Creu Lleoedd Cymru - Cylchlythyr Pobl a Chymunedau - Mentrau Cymunedol ledled Cymru

Mae llawer o fentrau cymunedol llawr gwlad o amgylch Cymru yn gwneud lleoedd gwell i bobl a chymunedau ledled Cymru. Dyma rai dolenni i chi ddarllen amdanyn nhw:

 

Darparu Gwasanaethau Cymunedol:

Taibach, Port Talbot Mae Llyfrgell Gymunedol Taibach yn llyfrgell gymunedol a redir gan wirfoddolwyr yn Nhaibach, Port Talbot. Yn 2014, camodd y gymuned leol i’r adwy pan fygythiwyd cau’r llyfrgell oherwydd toriadau awdurdodau lleol, a ffurfiodd elusen Llyfrgell Gymunedol Taibach.
Rhagor o wybodaeth yma: http://www.taibachlibrary.org.uk/

The Arches, Rhaeadr:  Mae ‘The Arches’ (Cymorth Cymunedol Rhaeadr a’r Cylch) yn Elusen annibynnol a sefydlwyd ym 1985 i ddarparu gwasanaethau cymunedol i’r holl drigolion yn ardal cod post LD6, yn enwedig o ran hyrwyddo addysg, hybu iechyd a lleddfu tlodi. Maen nhw wedi'u lleoli yn yr hen swyddfa bost, sydd wedi'i thrawsnewid yn 'ganolfan gymunedol', ac maen nhw hefyd yn berchen ar 'ARCHIE, y bws mini cymunedol a CARYS y car sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn.'
Rhagor o wybodaeth yma: https://www.thearchesrhayader.com/about

Cletwr Café and Shop: Mae Cletwr yn sefydliad dielw sy’n eiddo i’r gymuned ac yn cael ei redeg ganddi. Fe'i sefydlwyd i ddod â'r gymuned ynghyd i ddiogelu cyfleusterau a gwasanaethau hanfodol yn yr ardal wledig hon. Mae gan yr adeilad lyfrgell Gymraeg hefyd, ac mae'n arddangos celf gan artistiaid lleol.
Rhagor o wybodaeth yma: https://cletwr.com/cymraeg/

 

Dathlu treftadaeth a hanes lleol:

Plas Carmel, Aberdaron, Gwynedd – ‘Prosiect cymunedol i adfer ac adfywio Capel Carmel a’r hen siop yn Anelog, Siop Plas. Eu nod yw gwneud defnydd sensitif o’r capel, tŷ, siop a gardd – gan greu safle treftadaeth a diwylliannol cynaliadwy sy’n rhoi bywyd newydd i’r gornel wledig hon o Lŷn.’
Rhagor o wybodaeth yma: https://www.plascarmel.cymru/

Tafarn y Plu, Llanystumdwy, GwyneddPan roddwyd y dafarn 200 mlwydd oed yn Llanystumdwy ar werth yn 2015, camodd y gymuned leol i'r adwy. Bu Menter y Plu, menter gymunedol, yn ariannu torfol er mwyn prynu'r dafarn. Mae Tafarn y Plu bellach yn dafarn gymunedol, sydd hefyd yn darparu gwasanaethau cymunedol.
Rhagor o wybodaeth yma: https://menteryplu.wordpress.com/

 

Hybu Bioamrywiaeth:

Bwyd Bendigedig Port / Porthmadog Incredible Edible: Sefydlwyd yr hyn a elwir bellach yn Incredible Edible Porthmadog yn 2016 gan Lizzie Wynn a Charissa Buhler. Digwyddodd pan welodd Lizzie y gwelyau wedi’u codi ychydig yn flêr y tu allan i Ganolfan Hamdden Porthmadog a gwneud ymholiadau a allai grŵp lleol eu cymryd drosodd a’u gofalu.’
Rhagor o wybodaeth yma: https://renewwales.org.uk/bwyd-bendigedig-port-incredible-edible-porthmadog/

Gardd Gymunedol y Gurnos Men’s Community Project, Merthyr Tudful: ‘Cafodd Prosiect Dynion y Gurnos, sydd wedi ennill sawl gwobr, ei sefydlu yn 2014 fel rhan o raglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r prosiect yn gweithio’n bennaf gyda dynion di-waith i gyflwyno gweithgareddau amgylcheddol mewn cymunedau lleol.’
Rhagor o wybodaeth yma: https://www.facebook.com/Gurnosmensproject/

Cymdeithas Camlas Abertawe ‘Sefydlwyd Cymdeithas Camlas Abertawe ym 1981 gyda’r nod o adfer a chynnal y gamlas adfeiliedig – gan ei gwneud yn fordwyol eto a gwella ei chyffiniau er budd addysg, hamdden a bioamrywiaeth.’
Rhagor o wybodaeth yma: http://www.swanseacanalsociety.com/ + http://www.sustainableswansea.net/swansea-canal-society.html

Gardd Gymunedol Clydach ‘Wedi’i sefydlu’n wreiddiol gyda chymorth prosiect rhagnodedig cymdeithasol y clwstwr meddygon teulu lleol, mae Gardd Gymunedol Clydach wedi trawsnewid y safle o fod yn dir diffaith i fod yn ardd lewyrchus yng nghanol y pentref.’
Rhagor o wybodaeth yma: https://www.facebook.com/ClydachCommunityGarden/ + https://sbuhb.nhs.wales/news/swansea-bay-health-news/wellbeing-blooms-in-community-garden/

Prosiect Tir Cymunedol Castell Cnwclas, Powys - Mae Prosiect Tir Cymunedol Castell Cnwclas yn ymddiriedolaeth tir cymunedol sy’n gofalu am tua 21 erw o dir ym mhentref Cnwclas, ym Mhowys, sy’n cynnwys dau gae o tua 4.5 erw gyda’i gilydd sy’n darparu tua 35 o randiroedd a pherllan i bobl leol.
Rhagor o wybodaeth yma: https://www.knucklascastle.org.uk/kcclp/the-project/

Gardd Gymunedol Gorsaf Dren Llannerch-y-medd, Ynys Môn – Yn eu geiriau nhw, ‘Dyma brosiect cyffrous i wella safle segur a chreu Gardd Gymunedol i Lannerch-y-medd. Cymerwch ran, cael hwyl, cwrdd â phobl, a helpu i greu rhywbeth ar gyfer y gymuned.’
Rhagor o wybodaeth yma: https://www.facebook.com/stesionyllan/

Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr ‘Yn 2014 cynhaliodd dros 80 o bobl sy’n byw yn ardal Niwbwrch a’r cylch gyfarfod i drafod y posibilrwydd o’r gymuned yn ymwneud â rheoli Coedwig Niwbwrch.’ Canlyniad hyn oedd cytundeb rheoli ar gyfer 50 erw o goedwig.’
Rhagor o wybodaeth yma: https://www.llynparcmawr.org/#

 

Cysylltu Cymunedau

Siop Gymunedol Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin ‘Wedi’i sefydlu yn 2009, mae Siop Gymunedol a Swyddfa’r Post Dryslwyn wedi gweithredu fel menter gymunedol ddielw hynod lwyddiannus a arweinir gan wirfoddolwyr, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i boblogaeth wasgaredig sy’n bell o wasanaethau sylfaenol.’
Rhagor o wybodaeth yma: https://en-gb.facebook.com/dryslwyncommunityshop/

Mainc Ddigidol, Clwb Ieuenctid Rhydyfelin, Pontypridd: 'Bu Adfywio Cymru a Chlwb Ieuenctid Rhydyfelin yn cydweithio ar syniad cyffrous ac arloesol. Roedd gan aelodau’r clwb ieuenctid y syniad i greu mainc y gellid ei defnyddio i roi lloches i bobl ddigartref ac a fyddai’n helpu i gadw pobl mewn cysylltiad.'
Rhagor o wybodaeth yma: https://renewwales.org.uk/digital-bench-rhydyfelin-youth-club-pontypridd/ + https://www.youtube.com/watch?v=X5yxwLcVeg4