Creu Lleoedd, Newid yn yr Hinsawdd a'r Llwybrau i Sero Net

Ym mis Hydref 2021, cynhaliodd Comisiwn Dylunio Cymru a Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) ddigwyddiad ar y cyd o'r enw 'Newid yn yr hinsawdd a'r llwybrau i sero net'. Siaradodd tri o aelodau Panel Adolygu Dylunio DCFW yn y digwyddiad – Ashley Bateson, Lynne Sullivan a Simon Richards,

Mae Ashley Bateson yn Bartner ac yn Bennaeth Cynaliadwyedd yn Hoare Lea. Mae Ashley yn gweithio gyda chleientiaid a phenseiri i wella effeithlonrwydd ynni a chyflawni amcanion cynaliadwyedd ehangach. Mae Ashley yn cyfrannu fel arbenigwr at nifer o sefydliadau ac ymchwil ac adolygiadau'r llywodraeth, mae'n aelod gweithgar o UKGBC ac yn aelod o banel adolygu dylunio Comisiwn Dylunio Cymru.

Mae Lynne Sullivan OBE yn bensaer yn LSA Studio. Thema gyson sydd wedi bod yng ngwaith Lynne yw cynaliadwyedd yr amgylchedd adeiledig, drwy'r adeiladau a'r lleoedd y mae wedi'u cynllunio a'u cyflawni, a thrwy rolau ymchwil a chynghori. Mae Lynne yn Athro Gwadd ac yn ymgynghorydd dylunio, gan gynnwys fel Cynghorydd Dylunio ar gyfer Cystadlaethau RIBA ac arbenigwr ar y Cyngor Dylunio. Mae Lynne yn awdur ac yn gadeirydd prosiectau ymchwil ac adolygu polisi ar gyfer llywodraethau'r DU ac eraill. Mae'n aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Passivhaus a Bwrdd Adeiladu Gwyrdd y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu (CLC), Cadeirydd y Gynghrair Cartrefi Da ac mae’n aelod o banel Adolygu Dylunio Comisiwn Dylunio Cymru.

Simon Richards yw Cyfarwyddwr Gwreiddiol Land Studio. Mae wedi treulio dros bymtheng mlynedd yn arwain timau dylunio a phrosiectau ar amrywiaeth o safleoedd ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn banelydd ac yn Gyd-gadeirydd Comisiwn Dylunio Cymru ac yn banelydd ar gyfer panel adolygu dylunio Dinas Caer.

Yn yr erthygl hon maent yn ailedrych ar rai o'r themâu allweddol a godwyd yn y digwyddiad.

 

Ashley Bateson:

Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar yr amgylchedd adeiledig mewn sawl ffordd. Rydym eisoes wedi gweld tueddiadau sylweddol yn ystod y deng mlynedd diwethaf: tonnau gwres, digwyddiadau tywydd mwy eithafol, stormydd a llifogydd. Ac eto, nid yw ein ffordd o gynllunio a dylunio adeiladau wedi newid llawer. Nid yw blaenoriaethau pensaernïol, dulliau peirianneg a safonau adeiladu wedi newid yn ystod y cyfnod hwn, nac yn wir ers degawdau, er gwaethaf y wyddoniaeth sydd wedi'i chyhoeddi ar ganlyniadau cynhesu byd-eang. Mae angen i ni ystyried gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd fel rhan sylfaenol o’r ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn dylunio, er mwyn cyfyngu ar yr effeithiau niweidiol ar eiddo, pobl a seilwaith.

Wrth gynllunio adeiladau newydd dylid cyfyngu ar risg gorboethi. Gall mesurau fel dylunio ffenestri gwydr wedi'u ffurfweddu'n briodol (gyda chyfyngiadau ar wydredd uchder llawn), gan ddarparu ffenestri mwy agored sy'n caniatáu llwyrawyru a chysgodi, lle y bo'n briodol, osgoi amodau gorboethi. Dylai amgylcheddau allanol gynnwys atebion sy'n seiliedig ar natur i ficrohinsoddau cymedrol, amsugno glawiad a chreu amodau oeri yn yr haf.

Nid yw llawer o'r technegau hyn yn newydd ac maent wedi’u hen gydnabod mewn pensaernïaeth draddodiadol. Er ein bod yn gwybod y rhagwelir y bydd y tymheredd yn codi, gwelwn gartrefi, ysgolion a swyddfeydd newydd heb ffyrdd digonol o gyfyngu ar ynni haul neu sicrhau awyru digonol. Mewn rhai achosion, mae’n anodd goddef yr amodau, ac mae'r adeiladau hyn yn mynd yn anodd byw ynddyn nhw. Mae rhai awdurdodau lleol yn mynnu bod dyluniadau'n cael eu llywio gan fodelu deinamig thermol ac yn disgwyl asesiadau o risg gorboethi, ond nid oes gan y rhan fwyaf o awdurdodau cynllunio bolisi ar gyfer hyn, felly mae dyluniadau nad ydynt yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn cael eu datblygu heb adolygiadau priodol.

Os ydym am sicrhau bod gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth wrth gynllunio a dylunio, gallwn ddarparu ansawdd bywyd gwell i breswylwyr, lleihau costau trwsio difrod a lleihau'r angen am fesurau lliniaru drutach yn ddiweddarach. Yn rhyngwladol, nid yw'n brofiad newydd. Mae'n gyfle gwych i weld sut mae gwledydd eraill yn delio â hafau poethach a gaeafau gwlypach a dysgu gwersi dylunio ganddynt.

 

Lynne Sullivan:

Yn dilyn COP26 ym mis Tachwedd 2021, rhaid i hyd yn oed y DU – sy’n arwain y byd gyda'i gostyngiad o 78% mewn allyriadau carbon erbyn uchelgeisiau 2035,  - ailystyried a chryfhau'r polisïau sydd eu hangen i gyrraedd targedau y cytunwyd arnynt ym Mharis 2015. Ar gyfer y sector amgylchedd adeiledig, sy'n gyfrifol am 40% o'n carbon, mae hyn yn golygu newid radical.

Mae rôl ein sector o ran creu lleoedd yn allweddol i gysylltu'r amrywiaeth o strategaethau sydd eu hangen i ymateb i'r her hon. Er enghraifft, os byddwch yn dadansoddi ôl troed carbon ar sail leol/ranbarthol, trafnidiaeth yw'r gyfran fwyaf bob amser, felly rhaid i ddylunwyr gymell lleihau allyriadau trafnidiaeth yn ôl lleoliad, amwynder a dewisiadau cysylltedd.

Rhaid i ddyluniad adeiladau fod yn gyfannol: mae rhagweld ôl troed carbon adeiladau yn gywir dros eu hoes yn gofyn am ail-feddwl diwylliannol i'n diwydiant, gan ffafrio ailddefnyddio strwythurau a deunyddiau presennol yn gynaliadwy, yn ogystal â lleihau'r galw am ynni i lefel sy'n gyson â'n hymrwymiadau ym Mharis, a sicrhau bod perfformiad o ran defnydd yn cyfateb i’r hyn a ragfynegwyd.  Amcangyfrifir bod 40% o gartrefi presennol y DU yn gorboethi ac, mewn hinsawdd sy’n cynhesu, mae cysgodi a'r gallu i leihau tymheredd gormodol yn agwedd hanfodol ar ddylunio adeiladau ond mae hefyd yn galw am ddylunio mannau cyhoeddus a strydoedd i liniaru tymheredd uchel ac effeithiau iechyd niweidiol.

Profwyd bod mannau gwyrdd wedi'u dylunio'n dda yn lleihau tymheredd amgylchynol yn ogystal â sicrhau manteision iechyd a phosibiliadau cymdeithasu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i blannu 86 miliwn yn fwy o goed yng Nghymru, ac ym mis Rhagfyr 2021 cyhoeddodd y bydd gan bob cartref yng Nghymru goeden i'w phlannu, naill ai gartref neu yn eu cymuned.  Gall dylunwyr ddefnyddio'r mentrau hyn i lunio gweledigaeth flaengar ar gyfer datblygiadau amgylchedd adeiledig, i wella a chreu lleoedd sy'n ddeniadol, yn therapiwtig ac yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Technoleg yw ein cyfaill yn yr ymdrech hon: mae seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus o'r radd flaenaf sy'n sicrhau teithio gwyrdd a mynediad cynhwysol o bwys allweddol, ac mae seilwaith preifat ac a  rennir, annibynnol, yn ôl y galw bellach yn cael ei dreialu yn y DU.  Mae pasbortau Adeiladu Digidol yn cael eu cyflwyno fel rhan o Raglen Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru, gan baratoi'r ffordd i bob adeilad newydd a phresennol gael 'gefeilliad' digidol i olrhain deunyddiau, cynnal a chadw a pherfformiad, gan gynnig rhyngwyneb 'ap' digidol i bob defnyddiwr adeilad sy'n eu galluogi i olrhain ansawdd aer a data ynni – tystiolaeth amser real o ganlyniadau dylunio!

 

Simon Richards:

Mae ailgysylltu pobl â natur yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael ag effaith cynhesu byd-eang.

Ers dechrau’r Chwyldro Diwydiannol a’r broses raddol o drefoli’r amgylchedd naturiol, rydym wedi tyfu fwyfwy ar wahân i natur. Yn anffodus, mae gan ormod o lawer ohonom ddiffyg neu brinder dealltwriaeth o'r prosesau a'r cylchoedd naturiol sydd o'n cwmpas. Mae wedi arwain at ddiffyg gofal peryglus a dealltwriaeth i fynd i'r afael â'r problemau yr ydym wedi'u creu. Ers gormod o amser, rydym wedi bod yn gweithio yn erbyn natur yn hytrach nag ag ef.

Felly, beth allwn ni ei wneud i fynd i'r afael ag ymwybyddiaeth o newid hinsawdd yn y gymdeithas heddiw a sut y dylai tirweddau'r dyfodol edrych?

Os byddwn yn ailgysylltu â phroses naturiol, credaf y byddwn yn gwella bioamrywiaeth, yn lleihau perygl llifogydd, yn dal a storio carbon, ac yn creu tirwedd cynhyrchu-bwyd sy’n gallu dygymod yn well â newid hinsawdd. Fel dylunwyr, dylem geisio ymgorffori natur yn ein dyluniadau, p'un a ydym yn dylunio tirwedd ar gyfer ysgol, stryd breswyl, neu’n ail-ddehongli eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae'r cylch dŵr yn elfen allweddol o'n tirweddau y mae angen mynd i'r afael â hi a'i hintegreiddio'n llawn yn ein hamgylchedd adeiledig. Mae gwella cyrsiau dŵr ac adfer cyrsiau dŵr wedi eu sianelu i fod yn rhai agored yn rhan annatod o gynefinoedd iach a natur weladwy.

Mae ailsefydlu arferion rheoli dŵr hynafol drwy erddi glaw, rheoli coetiroedd ac, yn hollbwysig, lleoliad datblygiadau newydd yn helpu i greu amgylchedd naturiol sy’n gallu dygymod â newid hinsawdd gan ddangos i bobl werth cadarnhaol dŵr yn ein tirweddau.

Fel dylunwyr, gallem ddechrau fanylu ynghylch rhywfaint o blanhigion egsotig. Mae'r planhigion hyn yn hyblyg iawn ac yn dda am ymateb i amgylcheddau anarferol yn gyflymach na'n planhigion brodorol.

Mae'n bwysig ein bod ni’n yn mynd ati’n ofalus i ddewis deunyddiau moesegol ac amgylcheddol sensitif gydag ôl troed carbon isel. Dylem hefyd ystyried cyfrifo, lleihau a gwrthbwyso ein carbon mewn ffordd ystyrlon a hirdymor.

Mae iechyd ein priddoedd wedi bod yn elfen sydd wedi’i hanghofio ers tro byd yn ein tirweddau, ond mae'n rhan annatod o adsefydlu'r amgylchedd naturiol yn llwyddiannus a dal a storio carbon yn well.

Dylai natur fod wrth wraidd ymarfer. Os ydym yn galluogi pobl i gael gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd natur, yna mae gennym fwy o siawns o fynd i'r afael yn llwyddiannus â heriau’r newid yn ein hinsawdd.