Dylunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru – Datganiad i’r Cyfryngau
Category: Press Releases
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau ei gefnogaeth i Siarter Creu Lleoedd Cymru, gan ymuno â 101 o sefydliadau blaenllaw eraill yng Nghymru yn y frwydr i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi adferiad ar ôl pandemig Covid-19.
Fel yr awdurdod lleol diweddaraf i lofnodi’r Siarter Creu Lleoedd, mae Cyngor Sir Fynwy yn ymuno â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Abertawe. Mae’r llofnodwyr eraill yn cynnwys 29 o bractisiau dylunio neu bensaernïaeth, 20 o gyrff aelodaeth, deg o sefydliadau’r Llywodraeth, 11 o gymdeithasau tai gan gynnwys Tai Pobl a saith o ddatblygwyr tai preifat gan gynnwys y prif adeiladwyr tai yn y DU – Redrow ac Edenstone Homes ym Magwyr. Mae pob un wedi addo:
- Cynnwys y gymuned leol yn y gwaith o ddatblygu cynigion
- Dewis lleoliadau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd
- Blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
- Creu strydoedd a mannau cyhoeddus diogel a chroesawgar sydd wedi’u diffinio’n dda
- Hyrwyddo cymysgedd cynaliadwy o ddefnyddiau i wneud lleoedd yn fywiog
- Gwerthfawrogi a pharchu nodweddion a hunaniaeth unigryw a chadarnhaol lleoedd sydd eisoes yn bodoli.
Wrth groesawu llofnodwr diweddaraf y Siarter Creu Lleoedd, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae cefndir blwyddyn gyntaf y siarter creu lleoedd wedi bod yn ddigynsail ac mae’n braf iawn gweld bod mwy o sefydliadau’n ymrwymo i’r her o wella ansawdd datblygiadau ledled Cymru.
“Rydw i wrth fy modd bod awdurdod lleol arall wedi ymuno â’r siarter gan ei fod mewn sefyllfa arbennig o dda i gynllunio a darparu prosiectau sy’n gwella lleoedd ac ansawdd bywyd pobl yn uniongyrchol. Gobeithio bod hyn yn annog awdurdodau lleol eraill i ymuno yn y dyfodol agos.”
Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Dirprwy Arweinydd Sir Fynwy a’r aelod cabinet sy’n gyfrifol am greu lleoedd: “Rydw i’n falch bod Cyngor Sir Fynwy wedi llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru. Ein nod yw cael sir gynaliadwy sy’n ffynnu ac sydd â chysylltiadau da; sir sy’n rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bobl, yn gwneud y mwyaf o botensial ein hamgylchedd, yn gwella llesiant ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. Mae’r cyfnod diweddar wedi dangos i ni pa mor bwysig yw’r llefydd lle’r ydyn ni’n byw i ansawdd ein bywyd. Rhaid i ni ganolbwyntio’n awr ar y dyfodol; adeiladu’n gryfach drwy greu lleoedd cynaliadwy sy’n cefnogi adfywio ac yn gwella iechyd a llesiant. Mae creu lleoedd da wrth galon ein cynllun datblygu lleol a’n dyheadau ar gyfer y dyfodol ac mae llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru yn pwysleisio ein hymrwymiad i’r amcanion hyn.”
Ychwanegodd Carole Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru: “Mae’r ymrwymiad a wnaed gan y rhai sydd wedi llofnodi’r Siarter Creu Lleoedd yn ymateb allweddol i leoedd mwy cynaliadwy ac i fynd i’r afael â’r gofynion o ran yr hinsawdd.
“Mewn blwyddyn yn unig ers lansio’r Siarter Creu Lleoedd, rydyn ni wedi gweld dros 100 o sefydliadau gwahanol yn camu i’r adwy ac yn addo cefnogi datblygu cynaliadwy a fydd yn gadael etifeddiaeth barhaol drwy roi iechyd a llesiant pobl leol wrth galon pob datblygiad. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr angen i helpu i ddiogelu cymunedau rhag effeithiau newid hinsawdd.
“Mae Cymru wir ar flaen y gad – ni yw’r wlad gyntaf i gael Gweinidog Newid Hinsawdd dynodedig ac erbyn hyn mae gennym ni hefyd Nodyn Cyngor Technegol 15 newydd ac wedi’i ddiweddaru, polisi cynllunio ategol pellach sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr yng Nghymru ystyried llifogydd neu erydiad arfordirol posibl yn y dyfodol o ganlyniad i gynhesu byd-eang. Ni yw’r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn hefyd.
“Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni feddwl am leoedd a chreu lleoedd. Dyna pam ei bod mor galonogol gweld y sefydliadau hyn yn ymuno â ni i wneud Cymru’n lle gwell gydag ardaloedd sydd newydd gael eu datblygu neu eu hadfywio; lleoedd sy’n canolbwyntio ar bobl a chymunedau sy’n weithgar gyda chysylltiad cymdeithasol. Wrth gwrs, byddwn yn cadw llygad ar yr ymrwymiad sy’n cael ei gyflawni ac yn disgwyl gweld cryn newid cadarnhaol.”
Cafodd y Siarter Creu Lleoedd ei datblygu gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru ar y cyd â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru – grŵp amlddisgyblaethol sy’n cynrychioli proffesiynau a sefydliadau sy’n gweithio yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn http://cy.dcfw.org/creu-lleoedd/