Categories
Hatch Opportunities Uncategorized

Hatch: rhwydwaith CDC ar gyfer llunwyr â meddwl ffres ar gyfer yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru

hatch_grey_circleHatch yw rhwydwaith Comisiwn Dylunio Cymru ar gyfer llunwyr â meddwl ffres ar gyfer yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru.

Cynhelir ein cyfarfod nesaf…

Rhagor o fanylion i ddod

Nodau Hatch yw…

  • Gweithredu fel llais ar gyfer dylunio da, a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei glywed gan y bobl iawn
  • Codi ymwybyddiaeth o werth dylunio a chynllunio da, cydgysylltiedig, a’r gwahaniaeth y gall ei wneud i unigolion a chymunedau
  • Dysgu a gwella ein sgiliau i ddod yn ddylunwyr gwell, gan ein galluogi i godi safon dylunio yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru, a gwneud lleoedd gwell sy’n fwy cynaliadwy
  • Mynd i’r afael â’r heriau a’r risgiau a wynebir gan ddylunwyr talentog yng Nghymru gyda’n gilydd, a phontio’r bwlch rhwng disgyblaethau amgylchedd adeiledig
  • Dangos gwerth prosesau ac atebion dylunio arloesol
  • Codi dyheadau dylunio yng Nghymru
  • Cael hwyl yn y broses!

Er mwyn bodloni ei nodau, bydd Hatch …

  • Yn cynnal nodau strategol Comisiwn Dylunio Cymru yn rhagweithiol
  • Yn cwrdd, siarad a gwneud pethau gyda’n gilydd i gyflawni ein hamcanion
  • Yn rhannu syniadau a gwybodaeth
  • Yn chwilio am gyfleoedd, eu creu a’u rhannu
  • Yn dathlu dylunio da yng Nghymru
  • Yn cymryd diddordeb yn y materion gwleidyddol sy’n dylanwadu ar ddylunio a’r amgylchedd adeiledig
  • Yn cysylltu gyda, ac yn ysbrydoli cenhedlaeth Cymru o ddylunwyr y dyfodol

Lawrlwythwch y Daflen Hatch i ledaenu’r gair

Dilynwch @HatchDCFW ar Trydar

Ydych chi eisiau cymryd rhan?

Os hoffech chi ymuno â Hatch, lawrlwythwch a llenwch y Ffurflen Ymuno hon, a’i hanfon atom ni.

Ffurflen Ymuno Hatch

Mae Hatch yn agored i’r holl ddylunwyr, cynllunwyr, peirianwyr a llunwyr brwdfrydig, meddwl agored ac uchelgeisiol eraill yng Nghymru Ffoniwch ni os hoffech gael gwybod mwy.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn cael eich diweddaru drwy e-bost am ddigwyddiadau a chyfleoedd Hatch, a byddwch yn cael eich ychwanegu at y rhestr o gyfranogwyr Hatch gweithredol ar ein gwefan (gyda’ch caniatâd).

Mae’r Comisiwn Dylunio yn buddsoddi ei adnoddau i hwyluso Hatch, ac rydym yn disgwyl i’r rhai hynny sydd yn ymuno i fynd ati i gyfrannu eu sgiliau a’u syniadau i’r grŵp. (Bydd y rhai hynny sydd heb gyfrannu am gyfnod o chwe mis yn cael eu tynnu oddi ar y wefan).

 

Mae’r rhwydwaith Hatch gweithredol yn cynnwys …

James Stroud, Project Designer, Loyn & Co Architects

John Lloyd, Lead Energy Engineer, Amber Energy

Emily Hall, Associate Architect, Hall + Bednarczyk Architects

Steve Coombs, Architect/Lecturer, Coombs Jones/Welsh School of Architecture

Amy Cowan, Senior Architect, Capita

Kate Davis, Planning Student, Cardiff University

Lauren Philips, Urban Designer, The Urbanists

Wendy Maden, Assistant Planner, The Urbanists

Jamie Donegan, Urban Designer, The Urbanists

Michael Boyes, Architect, Hall + Bednarczyk

Mark Lawton, Landscape Architect, HLM

Emma Pearce, Urban Designer, Arup

Elan Wynne, Principal Architect, Stiwdiowen

Emma Price, Director, EMP Projects & Associates

Peter Trevitt, Peter Trevitt Consulting

Richard Williams, Veritii

Rob Chiat, Urban Designer, Arup

Claire Symons, Senior Landscape Architect, Stride Treglown

Jack Pugsley, Assistant Consultant Planning, Amec Foster Wheeler

Thomas Wynne, Associate Architect, UNIT Architects Limited

Lindsey Brown, Urban Designer/Area Manager (cities), Sustrans

Eleanor Shelley, Architectural Assistant, Scott Brownrigg

Priit Jürimäe, Architectural Assistant, Scott Brownrigg

Efa Lois Thomas, Architectural Assistant, AustinSmith:Lord

Ruth Essex, Consultant & Creative Producer

Graham Findlay, Inclusive Design Consultant, Findlay Equality Services

Olympiada Kyritsi, Architect, Inspire Design

Adam Harris, Architectural Lead

 

 

Daflen Hatch

Categories
Uncategorized

Creu Lleoedd a Gwerth Lleoliad – Dr Roisin Wilmott

Dr Roisin Wilmott, Cyfarwyddwr RTPI Cymru

Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â’r dywediad ‘lleoliad, lleoliad, lleoliad’, ond a ydym ni’n meddwl amdano y tu hwnt i eiddo a’i werth? Fel cynllunwyr rydym ni’n defnyddio dull yr adeilad iawn yn y lleoliad iawn, ac mae’r olaf o’r rhain yn hollbwysig.

Mae’r lleoliad iawn yn rhan fawr o’r ateb i fynd i’r afael â’r heriau tymor byr a thymor hir yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu, nid yn unig yma yng Nghymru ond yn fyd-eang hefyd, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, yr argyfwng ynni, yr argyfwng costau byw a phroblem endemig tlodi. Mae’r lleoliad iawn hefyd yn effeithio ar gostau rhedeg gwasanaethau cyhoeddus. Mewn sawl ffordd mae’r rhain i gyd yn faterion rhyng-gysylltiedig. Os cawn ni’r lleoliad yn iawn, gallwn wneud llawer iawn i helpu i liniaru a / neu atal yr effeithiau negyddol. Yn bwysig, rhaid inni osgoi achosi ymrwymiadau carbon yn y dyfodol am genedlaethau i ddod drwy’r penderfyniadau a wnawn am leoliad yn awr.

Nodir lleoliad gan y cysyniad poblogaidd o 15 / 20 munud mewn dinasoedd, y cyfeirir ato hefyd fel y ‘gymdogaeth gerddedadwy’. Mae’r cysyniad hwn yn golygu bod modd cyrraedd y gwasanaethau sydd eu hangen arnom bron bob dydd neu bob dydd naill ai drwy gerdded neu feicio (h.y. gan ddefnyddio ein nerth ein hunain) mewn cyfnod ymarferol o amser. Drwy hyn rydym yn cael rhywfaint o ymarfer corff, rydym yn fwy tebygol o gwrdd â chymdogion (datblygu cydlyniant cymunedol), lleihau troseddu trwy fwy o wyliadwriaeth a bod yn gyfarwydd â’n cymuned, lleihau llygredd trwy lai o draffig, cefnogi busnesau a chyfleusterau lleol, lleihau cost teithio a mynd i’r afael â thlodi teithio. Mae gwneud lle ar gyfer llecyn gwyrdd o ansawdd mewn ardaloedd adeiledig hefyd yn dod â manteision iechyd a bioamrywiaeth ac os darperir dodrefn stryd, yn enwedig seddi, mae hyn yn gwella cynhwysiant yn yr ardal ar gyfer grwpiau ehangach gan gynnwys pobl hŷn, neu rai sydd â dementia a chyflyrau eraill.

Yn ogystal â chynyddu’r pwyslais ar deithio llesol, rhaid ystyried integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddatblygiadau hefyd, er mwyn gallu cael mynediad at ddewis o wasanaethau ehangach a chyfleoedd gwaith mewn modd mwy cynaliadwy a chyfartal.

Gallwn adeiladu’r adeilad mwyaf cynaliadwy ond os nad yw wedi’i leoli yn y lle iawn, gall yn hytrach fod yn gynhenid anghynaladwy; ni ddylem guddio y tu ôl i un agwedd yn unig ond ystyried y prosiect cyfan. Wrth gwrs, mae yna adegau pan mai tŷ yng nghefn gwlad agored yw’r lleoliad iawn a dylid cefnogi hynny e.e. y rhai hynny sy’n cefnogi diwydiannau gwledig.

Y ‘cynllun datblygu’ yw’r prif gyfrwng ar gyfer nodi polisi lleoliad yng Nghymru. Mae’r cynllun datblygu yng Nghymru sydd wedi’i osod mewn deddfwriaeth yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Lleol sy’n gyfarwydd i nifer, cyflwynwyd Cynlluniau Datblygu Strategol gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ond nid ydynt wedi dod i’r amlwg eto, a Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 (y cyfeirir ato mewn deddfwriaeth fel y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol). Nod y rhain yw gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu, gan gynnwys lleoliad, ar wahanol lefelau gofodol: lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn y drefn honno. Mae’r cynlluniau hyn yn cario llawer iawn o gyfrifoldeb wrth osod y fframwaith ar gyfer penderfyniadau ar leoliad datblygiad sy’n wirioneddol diwallu anghenion presennol a hirdymor Cymru.

 

Categories
Publications Uncategorized

Ailymweld

DCFW – Ailymweld

 

Categories
Uncategorized

Astudiaeth Achos: Y Triongl, Maindy, Casnewydd

Ruth Essex, o Maindee Unlimited, sy’n dweud wrthym y stori creu lleoedd y tu ôl i’r datblygiad yn  Maindy, Casnewydd

 

Lleoliad: Y Triongl, Chepstow Road, Maendy, Casnewydd

Awdurdod Lleol: Cyngor Dinas Casnewydd

Cleient: Maindee Unlimited

Tîm dylunio: KHBT Ltd

Dyddiad cwblhau: Mehefin 2022 I’w gadarnhau

Gwerth y contract: £300K

Arwynebedd y safle: 102 m sq

Ffynhonnell gyllid:    Llywodraeth Cymru, Y Loteri Genedlaethol, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Yr Her

Dechreuodd y Triongl gyda her: sut gallai cymuned Maendy, cymdogaeth yng nghanol dinas Casnewydd, ail-agor a chynnal y gwasanaethau toiledau cyhoeddus hanfodol?

Roedd cau’r toiledau hyn yn 2017 yn siom fawr i siopwyr a masnachwyr yn y ganolfan siopa leol, ac i bobl oedd yn byw’n agos. Gwaethygodd anghydraddoldeb – gan roi’r bobl sy’n dibynnu ar doiledau cyhoeddus dan anfantais – pobl ag anableddau, cyflyrau’r coluddyn a’r bledren, pobl ddigartref, a phobl hŷn neu gyda phlant ifanc – gall effeithio ar bob un ohonom.

Roedd colli’r toiledau’n arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol o amgylch yr adeilad.

Yn ei hanfod, dechreuodd y datblygiad Triongl Maendy fel ymateb i’r angen syml i gadw toiled cyhoeddus, ond tyfodd i fod yn brosiect trosglwyddo asedau, adnewyddu a thirweddu.

Mae’r datblygiad yn dal i fynd rhagddo, ac mae disgwyl iddo agor fis Mehefin 2022.

 

Pobl a Chymunedau

Bydd yr Astudiaeth Achos hon yn canolbwyntio ar sut mae’r gymuned leol wedi cael ei chynnwys yn natblygiad y safle.

Elusen yw Mainee Unlimited a gafodd ei sefydlu gan breswylwyr a sefydliadau lleol yn ardal Maendy yn dilyn ail-agor y llyfrgell gyhoeddus yn 2015. Mae archwilio potensial y safle gyda’n gilydd fel cymuned, a’r angen am gyfranogiad cyhoeddus gweithredol, wrth wraidd ethos yr elusen.

Roedd bloc y toiledau, a’r mannau cyhoeddus cyfagos gyferbyn â’r llyfrgell ill dau wir angen eu hadnewyddu ac angen buddsoddiad. Mewn ardal heb lawer o lystyfiant a mannau agored cyhoeddus, roedd hi’n gyfle prin i wella amwynderau a lles.

Dechreuodd y prosiect fagu momentwm drwy gyllid a chefnogaeth gan gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru Syniadau: Pobl: Lleoedd. Bu i’r cyllid hwn alluogi proses greadigol – annog pobl i ddeall y safle ac ail-ddychmygu ei ddyfodol.

Hefyd, galluogodd y cyllid i Maindee Unlimited dechrau gweithio gyda phenseiri KHBT i ddatblygu syniadau dylunio. Roedd eu proses ddylunio’n canolbwyntio ar ddull archeolegol – cloddio stori’r safle a gwerthfawrogi ei gydrannau.

Roedd rôl creadigrwydd yn hanfodol o ran sicrhau bod pobl yn teimlo’n gysylltiedig eto gyda safle oedd wedi bod yn adfeiliedig ers cyfnod hir, ac a oedd wedi’i effeithio gan ganfyddiadau negyddol hirsefydlog o yfed ar y stryd a chymryd cyffuriau. Comisiynwyd arlunwyr i greu digwyddiadau a phrosiectau ar y safle, er mwyn datblygu cysylltiadau positif, atgofion newydd o’r safle ac ehangu’r canfyddiad o beth sy’n bosibl.

Un o’r digwyddiadau hyn oedd ‘Inviting the Neighbours to Paint’ a gafodd ei guradu gan Mr a Mrs Clarke, y perfformwyr. Cafodd y gofod ei droi yn ystafell gelf gymunedol awyr agored am wythnos, a throdd y ffotograffydd Dafydd Williams y toilet yn gamera obscura, a thynnu portreadau o breswylwyr lleol yn yr ardd. Cynhaliwyd ystod o ddigwyddiadau cymunedol yn y Triongl i brofi defnyddiau megis marchnad awyr agored.

Mae Maindee Unlimited hefyd wedi cynnal seminar cymunedol ‘Toilets, Public Space and Social Justice’. Roedd hyn yn gyfle i breswylwyr ac asiantaethau lleol gwrdd a thrafod ag arbenigwyr toiledau cyhoeddus byd-eang ac academyddion megis Clara Greed o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Jo-Anne Bichard o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a Charles Musselwhite o Brifysgol Abertawe. Roedd hyn yn cynnig lle ar gyfer dysgu a dadlau, ac ystyried gwleidyddiaeth gofod cyhoeddus. Roedd hefyd yn cynnig gwybodaeth ynghylch goblygiadau cymunedau’n gorfod rhedeg cyfleusterau cyhoeddus megis toiledau cyhoeddus.

Bu i’r gweithgareddau hyn, ochr yn ochr â gwaith dylunio KHBT greu momentwm ac ennyn dychymyg, a wnaeth yn y pen draw, arwain at drosglwyddo asedau’r safle o Gyngor Dinas Casnewydd i Maindee Unlimited ar les o 99 mlynedd.

Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol er mwyn creu caffi cymunedol wedi’i ariannu’n llawn a’i dirweddu, gardd gymunedol a thoiled cyhoeddus.

Drwy gydol y cyfnod datblygu, comisiynwyd rheolwr prosiect er mwyn cynnal ymgysylltiad cyhoeddus, gan gynnwys hwyluso digwyddiadau a chamau gweithredu.

Cafodd oriel bren, a ddefnyddiwyd fel ffin y safle, ei droi yn wal gelf a hysbysfwrdd cymunedol er mwyn ymgysylltu â’r gymuned leol. Cynhaliwyd digwyddiad wnaeth droi’r stryd gyferbyn yn stryd chwarae, gan ddilyn egwyddorion Chwarae Allan, a chyda chefnogaeth Chwarae Cymru.

Yn ogystal, roedd crynodeb y tendr a’r broses ddethol ar gyfer gweithredwr y caffi yn blaenoriaethu rôl y caffi o ran cynnwys yn weithredol y gymuned leol – gan gynnwys dyhead i gydweithio ar ddigwyddiadau strydoedd chwarae yn y dyfodol ac ymestyn yr ardd gyhoeddus i’r stryd bob hyn a hyn.

Yn y dyfodol, gobeithia Greening Maindee, y grŵp garddio cymunedol gynnwys pobl leol yn y broses o blannu’r ardd, gyda’r nod y bydd preswylwyr lleol yn araf deg yn chwarae rhan fwy yng ngweithrediadau bob dydd y gofod gwyrdd.

Bydd y Triongl yn agor yn ystod haf 2022, ar ôl cyfnod datblygu hir iawn.

Mae wedi cael ei ddechrau, ei yrru a’i gyd-ddylunio gan aelodau o’r gymuned leol, a chaiff ei reoli gan sefydliad cymunedol. Mae hyn wedi golygu cryn ymdrech gan wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr Maindee Unlimited.

 

 

Categories
Uncategorized

DCFW sy’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 – Carole-Anne Davies

Carole-Anne Davies sydd yn rhannu ei meddyliau heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Carole-Anne Davies

Yr un.

Yr un …

…sy’n ymwybodol ohoni ei hun cyn mynd i’r ystafell.

…sy’n methu â chredu ei bod yno.

…sy’n sefyll allan ond nid mewn ffordd dda – yn ei thyb hi.

…sy’n wahanol i bawb arall oherwydd lliw ei chroen.

Yr un â gwallt coch.

Yr un fawr.

Yr un bengaled.

Yr un uchel ei chloch.

Yr un sy’n ymddiheuro bob tro y mae’n siarad …mae’n ddrwg gen i, ga’ i …

Yr un sydd ddim yn academaidd.

Yr un sydd yn academaidd.

Yr un â’r ‘gwallt’.

Yr un hoyw.

Yr un draws.

Yr un hen.

Yr un ifanc.

Yr un sy’n darllen.

Yr un na lwyddodd i glywed i ble roedd y lleill yn mynd.

Nid ‘yr un’, ond un ymhlith miliynau, sy’n cael y neges bob diwrnod nad yw’n ffitio.

Mewn byd llawn rhagfarn mae dimensiynau mor gaethiwus.

#breakthebias #IWD2022

 

Carole-Anne Davies yw Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru.

Categories
Uncategorized

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol – Ymgynghoriadau Cyhoeddus Awdurdodau Lleol Hydref 2021 – Cerdded a beicio yn …. dweud eich dweud

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol – Ymgynghoriadau Cyhoeddus Awdurdodau Lleol Hydref 2021 – Cerdded a beicio yn …. dweud eich dweud

Categories
Uncategorized

Cyfle i helpu DCFW i ailddychmygu

Cyfle i helpu DCFW i ailddychmygu