgolion lleol, datblygu cysylltiadau ym maes gyrfa adeiladu, a drwy ddiwrnodau safle agored rheolaidd i’r gymuned. Bydd Pobl hefyd yn dal i hysbysu preswylwyr Loftus trwy ddiweddariadau rheolaidd ar wefan un pwrpas Loftus.

Bydd cyfleoedd i ddysgu am gynaliadwyedd, gan gynnwys galluogi byw heb hylosgi, technoleg draenio ac egni arloesol, a gwella bioamrywiaeth yn ffurfio cydran ganolog ar gyfer y gwaith ymgysylltu yma. Yn ychwanegol, caiff cyfleoedd cyflogi a hyfforddi eu creu gan annog annibyniaeth a chynhwysiad yn y gymuned.

Masterplan

Deall y lle

Hysbysodd adnabyddiaeth gynnar o gyfyngiadau a chyfleoedd y safle'r broses ddylunio, gan gynorthwyo i ddeall gwerth llawn y safle a chreu datblygiad sy’n gynaliadwy, hygyrch a phosib ei gyflawni. Mae’r datblygiad hefyd wedi’i hysbysu a’i gyfarwyddo’n gryf gan yr egwyddorion dylunio gwreiddiol a gynhyrchwyd ar gyfer Loftus Garden Village.

Sefydlwyd dealltwriaeth dda o gyd-destun a chymeriad y lle yn ystod datblygiad Cymal 1. Roedd y datblygiad pentref gardd gwreiddiol yn gyfle i adlewyrchu ar y gorffennol a chreu cymeriad newydd ar gyfer yr ardal. Tynnwyd ar gyfeiriadau hanesyddol at gyn-ddefnydd y safle, a’u hadlewyrchu wrth enwi’r datblygiad yn ‘Loftus’. Daeth y ffatri i enwogrwydd trwy Ruby Loftus, gweithiwr ifanc o Gasnewydd a beintiwyd gan y Fonesig Laura Knight i gynrychioli merched yn y gwaith ar gyfer yr ymdrech amser rhyfel. Dewiswyd y darlun ‘Ruby Loft screwing a Breech-ring’, a beintiwyd yn 1943, yn ddarlun y flwyddyn yn Sioe Gelf yr Academi Frenhinol a denodd gryn sylw cyhoeddus ar y pryd.

Llwyddwyd i baratoi, arwain a strwythuro dyluniad y safle yn unol â Chanllawiau ar Ddadansoddi Safleoedd a Chyd-destun Llywodraeth Cymru ac Amcanion Dylunio Da TAN 12. Roedd hyn wedi hysbysu’r dyluniad o’r cychwyn.

Crëwyd gweledigaeth gref o egwyddorion dylunio a arweiniwyd gan le er mwyn arwain y datblygiad, gan adeiladu ar lwyddiant cymal un y datblygiad a gan hyrwyddo pwysigrwydd byw carbon isel.

Mae’r safle wedi ei leoli’n gynaliadwy o fewn cymdogaeth breswyl bresennol ac mae o fewn pellter cerdded i amwynderau lleol ac ysgolion. Adnabuwyd cyfleoedd allweddol i wella cysylltedd rhwng y strydoedd o amgylch a’r gymuned; mynd i’r afael â natur “tir cefn” y safle sy’n gyfagos i’r llinell rheilffordd; integreiddio a chysylltu elfennau naturiol yn well; creu gofodau ar gyfer hamdden, cydlyniad cymdeithasol, a dysgu; lleoli, cyfeiriadu a dylunio ar gyfer y budd solar mwyaf; a hyrwyddo egwyddorion cartrefi gydol oes a byw carbon isel.

 

Symudiad

Bydd y safle yn cael ei wasanaethu gan rwydwaith o lwybrau troed a beiciau newydd a phresennol sy’n cysylltu i’r ardal ehangach. Bydd y llwybrau cysylltiol yn ddeniadol a chyfforddus, yn gyson â’r anogaeth am symudedd i bawb.

Mae llwybr byr allweddol i gerddwyr yn bodoli rhwng dwy gymuned Corporation Road a Somerton, trwy danffordd Soho Street. Mae’r cynllun arfaethedig wedi gwella’r cysylltiad hwn trwy adlinio’r hawl tramwy i’r cyhoedd sy’n bodoli eisoes trwy’r safle a darparu llwybr cerddwyr/beiciau oddi ar y ffordd yn syth trwy galon y safle, ar hyd parc llinol newydd.

Hyrwyddir beicio ymhellach ar y datblygiad trwy integreiddiad Gorsaf Nextbike er defnydd y cyhoedd ar y llwybr hwn. Mae llwybrau cerdded o fewn y datblygiad yn cysylltu’n weithredol ac maen nhw’n cael eu gwella ymhellach trwy gynhwysiad isadeiledd gwyrdd trwy’r datblygiad hwn.

 

Amrywiaeth o ddefnydd

Bydd y datblygiad yn cynnig 54 tŷ yn cynnwys cymysgedd o fflatiau 1 llofft, cartrefi 2 a 3 llofft ar gyfer rhent cymdeithasol neu ranberchnogaeth. Mae dyluniad llawr gwaelod hyblyg sydd â dwy ardal fyw yn rhoi’r dewis i weithio o adref. Byddant yn cyfarfod Safonau datblygol ‘Gofodau a Chartrefi Prydferth’ 2021 Llywodraeth Cymru.

Bydd yr anheddau’n eistedd mewn rhwydwaith cysylltiedig o ofodau agored sy’n cynnwys gwahanol deipolegau gofod gwyrdd. Cynigir strategaeth tirwedd, bioamrywiaeth a mwynderau gynhwysfawr ar gyfer y safle, gan sicrhau bod y datblygiad yn integreiddio o fewn nodweddion ehangach y gofod agored, ecolegol a thirwedd.

Yn ychwanegol darperir hefyd erddi cegin cymunedol sydd wedi gweithio’n llwyddiannus ar Gymal Un Loftus Garden Village, gan ddarparu gofod i bobl ddod at ei gilydd a thyfu pethau.

 

Tir y Cyhoedd

Mae cysyniadau allweddol creu lle, ffocws y gymuned, lles a bod yn agosach at natur wedi gyrru strategaeth tir y cyhoedd ar gyfer y safle.

Mae’r cynigion tirwedd a thir y cyhoedd yn cyd-fynd ac yn ehangu gweledigaeth eithriadol y datblygiad ‘Loftus’ cyfagos ac yn enghreifftio egwyddorion yr ethos o ‘Bentref Gardd’.

Bydd y datblygiad yn:

  • Darparu parc llinol fydd yn rhoi cyswllt cerdded a beicio pwysig a chyfle ar gyfer plannu deniadol.
  • Ymestyn y rhwydwaith ‘cegin gardd’ Loftus ar gyfer cynhyrchu bwyd cymunedol ac yn cryfhau mentrau cymunedol presennol trwy gynnwys rhwydwaith tyfu.
  • Darparu gofod agored amlswyddogaethol ar gyfer hamdden, lle i bobl ymgynnull, digwyddiadau a chyfnewid bwyd.
  • Ymgorffori gofod naturiolaidd, chwareus gydag elfennau dŵr ychwanegol sy’n caniatáu i bobl fod yn agos at natur, bod yn fywiog, neu yn syml eistedd mewn gofodau awyr agored ymlaciol ac adferol.
  • Creu cyfleoedd chwarae ar drothwy’r drws trwy ddylunio tir y cyhoedd yn greadigol, gan ganiatáu i blant ddatblygu a mynegi eu hunain mewn amgylchedd diogel.
  • Cofleidio egwyddorion dylunio Stryd Wyrddlas gan greu amgylcheddau deniadol, mwy diogel a darparu gwell perfformiad amgylcheddol, integreiddio draenio cynaliadwy a buddion bioamrywiaeth, wrth fwyhau cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymunedol.
  • Ymgorffori plannu sy’n cynnwys rhywogaethau therapiwtig a rhai sy’n denu adar, pryfed a bywyd gwyllt arall.
  • Integreiddio gerddi glaw, gan wella bioamrywiaeth ymhellach, rhoi cyfle ar gyfer rhodfeydd coed i gydbwyso uchder y tai, gan leddfu’r olygfa stryd a gwella’r microhinsawdd.

 

Strwythur Cyflawni

Apwyntiodd Pobl Group dîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys Hammond Architectural Ltd, i ddatblygu a dylunio eu gweledigaeth a arweinir gan le ar gyfer y safle sy’n ymgorffori PPW10 ac yn ymdrechu i gyfarfod gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Pobl Group a Hammond Architectural Ltd ill dau yn llofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru ac yn cefnogi a hyrwyddo’r chwe egwyddor a osodir yn y Siarter.

Fel rhan o’r broses ddatblygu dylunio barhaus, ymgysylltodd y tîm prosiect â swyddogion Cyngor Casnewydd a Chomisiwn Dylunio Cymru ar sut orau i ddatblygu’r safle yma mewn ffordd gynaliadwy.

Paratowyd Adran 2F – Adroddiad Ymgynghori Cyn-Cais (Pre-Application Consultation Report / PAC) gan Asbri Planning ac ystyriwyd yr adborth o hwn lle oedd hynny’n briodol cyn cyflwyno.

Bydd y datblygiad preswyl yn cael ei ddarparu gan Pobl Group, sy’n ddarparwr gofal cymdeithasol a thai ddim er elw, sydd wedi ennill ei blwyf yng Nghymru.

Mae cydweithio gyda chyflenwyr lleol, gan ddefnyddio egwyddorion Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu a sefydlwyd trwy weithio mewn partneriaeth a chaffael deallus yn nodweddion allweddol.

Trwy gydweithio gyda’r gweithgynhyrchwr oddi ar y safle sy’n seiliedig yng Nghymru, Castleoak, mae’r cartrefi yn cael eu ‘dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu’ gyda’r nod o brif ffrydio dulliau modern o adeiladu. Nod y dull dylunio yw mwyhau effeithlonrwydd, hyblygrwydd a pherfformiad ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi, gweithgynhyrchu a chyflawni ac mae’n adnabod y gall rhyngwyneb dylunio da lwyddo i greu lle da gan hefyd fanteisio ar ddulliau modern o adeiladu/oddi-ar-y-safle.