Addoldai Hanesyddol mewn Hunaniaeth Lleoedd

Judith Alfrey, Pennaeth Adfywio a Chadwraeth Cadw

Mae ein haddoldai hanesyddol yn fannau canolog yn ein tirweddau a’n trefluniau. Mae gan bob un ohonynt ei hanes ei hun, hanes hir iawn yn achos rhai, sydd wedi goroesi’n hirach nag addoldai o’r un oed, gan dystio’n falch i’w harwyddocâd parhaus. Waeth pa ffydd neu enwad a’u hadeiladodd, mae ganddynt eu hiaith bensaernïol eu hunain, sydd nid yn unig yn fynegiant gofodol o ddiben penodol ond hefyd yn gasgliad o sgiliau eithriadol o ran celfyddyd a chrefft adeiladu ac addurno. Mae llawer wedi datblygu dros y canrifoedd, wedi’u hymestyn ac weithiau wedi lleihau, wedi’u haddurno a’u harddu, wedi’u eu trwsio’n fras a’u hatgyweirio. Mae eraill, sy’n ddigyfnewid, yn parhau’n fynegiant clir o ennyd benodol. Mae pob adeilad yn arwydd o ffydd – fel system o gred ac o hyder yn y dyfodol – codwyd yr adeiladau hyn i oroesi.

Mae addoldai yn gofadeiladau. Nid yn unig yn yr ystyr lythrennol – yr holl gofebau hynny a godwyd er cof, y trysorau a gyfrannwyd i goffáu – ond hefyd yn yr holl hanes diwylliannol a chymdeithasol sy’n rhan ohonynt – cynifer o gliwiau am y gorffennol, cofrestri o enwau hynafiaid, creiriau rhyfedd o draddodiadau ac arferion a fyddai fel arall wedi mynd yn angof.

Roeddent hefyd yn adeiladau cymdeithasol: o fewn eu muriau, mae llawer o drothwyon mwyaf arwyddocaol bywyd wedi eu hanrhydeddu, ac mae pobl ddirifedi o bob safle cymdeithasol, crefft a phroffesiwn wedi cerdded drwy eu drysau. Mae cymunedau wedi dod ynghyd ynddynt, lleisiau wedi uno mewn cân, ac unigolion wedi oedi i fyfyrio’n dawel. Nid oes unrhyw adeiladau eraill yn cynrychioli cronfa mor helaeth o straeon dynol, neu sydd wedi eu defnyddio’n barhaus am gyfnod mor hir.

Mae llawer yn dal i fod yn adeiladau cymdeithasol, yn tawel gyflawni rolau traddodiadol a chyfoes, yn angor yn eu cymunedau ac yn cynnig lle ar gyfer gweithgareddau hen a newydd. Er enghraifft, mae eglwys ganoloesol ysblennydd San Silyn, Wrecsam yn parhau i fod yn addoldy gweithgar ac yn fan agored, cynnes a chroesawgar sy’n cynnal clwb cinio, caffi atgofion, gweithgareddau i blant a phobl hŷn, cyngherddau a digwyddiadau eraill. Yn Nowlais, mae gan Eglwys Gatholig Sant Illtyd hanes balch o gysylltiad â chymunedau mudol. Mae’n parhau i greu cymuned drwy gynnal gweithgareddau sy’n dod â phobl ynghyd, sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith pobl hŷn, ac sy’n hyrwyddo bywyd diwylliannol a dinesig.

Mae eraill, sydd wedi colli eu diben gwreiddiol, mewn perygl o golli eu cysylltiad â chymuned a lle. Nid yw’n bosibl bob amser adfer y cysylltiad hwnnw. Ond eto, mae’n sicr yn werth chwilio am ffyrdd newydd o gynnal yr adeiladau hyn, er mwyn gwireddu eu harwyddocâd unwaith eto fel adnodd i’w rannu, a denu mwy i rannu’r baich o ofalu amdanynt.

Mae ein haddoldai hanesyddol yn fannau ymgynnull, yn fannau diogel, yn fannau atgofus. Gallant ddenu’r rhinweddau cymdeithasol cadarnhaol hynny sy’n cyfrannu at hunaniaeth lle. Maent hefyd yn adeiladau hynod yn ein tiroedd cyhoeddus, yn adeiladau nodedig a welwn ar ein hynt. Ynddynt, mae llawer o’r elfennau o dreftadaeth a diwylliant sy’n gwneud lleoedd yn unigryw yn cydblethu. Maent yn teilyngu buddsoddiad, yn teilyngu cael  eu hamddiffyn ac yn teilyngu cael eu hanwylo.

Cydnabyddiaeth

Llun 1 & 2 – Archesgobaeth Caerdydd