Rôl Hanes wrth Greu Lleoedd: Prosiect Ailddarganfod Treftadaeth Caerau a Threlái

Olly Davis, Uwch-ddarlithydd mewn Archaeoleg a Chenhadaeth Ddinesig ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae ystadau tai Caerau a Threlái yng ngorllewin Caerdydd yn gartref i tua 26,000 o bobl. Er eu bod yn ninas fwyaf a mwyaf ffyniannus Cymru, maen nhw’n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Tan y 1970au, roedd llawer o’r trigolion yn gweithio mewn sawl cwmni gweithgynhyrchu mawr a oedd ag adeiladau yn yr ardal, ond daeth nifer o’r rhain i ben yn sgil dad-ddiwydiannu yn ystod y degawdau dilynol. Mae’r dirywiad dilynol mewn gwaith cyflogedig wedi bwrw cysgod maith ac, yn ddiweddar, nododd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru fod 11 cymdogaeth yn yr ardal ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

 

Mae’r heriau sy’n wynebu’r cymunedau sy’n byw yng Nghaerau a Threlái yn gymhleth. Yn ogystal â lefel diweithdra uchel, mae cyrhaeddiad addysgol yn wael – mae llawer o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb lawer o gymwysterau, dim ond 7% sy’n mynd ymlaen i Addysg Uwch, er enghraifft. Mae effeithiau niweidiol ar iechyd i'w gweld mewn pwysau geni babanod ac mae’r disgwyliad oes yn is na chyfartaledd Caerdydd. Mae’r beichiau hyn yn gwneud i gymunedau lleol deimlo eu bod wedi’u gwthio i’r cyrion, ac mae’r cymunedau hyn yn aml yn wynebu stigma a gwahaniaethu gan eraill, yn enwedig y rheini o rannau mwy cyfoethog y ddinas. Ac eto, nid yw hyn yn cyd-fynd â chyfalaf cymdeithasol gwerthfawr yr ardal – mae gan lawer o’r trigolion ymdeimlad dwfn o ysbryd cymunedol, wedi’i gyfoethogi gan gysylltiadau teuluol cryf, ymlyniad at le, a chyfrannu at weithredu cymunedol.

Er bod Caerau a Threlái ar ymylon calon economaidd a gwleidyddol Caerdydd fodern, nid yw hyn wedi bod yn wir bob amser. Yng nghanol yr ystadau tai mae olion treftadaeth arwyddocaol, gan gynnwys bryngaer fawr o’r Oes Haearn, fila Rufeinig, castell cylchfur canoloesol ac eglwysi. Mae’r dreftadaeth hon yn ased pwysig, ond nid oedd, tan yn ddiweddar, yn cael ei ddefnyddio llawer i wella sefyllfa ddiwylliannol, economaidd a chymdeithasol yr ardal. Sefydlwyd Prosiect Ailddarganfod Treftadaeth Caerau a Threlái, neu CAER, yn 2011 i helpu i fynd i'r afael â'r heriau y mae pobl leol yn eu hwynebu, drwy ddatblygu cyfleoedd addysgol a chyfleoedd bywyd newydd sydd wedi'u gwreiddio yn yr ymchwil i'r hanes pwysig hwn a rennir.

Mae CAER yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (sefydliad datblygu cymunedol), ysgolion lleol, gweithwyr treftadaeth proffesiynol, preswylwyr a llawer o rai eraill. O'r dechrau, mae CAER wedi gosod cymunedau lleol wrth wraidd ymchwil hanesyddol ac archaeolegol. Yr ethos yw gwerthfawrogi cyfraniad yr holl gyfranogwyr drwy gyd-gynhyrchu, cyd-ddylunio a chyd-gyflwyno gweithgareddau sy’n seiliedig ar dreftadaeth. Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae hyn wedi cynnwys cyrsiau achrededig i oedolion sy’n dysgu, arddangosfeydd, gosodiadau celf, cloddiadau archaeolegol, perfformiadau a ffilmiau. Mae'r prosiect wedi meithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau ac wedi cynhyrchu ymchwil o arwyddocâd rhyngwladol, ond yr elfennau pwysicaf yw’r canlyniadau cymdeithasol. Mae miloedd o bobl leol wedi cymryd rhan weithredol mewn ymchwil a gyd-gynhyrchwyd sydd wedi meithrin hyder, hwyluso cyfleoedd dysgu ac wedi dod â phobl ifanc ac oedolion i’r brifysgol. Mae gwerthusiad wedi dangos bod ymgysylltu â threftadaeth leol hefyd wedi rhoi cyfle i greu cyfeillgarwch newydd, wedi arddangos doniau lleol, ac wedi meithrin ymlyniad cryfach at le.

Mae’r manteision cymdeithasol hyn wedi cael eu hamlygu drwy grant sylweddol gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac mae hyn wedi arwain at gryn dipyn o ddatblygiadau mewn seilwaith, gan gynnwys creu canolfan ddysgu a threftadaeth gymunedol a rhwydwaith llwybrau o amgylch Bryngaer Caerau. Mae’r datblygiadau hyn wedi annog pobl i archwilio eu treftadaeth leol, mynd allan, a gwella eu lles. Ni fyddai dim o’r gwaith hwn wedi bod yn bosibl heb ymrwymiadau tymor hir y sefydliadau a’r unigolion sydd wedi bod yn rhan. Mae’n dangos grym treftadaeth i ddod â phobl amrywiol at ei gilydd a bod yn rhan o adfywio a chreu lleoedd cymunedol ehangach.

I gael gwybod mwy am CAER ewch i: https://www.caerheritage.org/.

Lluniau

1: Golygfa o ben y bryn yn edrych i lawr ar yr ystadau isod

2: Llun o’r awyr yn dangos Bryngaer Caerau yn y blaendir ac ystadau tai Caerau a Threlái o’i chwmpas. Hawlfraint y Goron Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

3: Pobl ifanc yn baeddu eu dwylo mewn cloddfa archaeolegol

4: Y Prif Weinidog yn agor ein Canolfan Treftadaeth CAER newydd