Hatch yw rhwydwaith Comisiwn Dylunio Cymru ar gyfer llunwyr â meddwl ffres ar gyfer yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru.
Cynhelir ein cyfarfod nesaf…
Rhagor o fanylion i ddod
Nodau Hatch yw…
- Gweithredu fel llais ar gyfer dylunio da, a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei glywed gan y bobl iawn
- Codi ymwybyddiaeth o werth dylunio a chynllunio da, cydgysylltiedig, a’r gwahaniaeth y gall ei wneud i unigolion a chymunedau
- Dysgu a gwella ein sgiliau i ddod yn ddylunwyr gwell, gan ein galluogi i godi safon dylunio yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru, a gwneud lleoedd gwell sy’n fwy cynaliadwy
- Mynd i’r afael â’r heriau a’r risgiau a wynebir gan ddylunwyr talentog yng Nghymru gyda’n gilydd, a phontio’r bwlch rhwng disgyblaethau amgylchedd adeiledig
- Dangos gwerth prosesau ac atebion dylunio arloesol
- Codi dyheadau dylunio yng Nghymru
- Cael hwyl yn y broses!
Er mwyn bodloni ei nodau, bydd Hatch …
- Yn cynnal nodau strategol Comisiwn Dylunio Cymru yn rhagweithiol
- Yn cwrdd, siarad a gwneud pethau gyda’n gilydd i gyflawni ein hamcanion
- Yn rhannu syniadau a gwybodaeth
- Yn chwilio am gyfleoedd, eu creu a’u rhannu
- Yn dathlu dylunio da yng Nghymru
- Yn cymryd diddordeb yn y materion gwleidyddol sy’n dylanwadu ar ddylunio a’r amgylchedd adeiledig
- Yn cysylltu gyda, ac yn ysbrydoli cenhedlaeth Cymru o ddylunwyr y dyfodol
Lawrlwythwch y Daflen Hatch i ledaenu’r gair
Dilynwch @HatchDCFW ar Trydar
Ydych chi eisiau cymryd rhan?
Os hoffech chi ymuno â Hatch, lawrlwythwch a llenwch y Ffurflen Ymuno hon, a’i hanfon atom ni.
Mae Hatch yn agored i’r holl ddylunwyr, cynllunwyr, peirianwyr a llunwyr brwdfrydig, meddwl agored ac uchelgeisiol eraill yng Nghymru Ffoniwch ni os hoffech gael gwybod mwy.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn cael eich diweddaru drwy e-bost am ddigwyddiadau a chyfleoedd Hatch, a byddwch yn cael eich ychwanegu at y rhestr o gyfranogwyr Hatch gweithredol ar ein gwefan (gyda’ch caniatâd).
Mae’r Comisiwn Dylunio yn buddsoddi ei adnoddau i hwyluso Hatch, ac rydym yn disgwyl i’r rhai hynny sydd yn ymuno i fynd ati i gyfrannu eu sgiliau a’u syniadau i’r grŵp. (Bydd y rhai hynny sydd heb gyfrannu am gyfnod o chwe mis yn cael eu tynnu oddi ar y wefan).
Mae’r rhwydwaith Hatch gweithredol yn cynnwys …
James Stroud, Project Designer, Loyn & Co Architects
John Lloyd, Lead Energy Engineer, Amber Energy
Emily Hall, Associate Architect, Hall + Bednarczyk Architects
Steve Coombs, Architect/Lecturer, Coombs Jones/Welsh School of Architecture
Amy Cowan, Senior Architect, Capita
Kate Davis, Planning Student, Cardiff University
Lauren Philips, Urban Designer, The Urbanists
Wendy Maden, Assistant Planner, The Urbanists
Jamie Donegan, Urban Designer, The Urbanists
Michael Boyes, Architect, Hall + Bednarczyk
Mark Lawton, Landscape Architect, HLM
Emma Pearce, Urban Designer, Arup
Elan Wynne, Principal Architect, Stiwdiowen
Emma Price, Director, EMP Projects & Associates
Peter Trevitt, Peter Trevitt Consulting
Richard Williams, Veritii
Rob Chiat, Urban Designer, Arup
Claire Symons, Senior Landscape Architect, Stride Treglown
Jack Pugsley, Assistant Consultant Planning, Amec Foster Wheeler
Thomas Wynne, Associate Architect, UNIT Architects Limited
Lindsey Brown, Urban Designer/Area Manager (cities), Sustrans
Eleanor Shelley, Architectural Assistant, Scott Brownrigg
Priit Jürimäe, Architectural Assistant, Scott Brownrigg
Efa Lois Thomas, Architectural Assistant, AustinSmith:Lord
Ruth Essex, Consultant & Creative Producer
Graham Findlay, Inclusive Design Consultant, Findlay Equality Services
Olympiada Kyritsi, Architect, Inspire Design
Adam Harris, Architectural Lead