Ailddychmygu’r Stryd Fawr

Alex Bugden, Rheolwr Prosiect VUAP, a Wendy Maden, Prif Ddylunydd Trefol, Cyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf

Yn draddodiadol, y stryd fawr oedd y lle â’r gymysgedd fwyaf amrywiol o ddefnyddiau ac roedd yn cefnogi amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer y gymuned ehangach.  Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hyd yn oed y llefydd hyn wedi cael trafferth i gynnal eu hamrywiaeth a’u defnyddiau lluosog. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Tîm Adfywio Cyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf wedi gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i gyflawni amrywiaeth o brosiectau i roi bywyd newydd i siopau ac adeiladau gwag ar y stryd fawr ar draws yr ardal.

Fel rhan o raglen ehangach o ymyriadau ar y stryd fawr, gan gynnwys dodrefn stryd a gwaith plannu, mae’r Prosiect Gweithredu ar Unedau Gwag yn darparu prosiectau peilot mewn siopau gwag i archwilio, ailddychmygu, a phrofi modelau neu ddefnyddiau eraill ar y stryd fawr. Drwy ddysgu o’r cynlluniau peilot hyn, hoffem ddeall sut olwg allai fod ar stryd fawr y dyfodol.

Lansiwyd y prosiect yn 2020 pan oedd cyfraddau eiddo gwag yng Nghanol Dinas Caerfaddon wedi cyrraedd 30% ar rai strydoedd. I ddechrau, er mwyn mynd i’r afael â’r effaith mae siopau gwag yn ei chael gyda’i gilydd ar ba mor fywiog yw’r stryd fawr, buom yn gweithio gyda chasgliad o grwpiau celfyddydol lleol, rhanddeiliaid diwylliannol, landlordiaid a thimau’r Cyngor i roi gosodiadau celf 3D bywiog ac anarferol yn ffenestri siopau gwag.

Roedd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys gwneud ffenestri’n fwy bywiog, cynlluniau peilot ar gyfer y celfyddydau, a gosodiadau y bydd defnyddwyr yn ymgolli’u hunain ynddynt. Roedd hyd i gyd wedi helpu i ddeall y rhwystrau sy’n bodoli rhag cyflawni defnydd cyfamserol ac wedi golygu bod modd gwerthuso effaith y cynlluniau peilot cychwynnol hyn.

Roedd yr ail gam yn canolbwyntio ar weithgarwch a gynlluniwyd i sbarduno adfywiad y stryd fawr, gan gynnwys pedwar prosiect peilot tymor hir ar draws yr ardal i ddatblygu a rhoi cynnig ar syniadau ynghylch stryd fawr y dyfodol:

Make Space, Keynsham: Troi eiddo llawr gwaelod a fu’n wag am gyfnod hir yn ofod hyblyg a chreadigol sy’n cynnig gofod fforddiadwy ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a siopau dros dro er mwyn gwella’r stryd fawr leol.

Siopau Dros Dro Made in Bath: Cefnogi masnachwyr a gwneuthurwyr lleol i dreialu’r defnydd o fannau manwerthu ar y stryd fawr fel siopau dros dro tymor byr, digwyddiadau a phrofiadau manwerthu newydd, gan ddod â manwerthwyr ar-lein, busnesau newydd a masnachwyr marchnadoedd i eiddo manwerthu ar y stryd fawr. Mae’r prosiect hwn wedi darparu lle i dros ddeg ar hugain o fusnesau bach lleol ac wedi cefnogi naw o fudiadau nid-er-elw. 

Creative Twerton: Ar hyn o bryd, mae’r prosiect hwn yn darparu gofod celfyddydol cynnes a chroesawgar sy’n agored i bawb, a hynny yng nghanol y stryd fawr hon. Ochr yn ochr â’r defnydd cyfamserol hwn mae gofod preswyl ar gyfer artistiaid sy’n adeiladu ar y cydweithio sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Bath Spa a sefydliad celfyddydol lleol.

Uned 14, Midsomer Norton: Creu canolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol a gweithgareddau peilot ar Stryd Fawr Midsomer Norton, gan gynnwys gweithgareddau cymunedol, canolfan ar gyfer rhaglen ddiwylliannol ar y stryd fawr a phrosiect Parth Gweithredu Treftadaeth, a man treialu ar gyfer cydweithio, siopau dros dro a defnyddiau eraill.

Mae dyfodol y stryd fawr yn broses sy’n esblygu drwy’r amser. Drwy ddefnyddio’r canolfannau hyn i ddarparu ar gyfer cymysgedd o weithgareddau, bydd llwyddiant y prosiectau’n cael ei fesur yn rhannol yn ôl eu gallu i osod sylfeini i adeiladu arnynt, gan gyflymu’r newid y mae cymunedau eisiau ei weld ar eu stryd fawr. Mae’n gyfle cyffrous i ni gamu i’r adwy ac ymateb i’r her.

Gwyliwch y fideo hwn i gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Gweithredu Unedau Gwag: https://youtu.be/BhqPts_Z_qY.