Mae Building with Nature wedi diweddaru'r Safonau Seilwaith Gwyrdd ar gyfer sector amgylchedd adeiledig y DU.
Dr Gemma Jerome, Cyfarwyddwr Building with Nature
Bum mlynedd ar ôl creu meincnod seilwaith gwyrdd cyntaf y DU, roedd hi’n bleser gennym gyhoeddi ein Safonau ar eu newydd wedd ar y 17eg o Fehefin. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau i sicrhau eu bod yn dal yn gyfredol ac yn parhau i ddiffinio ‘beth mae da yn ei olygu’, gan symleiddio’r fframwaith i’w wneud yn haws byth i’r diwydiant ei ddefnyddio.
Mae’r Safonau’n cadw’r pedair thema, sef Craidd, Lles, Dŵr a Bywyd Gwyllt. Fodd bynnag, dim ond 12 Safon sydd i gyd erbyn hyn, sy’n ei gwneud yn haws i ddatblygwyr preswyl a masnachol ddylunio a darparu seilwaith gwyrdd o ansawdd uchel. Mae dwy Safon newydd wedi’u cynnwys erbyn hyn, un yn canolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd, ac sy’n cynnwys yr holl ffyrdd y gall seilwaith gwyrdd helpu lleoedd a phobl i wrthsefyll yn well effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd. Ac un arall sy’n canolbwyntio ar ‘gadw lleoedd’, sy’n rhoi diffiniad penodol o arferion da sy’n ymwneud â rheoli, cynnal a chadw, monitro a diogelu nodweddion seilwaith gwyrdd yn y tymor hir.
Mae’r Safonau newydd yn cynnwys y newidiadau diweddar mewn polisïau a deddfwriaethau yng Nghymru, gan gyfuno polisïau cynllunio a chanllawiau ynghylch seilwaith gwyrdd, i sicrhau bod Building with Nature yn ategu ac yn cefnogi Asesiadau Seilwaith Gwyrdd, a’r ymrwymiad i gynnal, creu a gwella lleoedd o ansawdd uchel i bobl a bywyd gwyllt. Yn hyn o beth, mae Safonau a system Achredu Building with Nature yn rhan bendant o fframwaith DECCA, sydd wedi’i gynllunio i asesu cadernid ecosystemau, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Safonau BwN wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Yn ôl Joanne Smith, aelod o Fwrdd Safonau BwN sy’n gyfrifol am oruchwylio’r broses o ddiweddaru’r safonau yn unol â pholisïau, deddfwriaethau ac arferion da yn y diwydiant: “mae’r Safonau’n gosod y bar yn uchel, ac yn cyd-fynd â’r hyn y byddem am ei weld yn digwydd yng Nghymru.”
Sut mae Building with Nature yn gweithio
Mae meincnod Building with Nature yn ei gwneud yn haws i’r rheini sy’n gyfrifol am gynllunio, dylunio, darparu a chynnal seilwaith gwyrdd i sicrhau amrywiaeth o fanteision yn fwy cyson i bobl a bywyd gwyllt – nawr ac yn y tymor hir. Nid yw’n golygu bod angen gwneud gwaith ychwanegol i baratoi dogfennau atodol, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â’r broses a ddilynir gan weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, gan gynnwys cynllunwyr a datblygwyr. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu fframwaith o egwyddorion dylunio cyfannol, Safonau BwN, a chanllawiau er mwyn helpu i gyflwyno prosiectau sy’n darparu seilwaith gwyrdd o ansawdd uchel yn fwy effeithiol ym mhob cam o’r broses gyflawni – o ddyddiau cynnar y broses ddylunio hyd at weithredu’r prosiect ac ar ôl y gwaith adeiladu.
Mae Building with Nature yn gynllun gwirfoddol i’r rheini sydd am fynd ymhellach na’r cam lleiaf sy’n statudol. Mae’n cynnig gwasanaeth asesu ac achredu i gefnogi a gwobrwyo’r gwaith o ddarparu seilwaith gwyrdd o ansawdd uchel mewn cymunedau newydd a chymunedau sy’n bodoli’n barod. Mae’n fwyaf addas ar gyfer safleoedd ‘mawr’ neu ‘sylweddol’ (10 a mwy o dai; 0.5 hectar neu fwy; 1000 a mwy o fetrau sgwâr o arwynebedd llawr) a safleoedd ‘strategol’, fel cynlluniau adfywio mawr neu estyniadau trefol. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer datblygiadau seilwaith preswyl, masnachol a chymunedol.
Defnyddio Safonau BwN
Gallwch ddefnyddio Fframwaith Safonau BwN yn rhad ac am ddim, ac mae modd ei lwytho i lawr oddi ar ein gwefan. Gyda’i gilydd, mae 12 Safon BwN yn diffinio “beth mae dal yn ei olygu” drwy gynnig set o safonau ansawdd ar gyfer creu lleoedd a chadw lleoedd, sy’n rhoi sylw i’r themâu Lles, Dŵr a Bywyd Gwyllt. Mae Safonau BwN yn cefnogi penderfyniadau traws-ddisgyblaethol ynghylch dylunio a darparu seilwaith gwyrdd, o safbwynt cynllunydd (ee, i’w defnyddio wrth lunio polisïau a rheoli datblygiadau), ac o safbwynt datblygwr wrth eu rhoi ar waith yn y cynllun meistr a’r dyluniad manwl, wrth weithredu ac adeiladu, neu wrth reoli a chynnal a chadw seilwaith gwyrdd mewn datblygiadau.