Ynni Adnewyddadwy a Chymunedau Gwledig

Alister Kratt, Cyfarwyddwr gydag LDA Design

Mae newid yn yr hinsawdd ar ein gwarthaf ac mae ymatebion cymdeithas i’r newid hwnnw’n hanfodol er mwyn cynnal yr amgylchedd naturiol hyfryd yr ydym wedi’i gael yn rhodd ac sy’n cynnal cymdeithas a’n heconomi.  Mae lleoedd yn newid dros amser, weithiau’n araf, weithiau’n gyflymach. Heb gynllunio digonol ac ymgysylltu ystyrlon â chymunedau, efallai y byddwn yn cyrraedd rhywle nad oeddem yn bwriadu ei gyrraedd ac na fydd y newid yn cael ei ddeall na’i fabwysiadu ac yn sicr ni fydd yn gwneud i ni deimlo’n gartrefol. Drwy gynllunio da a thrwy ddod â chymunedau gyda ni ar daith o newid, gallwn anelu at ganlyniad y mae’r holl gymdeithas yn ei ddeall, ei angen a’i eisiau, yn hytrach nag un sy’n cael ei ‘orfodi’ arnom.

Mae tirwedd Cymru yn gynfas y mae hanes cynnydd ein cymdeithas wedi’i beintio arno. Mae wedi newid dros amser. Mae ein tirweddau’n gymhleth, maent yn adlewyrchu’r modd y mae pobl yn rhyngweithio â nhw ac yn manteisio arnynt. Mae’n bosibl ystyried ein tirweddau o sawl safbwynt: fel cynfas, adnodd, lle, ased – tirweddau o harddwch, hamdden, cartref, diwydiant, pŵer, masnach a natur. Mae cymdeithas yn rhyngweithio â’n tirweddau mewn modd helaeth, a dylai ein dealltwriaeth fod yn helaeth hefyd. Fel diwylliant, mae angen i ni reoli newid yn dda, cynllunio a chael prosesau ar waith i gefnogi canlyniadau da sy’n cael eu croesawu gan gymunedau gwledig oherwydd gall y cymunedau hynny yn aml fod yn gartref i brosiectau ynni sy’n cefnogi’r boblogaeth drefol.

Mae polisi Cymru, sy’n seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn galw ar gymdeithas i gynnal ein cenedlaethau heddiw ac yn y dyfodol. Un ffordd o grynhoi’r polisi yw ymddwyn fel cymdeithas sydd â buddiant cymunedol goleuedig – rydym yn hyrwyddo ein buddiannau cymunedol ni ac yn gwasanaethu buddiannau pobl eraill ar yr un pryd. Beth sy’n galluogi hyn i ddigwydd pan ystyriwn y ddarpariaeth ynni ar gyfer y genedl Gymreig?

Mae cymdeithas yn defnyddio ynni a rhaid darparu ynni di-garbon er mwyn helpu i arafu cyflymder newid yn yr hinsawdd i gefnogi cydnerthedd, gan bweru trefi a phentrefi ledled y wlad ddatganoledig. Ond sut gall cymunedau ymgysylltu â’r newid hwnnw, a’i ‘groesawu’, fel rhan o gynefin cadarnhaol wedi’i adnewyddu, gan adlewyrchu angen/dibyniaeth gymdeithasol ehangach sy’n ymgysylltu â’r posibilrwydd o ganlyniadau da ac amlwg i gymunedau gwledig?

Yn ogystal â chyfleoedd i ymateb i gymeriad presennol y dirwedd ac ymdeimlad o le pan fyddwn yn cynllunio ein seilwaith ynni adnewyddadwy a’r rhwydwaith sy’n ei gefnogi, mae cyfleoedd hefyd i ystyried newid cadarnhaol mewn cymeriad a chynefin – trawsnewidiad, tirwedd gynhyrchiol gadarnhaol sydd nid yn unig yn cynaeafu pŵer o’r haul a’r gwynt ond hefyd yn mynd i’r afael ag adferiad natur, yn mynd i’r afael â systemau amgylchedd naturiol ehangach ac yn cefnogi cymunedau gwledig sy’n weithiau’n wynebu anawsterau.

Mae’n bosibl cynllunio tuag at ganlyniad cadarnhaol yn y dyfodol drwy newid trawsnewidiol. Mewn amgylchedd lle mae prosiectau ynni unigol yn cael eu hyrwyddo drwy’r system gynllunio ac yn cael eu cyfuno i greu un rhwydwaith pŵer cenedlaethol, mae angen i ni gynllunio ar gyfer canlyniadau priodol a democrataidd a dibyniaeth ar system gynllunio gref, cynllunio gofodol ar raddfa strategol, gweledigaeth strategol a hybu datblygiadau ynni cyfrifol.

Er bod mentrau cynhyrchu ynni lleol yn chwarae rhan bwysig yn ymateb cymdeithas, a bod prosiectau ynni cymunedol yn cael eu hyrwyddo fel rhan o brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa ranbarthol/genedlaethol, mae angen cyfeiriad strategol i gynyddu a/neu gydlynu’r ymateb ar lefel ranbarthol neu genedlaethol i gefnogi a phweru cymdeithas. Allweddol yw’r modd y mae’r ymateb cenedlaethol hwnnw yn ‘glanio’ mewn cymuned, y gellid ystyried ei fod yn anghymesur â'r angen lleol. Mae’r gwaith o hyrwyddo Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs), a hyrwyddir drwy’r broses Gorchymyn Cydsyniad Datblygu, sy’n ceisio cyflawni prosiectau o'r fath ar raddfa genedlaethol, wedi’i strwythuro i gefnogi proses gynllunio briodol, sy’n rhagarweiniol neu’n helaethach ac sy’n dibynnu ar ymgysylltu ymlaen llaw i lywio prosiectau i gefnogi cymunedau a rhanddeiliaid i fabwysiadu/derbyn, gyda neu heb ‘gronfa buddion cymunedol’.

Mae polisi a chanllawiau cynllunio Cymru wedi’u sefydlu a’u strwythuro’n fwyfwy cadarn i gefnogi dull strategol cydgysylltiedig y dylid ei gymeradwyo a’i ddilyn hyd at ei gyflawni. Yr olaf yw’r mwyaf heriol. Mae’n iawn bod yn egwyddorol a chael polisi a chanllawiau da, ond rhaid i uchelgais droi’n rhywbeth sy’n cael gyflawni ymarferol, yn broses dda ac yn ffocws ar ganlyniadau cadarnhaol. Felly beth sydd ar waith i ategu canlyniad cadarnhaol? Efallai mai’r Datganiadau Ardal Ynni sydd fwyaf perthnasol i gymunedau gwledig sy’n gweithio ar lefel leol. Gallent gael eu cydlynu a’u cysoni’n well â’r defnydd o Gynlluniau Bro i lywio’r modd y gall cymuned helpu i siapio ei chynefin yn y dyfodol a chefnogi canlyniadau trawsnewidiol cadarnhaol a sicrhau manteision amlwg.

Yn fy ysgrif yn ‘A National Vision’, a gyhoeddwyd yn ‘Landmarks’ a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru yn 2015, nodais fod gwledigaeth yn bwysig, gan dynnu sylw at y modd y gall ryddhau cymunedau a chymdeithas - Cyhoeddiad Landmarks - Comisiwn Dylunio Cymru.

Gyda Llafur yn datgan Strategaeth Seilwaith Cenedlaethol y DU, sydd i’w chyhoeddi yn 2025, gobeithiaf y bydd y strategaeth yn cynnwys gweledigaeth gadarn a dimensiwn gofodol ac y bydd yn ymestyn ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Ar y cyd â fframwaith polisi Cymreig cryf yn Cymru'r Dyfodol, sy’n rhaeadru polisi o'r strategol i’r lleol, efallai ein bod ni ar ddechrau cynllunio gofodol strategol ‘o’r brig i lawr’, a fydd yn cefnogi ymgysylltiad cymunedol ‘o’r gwaelod i fyny’ a gweledigaeth o le ac yn cynnwys hyrwyddwyr prosiectau mewn prosesau a chanlyniadau da. Gyda chyd-ymdrechion, dylai dull o’r fath allu sicrhau canlyniadau da sy’n mynd i’r afael ag ymdeimlad o le heddiw ac yfory, ymdeimlad o berthyn, a mynegiant o fuddiant cymunedol goleuedig sy’n cefnogi anghenion cymdeithas o ran darparu ynni adnewyddadwy er lles yn ehangach.

 

Delwedd nodwedd: Ynni adnewyddadwy - yn cael ei ddeall yn ddiwylliannol, yn cael ei fabwysiadu ac yn gwneud i ni deimlo’n gartrefol - cynefin trawsnewidiol sy’n cefnogi cymunedau 

Mae’r ddelwedd yn ceisio mynegi ynni adnewyddadwy fel rhan o’r tirlun – rhywbeth sy’n cael ei ddeall yn ddiwylliannol, yn cael ei fabwysiadu ac yn gwneud i ni deimlo’n gartrefol – i gefnogi cynefin trawsnewidiol:

Mae ynni adnewyddadwy’n cael ei blethu i mewn i gynefin tirwedd Cymru gan groesi drwy’r dirwedd gymdeithasol ac ecolegol sy’n rhan o’r tirlun yn hytrach na rhywbeth sy’n cael ei orfodi arno’n unig. Mae’r haul yn cael ei ffermio gan araeau o baneli solar ac isobarrau’r gwynt yn dawnsio drwy’r tyrbinau gwynt sy’n cynaeafu pŵer y gwynt. Mae cynfas tirwedd Cymru wedi’i fynegi mewn paentiadau ers tro byd, sy’n cyfleu nodweddion diwylliannol, diwydiannol ac ecolegol. Mae’r lluniad naratif hwn yn ceisio mynegi’r dyfodol.