Y tu hwnt i barciau a meysydd chwarae
Marianne Mannello, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Chwarae Cymru
Yn ddiweddar cynhaliodd Chwarae Cymru'r seminar Cynllunio a dylunio ystyriol o blant: y tu hwnt i TAN16 a ddaeth â siaradwyr adnabyddus ym meysydd chwarae plant, dylunio,cynllunio, hawliau a chyfranogiad at ei gilydd. Rhoddodd y seminar drosolwg byr o gynllunio trefol a sut mae hwnnw’n ymwneud â phlant a’u chwarae, gydag enghreifftiau o’r DU ac o amgylch y byd. Roedd ffocws ar roi mwy o bwyslais ar fywydau pob dydd plant a rhoi polisi ar waith.
Mae Marianne Mannello yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Cefnogaeth ac Eiriolaeth i Chwarae Cymru. Eglura: “Mae synnwyr lle yn bwysig i gynorthwyo plant ac arddegwyr i deimlo’n rhan o’u cymuned a’u cymdogaeth. Mae cynllunio preswyl o safon yn hybu cydlyniad cymunedol a dylai ystyried mynediad at amwynderau a gofodau cyhoeddus i’r holl breswylwyr. Mae hi felly’n rhyfeddol bod pobl, yn arbennig plant, yn rhy aml yn dod yn isel ar y rhestr flaenoriaeth wrth ystyried datblygiadau tai newydd ac yn aml rhoddir amser cyfyng i feddwl am sut i ennyn cymuned mewn lleoedd newydd.
“Mae plant yn dal i ddweud wrthym mai tu allan yw un o’u hoff leoedd i chwarae. Mae’r pandemig coronavirus wedi amlygu’r rôl bwysig y mae mynediad at ofod tu allan da yn ei gael ar iechyd a lles. Ac eto, wrth ddylunio datblygiadau tai newydd neu adfywio rhai presennol, yn aml fe esgeulusir angen plant i chwarae y tu allan, cyfarfod ffrindiau a symud o gwmpas yn ddiogel.
“Roedd y seminar yn archwilio’r effaith y mae’r broses gynllunio yn ei chael o ran annog chwarae a’r rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol y gall hyn ennyn mewn cymunedau. Roedd yn archwilio sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i eirioli dros a galluogi datblygiad cymunedau sy’n gyfeillgar i blant, gan felly gyfrannu at blentyndod iachach a hapusach. Er nad yn hawdd, y mae’n bosibl.
“Mae angen y sgiliau cywir ar y cam cywir mewn prosiect ac mae gan y sector chwarae yng Nghymru'r arbenigedd i symbylu ac arwain y ffordd o ran meddwl am sut i weithio’n well ar gyfer plant. Mae’r pwyslais ar greu lleoedd ym Mholisi Cynllunio Cymru yn cefnogi ymagwedd fwy holistig ac mae cyfle go iawn i ymwneud yn greadigol ar draws y sectorau chwarae a chynllunio i ddysgu oddi wrth dulliau a modelau cyflawni ein gilydd.
“Mae gan lawer ohonom atgofion braf o dyfu fyny mewn cyfnod lle'r oedd yn dderbyniol bod plant, unwaith eu bod yn ddigon hen a digon hyderus i lywio’r byd tu allan yn annibynnol neu gyda ffrindiau neu frodyr a chwiorydd, yn chwarae y tu allan ac yn crwydro yn rhydd o fewn eu cymdogaeth. Mae plant ac arddegwyr ar draws Cymru yn gofyn am yr un peth - mwy o amser, gofod a chaniatâd i chwarae mewn cymunedau sy’n cymryd gofal ohonynt ... nid yw hynny’n ormod i’w ofyn, does bosib?”
Mwy o wybodaeth ar gael o www.chwaraecymru.org.uk