Tîm Grange Pavillion sy’n dweud wrthym y stori creu lleoedd y tu ôl i’w datblygiad yn Grangetown, Caerdydd
Lleoliad: Pafiliwn Grange, Gerddi Grange, Grangetown, Caerdydd
Awdurdod Lleol: Cyngor Caerdydd
Cleient: Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) Pafiliwn Grange
Tîm dylunio: Dan Benham Architect a Grŵp IBI, gydag Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd; The Urbanists; Holloway Partnership; Mann Williams; Mott Macdonald; BECT Construction
Dyddiad cwblhau: Hydref 2020
Gwerth y contract: £1.87 miliwn
Arwynebedd y safle: Adeilad 600m2
Dwysedd: Amherthnasol
Ffynhonnell Ariannu: Y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Galluogi Adnoddau Naturiol Cymru, Moondance Foundation, Garfield Weston, CCAUC, Clothworkers Foundation, Clwb Rotari Bae Caerdydd a rhoddion unigol.
Pobl a Chymuned
Mae Pafiliwn Grange yn gyfleuster a arweinir gan y gymuned yn eiddo’r gymuned, a gyflawnwyd drwy Drosglwyddiad Asedau Cymunedol 99 mlynedd ac ailddatblygu Pafiliwn a llain Bowls oedd yn arfer bod yn wag. Dechreuodd y prosiect gyda grŵp o breswylwyr yn nodi’r angen i wella cyfleuster oedd yn dirywio mewn parc poblogaidd yn y gymdogaeth.
Gan ffurfio prosiect Pafiliwn Grange, aeth y preswylwyr i bartneriaeth gyda Phorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd yn 2012 i lansio Picnic Syniadau, diwrnodau digwyddiadau a chyfnod preswyl o dair blynedd gyda rhaglen reolaidd o weithgareddau yn yr adeilad gwag i godi ymwybyddiaeth a meithrin gallu trwy ddatblygu perthnasoedd â’r trigolion lleol a sefydliadau a busnesau cymunedol oedd eisoes yn bodoli. Datblygodd y tîm dylunio, dan arweiniad Dan Benham Architects a Grŵp IBI, friff dylunio trwy weithdai dylunio yn archwilio’r syniadau a grëwyd yn ystod y cyfnod preswyl.
Agorodd Pafiliwn Grange ym mis Hydref 2020 yng nghanol pandemig Covid-19, ac ar hyn o bryd mae dan warchodaeth asedau gan Brifysgol Caerdydd, gan roi amser i CIO Pafiliwn Grange sydd newydd ei gyfansoddi ddatblygu’r gallu i ymgymryd â’r brydles 99 mlynedd. Cyfansoddiad CIO Pafiliwn Grange yw 60% o breswylwyr a sefydliadau partner, Prifysgol Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro, Tai Taff, RSPB Cymru, a Chlwb Rotari Bae Caerdydd, ac mae bellach yn rheoli rhaglen o weithgareddau gyda’r nod o wneud Pafiliwn Grange yn groesawgar ac yn hygyrch i gymunedau lluosog Grangetown. Ar ôl cyflawni’r uchelgais o sicrhau ansawdd, oedd yn sail i ddatblygiad Pafiliwn Grange, mae datblygiadau partneriaeth parhaus yn ystyried bod Pafiliwn Grange yn dystiolaeth o allu prosiectau cydweithredol cymunedol i wella’r amgylchedd adeiledig ar raddfa cymdogaeth gyfan.
Deall y lle
Cefnogodd cydweithio agos rhwng CIO Pafiliwn Grange, Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Dan Benham a Grŵp IBI sawl blwyddyn o ymchwil i sicrhau dealltwriaeth ddofn o’r cyd-destun cyn dechrau ar unrhyw gynigion dylunio. Gofynnodd stiwdios dysgu byw a gydarweiniwyd gan breswylwyr i fyfyrwyr gofnodi a dadansoddi archifau hanesyddol a chyfoes, a chynhaliwyd Picnics Syniadau, diwrnodau gweledigaeth, a diwrnodau adrodd straeon i edrych ar leoliadau ffisegol a diwylliannol Grangetown. Roedd yr holl ymchwil yn gweithio gydag egwyddorion ymholi gwerthfawrogol ac ar sail asedau, gan ganolbwyntio ar ddathlu ac adeiladu ar gryfderau, sgiliau a phosibiliadau cyfredol yn lle nodi problemau i’w datrys.
Llywiwyd y dylunio gan y cyfnod preswyl yn yr adeilad gwag, gan agor yr adeilad a’r tir ar gyfer llu o weithgareddau gwahanol i’w cynnig a’u profi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau dylunio terfynol. Roedd elfennau dylunio allweddol – pwysigrwydd mynediad i ardd gysgodol, ystafell ddosbarth awyr agored a lle ar gyfer digwyddiadau, caffi’n gweini’r adeilad a’r parc, amrywiaeth o fannau annibynnol a hyblyg y gellir eu harchebu, paled o ddeunyddiau fyddai’n parchu cyd-destun tai teras Fictoraidd a dyluniad sgrin yn defnyddio manylion bandstand hanesyddol y parc – yn ganlyniad uniongyrchol i sawl blwyddyn o ddiwrnodau agored a gweithdai dylunio gyda grwpiau cymunedol niferus.
Fel cyfleuster yn cael ei redeg gan aelodau’r gymuned, nod craidd oedd cyflawni ansawdd dinesig tymor hir, gan flaenoriaethu deunyddiau ac offer ansawdd uchel a hawdd eu cynnal.
Symud
Mae Pafiliwn Grange yng Ngerddi Grange, yn agos i’r gwelliannau i Lwybr Taf a wnaed gan Grangetown Gwyrdd Cyngor Caerdydd. Mae ar lwybrau bysiau ac mae o fewn pellter cerdded byr i orsaf reilffordd Grangetown a Chaerdydd Canolog. Mae’r cylch codi arian nesaf yn targedu standiau beics ym mharc Gerddi Grange ac mae cynlluniau ar waith i ofyn am arwyddion yn hysbysebu Pafiliwn Grange fel man aros ar Lwybr Taf. Budd craidd y prosiect yw darparu caffi, toiledau hygyrch a man llenwi poteli dŵr mewn parc poblogaidd yn y gymdogaeth.
(llun gan Kyle Pearce)
Cyfuniad o ddefnydd
Nod craidd CIO Pafiliwn Grange yw creu gofod ansefydliadol croesawgar, hygyrch, sy’n dangos ymdeimlad o ansawdd dinesig tymor hir. Mae’r cynllun ffisegol yn cynnig tri lle aml-ddefnydd dan do, swyddfa ar gyfer cydweithio, ystafell ddosbarth awyr agored a lle ar gyfer digwyddiadau awyr agored. Roedd digwyddiadau a gweithdai’r cyfnod preswyl cyn y datblygiad yn pwysleisio’r angen am gyfres o fannau hyblyg, cadarn, disglair, hael y gellid eu gweithredu’n annibynnol ond yn gysylltiedig, gyda mynediad uniongyrchol i’r gerddi, er mwyn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol. Gellir mynd i bob man unigol drwy’r caffi cymunedol a’r toiledau cyhoeddus hygyrch gerllaw sy’n gwasanaethu Pafiliwn Grange a Gerddi Grange, ac mae hyn yn annog croes-ddefnydd gan ddefnyddwyr Pafiliwn Grange a’r parc.
Yr Amgylchfyd Cyhoeddus
Ffactor craidd yn yr achos busnes i ailddatblygu Pafiliwn Grange oedd diffyg hygyrchedd corfforol a seicolegol y cyfleuster blaenorol: roedd sawl gris i fynd mewn oedd yn golygu nad oedd yr adeilad yn hygyrch i’r anabl, gyda chaeadau yn creu golwg ddigroeso a gelyniaethus ar yr adeilad yn wynebu’r parc. Mae’r ailddatblygiad yn blaenoriaethu hygyrchedd gweledol a chorfforol trwy’r adeilad a’r tirlun, gyda rampiau a gwelyau uchel yn sicrhau bod yr holl elfennau sydd wedi’u tirlunio yn hygyrch, gyda mynediad di-rwystr i’r holl gyfleusterau dan do. Mae gerddi dŵr glaw SUDS wedi’u gosod ar hyd perimedr y gerddi, sy’n dargyfeirio holl ddraeniad y to i dri phwll dŵr glaw sydd wedi’u hamgylchynu gan blanhigion addas i beillwyr. Mae’r ystafell ddosbarth a’r lle ar gyfer digwyddiadau awyr agored wedi’u defnyddio gan grwpiau ysgol, grwpiau garddio cymunedol, marchnad Stryd y Byd Grangetown, sesiynau blasu chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, criced, rygbi, seiclo a phêl-fas. Mae seddi’r caffi’n estyn i mewn i’r gerddi a’r parc, gyda hatch y caffi gyferbyn â maes chwarae a bandstand.
Strwythur cyflenwi
Dechreuodd y prosiect gyda phreswylydd yn siarad â chynghorydd lleol ynglyn â gwneud rhywbeth am gyfleuster lleol oedd yn dirywio. Y sgwrs hon, oedd yn canolbwyntio ar yr angen i wneud rhywbeth o ansawdd uchel, oedd dechrau’r broses o Drosglwyddo Asedau Cymunedol, gyda chefnogaeth rhaglen Camu Ymlaen Cyngor Caerdydd. Grant Partneriaethau Cymdogaeth gan Gyngor Caerdydd oedd y grant allanol cyntaf a olygodd bod modd cyflogi pensaer i gynnal astudiaeth dichonoldeb cynnar. Cefnogodd aelodau cyngor yr awdurdod lleol y prosiect a throsglwyddiad yr asedau drwy gydol y broses ac maen nhw’n aelodau o CIO Pafiliwn Grange er mwyn cynnal perthynas barhaus. Daeth Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd ag ymrwymiad sefydliadol tymor hir i’r prosiect o’r camau cynharaf, ynghyd â Choleg Caerdydd a’r Fro, Tai Taff, RSPB Cymru, a Chlwb Rotari Bae Caerdydd, a phob un yn dod â chyswllt cynyddol ag amrywiol feysydd o adnoddau ac arbenigedd i gefnogi’r prosiect wrth iddo symud ymlaen trwy bob cam.
Gwnaed cais llwyddiannus am grant Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 y Loteri Genedlaethol a chafwyd cefnogaeth dau gam i ddatblygu cais cynllunio ac achos busnes, a chyllid cyfalaf a refeniw 5 mlynedd i gefnogi’r ailddatblygiad a’r lansiad. Roedd cyllid y loteri’n cynnwys mentoriaeth gan Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru), ac ymweliadau rhwydweithio â safleoedd prosiectau trosglwyddo asedau cymunedol eraill ledled Cymru, a oedd yn amhrisiadwy wrth nodi heriau a chyfleoedd allweddol i ymdrin â nhw yn y brîff dylunio a’r achos busnes.
Ynghyd â sawl practis pensaernïol arall, gwahoddwyd y tîm dylunio ar y dechrau i ymuno â’r prosiect trwy friffiau addysgu byw byr a gyllidwyd, gan roi cyfle i’r timau dylunio wreiddio yn y prosiect a chynnal gweithgareddau cyn-ddylunio i ddod i adnabod grŵp y preswylwyr, y gymuned ehangach, a’r safle. Dewiswyd y tîm dylunio ar sail tystiolaeth o ddull cyd-gynhyrchu cymunedol, a pharhaodd i gynnal gweithdai dylunio yn ystod y cyfnod preswyl ar sawl cam dylunio allweddol, o’r cysyniad hyd at y dylunio manwl. Daeth briffiau addysgu byw blynyddol gydag Ysgol Pensaernïaeth Cymru â myfyrwyr i ymchwilio ymhellach i benderfyniadau dylunio, gan gynnwys manylion y sgriniau allanol, cynllunio ar gyfer gweithgareddau dyddiol, a gwerthuso ôl-ddeiliadaeth barhaus.
Beth oedd yr her fwyaf wrth gyflawni’r prosiect a sut y cafodd ei goresgyn?
Hyd y cyfnod a graddfa’r galwadau ar bawb dan sylw – roedd angen sawl mis ar rai o’r ceisiadau grant i gwblhau’r gwaith papur – a’r cydbwysedd wrth gynnal cyd-gynhyrchu ymhlith grŵp o gleientiaid oedd yn esblygu’n barhaus, ynghyd â gweledigaeth oedd yn esblygu. Roedd dyddiadau cau grantiau weithiau’n arwain at benderfyniadau tymor byr yn hytrach na thymor hir er mwyn cyflawni terfynau amser gwariant cyfalaf, a bu’n rhaid cydbwyso pwysau fframweithiau sefydliadol a phwysau cyllidebol tymor byr yn erbyn buddiannau tymor hir cyflawni ansawdd dinesig. Roedd pwysau unigryw yn sgil cloi’r safle adeiladu ac agor yr adeilad yn ystod cyfnodau clo Covid-19, gan leihau cyllidebau diwedd y cyfnod adeiladu ar gyfer y tu mewn, ond caniatáu ar gyfer agoriad moel ac ymgyrch codi arian barhaus i ddod â’r tu mewn yn fyw gyda’n gilydd.
Beth yw elfen fwyaf llwyddiannus y datblygiad?
Mae cyfleuster a ragwelwyd gan y gymuned, a arweinir gan y gymuned, gyda lleoedd hael, disglair, deniadol a hyblyg y tu mewn a’r tu allan bellach yn dod yn fyw drwy ymdrechion amrywiaeth enfawr o unigolion a sefydliadau lleol a chenedlaethol, yn gweithio gyda’i gilydd i arwain gweithgareddau ar gyfer amrywiaeth o oedrannau, crefyddau, rhyweddau a chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol. Fel y nododd post gan nowinaminutemedia yn ddiweddar: ‘Mae ehangiad nodedig £2m y ganolfan eisoes wedi profi’n lle rhyfeddol o ddeniadol a diogel i dyfu, arddangos, cwrdd, ffilmio a chreu.’
Beth na weithiodd cystal â‘r disgwyl neu sydd wedi gorfod newid neu esblygu?
Dileodd cyfnod clo Covid-19 y gyllideb ar gyfer y tu mewn, gan effeithio’n benodol ar ddodrefn a gosodiadau mewnol ac allanol. Er bod y penderfyniad i gynnal ansawdd y palet deunyddiau parhaol yn gywir, mae wedi golygu lansiad moel gyda’r nod tymor hir o ychwanegu mwy o’r elfennau mewnol cyfoethocach, mwy lliwgar a meddal, a chwblhau mwy o’r elfennau tirlunio gan gynnwys gwelyau uchel, seddi a rheseli seiclo. Mae cydbwyso ansawdd dinesig tymor hir yn erbyn diffygion cyllidebol tymor byr bob amser yn arwain at rywfaint o beirianneg gwerth, ond roedd yr ymrwymiad tymor hir gan bawb yn golygu bod modd i’r penderfyniadau ganolbwyntio ar werth tymor hir gyda hyder na fydd y prosiect yn dod i ben pan fydd y drysau’n agor.