
Symudiad a Chreu Lleoedd
Matt Thomas, Vectos.
Mae polisi cynllunio llym y DU yn ystod yr 20fed ganrif, ar sail y patrwm “Rhagfynegi a Darparu”, wedi cael dylanwad mawr ar siâp a nature in datblygiadau a’n cymunedau. Roedd hynny’n golygu dylunio isadeiledd ac aneddiadau er mwyn sicrhau capasiti traffig digonol i ateb y galw yn ystod cyfnodau prysuraf.
Mae’r traffig prysuraf hwn ond yn cynrychioli 25% o gapasiti cyffredinol yr isadeiledd sydd angen capasiti llawer is y tu allan i’r cyfnodau prysuraf. Mae’r dull pesimistaidd ac o blaid ceir hwn, sy’n sicrhau cyfleustra i yrwyr yn ystod y cyfnodau prysuraf, wedi siapio ein cymdeithas ac yn siomedig o aml, ni roddir llawer o ystyriaeth, os o gwbl, i ddulliau amgen neu newidiadau i dechnoleg.
Os ydym am wrthdroi’r farn draddodiadol a hirsefydlog hon, mae angen inni fabwysiadu dull newydd wrth feddwl am symudedd. Diolch byth, mae dull newydd yn cael ei hyrwyddo gan gynllunwyr trafnidiaeth blaengar. Yn hytrach nag edrych yn syth ar gyfrifo senario o ran effeithiau gwaethaf y datblygiad yn nhermau cerbydau, ac yna ceisio ei leddfu drwy ddylunio. Nod y dull newydd yw canolbwyntio bob ymdrech ar ba fath o ddatblygiad rydym eisiau ei greu er mwyn cael amgylchedd cyffrous a bywiog lle bydd pobl eisiau byw, gweithio a chwarae. Gelwir y dull hwn yn “Gweledigaeth a Dilysu”.
Wrth gwrs, mae darparu isadeiledd trafnidiaeth yn hanfodol i gefnogi’r “weledigaeth”, ond dylai fod yn seiliedig ar hierarchaeth symudiad. Rhaid i gerdded a beicio, a chreu isadeiledd i’w cefnogi, gael blaenoriaeth dros gerbydau. Dylid meddwl hefyd am y ffordd y mae’r glaw am symudiad yn newid mewn byd cynyddol dechnegol a rhithwir. Efallai y bydd isadeiledd priffyrdd yn cael ei ddisodli gan isadeiledd digidol. Mae pandemig Covid wedi newid yn sylweddol bywydau y rhan fwyaf o bobl, o ran teithio i’r gwaith neu siopa ar-lein neu ddysgu ar-lein. Does dim angen inni wisgo sit mwyach, na chymudo am awr i swyddfa am 5 diwrnod yr wythnos. Mae’r rhwystrau symudedd yn cael eu chwalu ac mae unigolion yn gallu dewis mwy a mwy ble a sut maen nhw’n dymuno byw ac i roi rhagor o bwyslais ar fannau o safon, cymdogaethau a chyfleusterau lleol. Mae dyluniad gosodiadau tai a manylebau eiddo unigol yn esblygu i adlewyrchu patrymau gwaith newidiol, gyda darpariaeth ar gyfer gofod gweithio gartref, band-eang hynod gyflym a rhagor o gysylltedd, man storio beics a chyfleusterau gwefru trydan gartref oll yn cael eu hystyried mewn cartrefi modern.
Mae cyfuniad o ddefnyddiau tir, gyda chymorth rhwydweithiau cerdded a beicio deniadol a diogel sy’n gysylltiedig â chyfleusterau lleol cyfagos yn hanfodol er mwyn arwain at newid ffordd o feddwl pobl o ran ble gallant fyw, gweithio a chwarae. Mae’r dull hwn yn cael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth megis polisi Llywodraeth Cymru ar Deithio Llesol (Cymru) 2013, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn fwy diweddar Polisi Cynllunio Cymru (2021). Fodd bynnag, mae hi bellach yn amser gweithredu. Mae amser yn brin.
Mae’r cysyniad o dref neu ddinas 15 munud yn un hanesyddol, ond mae hi bellach yn hanfodol cyflawni ein hamcan o greu mannau deniadol a dymunol i fyw ynddynt, ac ar yr un pryd, lleihau ein hôl-troed carbon.
Gall mentrau syml eraill megis clybiau ceir helpu i dorri’r gadwyn rhwng bod yn berchen ar geir a defnyddio ceir, a gall helpu i gynyddu dwysedd pan fo tir datblygu’n ddrud iawn, drwy hwyluso llai o gymarebau parcio ceir.
Mae hybiau symudedd, ar raddfeydd amrywiol, yn darparu llu o opsiynau symudedd megis:
- Llogi beics
- E-beics
- Meddyg beics
- Llogi sgwteri
- Nodau trafnidiaeth gyhoeddus
- Concierge cymunedol
- Loceri Amazon
Lle bo’n bosibl, dylai Hybiau Symudedd hefyd gynnwys ‘Y Trydydd Lle’ h.y., rhywle i weithio o bell a chael coffi o bosibl, ac yna bydd modd ymgorffori hyn oll i ganolfan leol er enghraifft.
Yr her sylweddol arall y mae cymdeithas yn ei hwynebu yw newid cymdeithasol, os yw’r heriau newid hinsawdd am gael eu bodloni, mae angen newidiadau sylweddol a mawr i’r ffordd rydyn ni’n byw ar hyn o bryd. Mae allyriadau trafnidiaeth yn cynrychioli oddeutu 25% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yr UE, ac mae’r UE wedi gosod targed o leihau allyriadau tŷ gwydr yn ymwneud â thrafnidiaeth gan 90% erbyn 2050. Ni fydd mân newidiadau i ddyluniad ein hisadeiledd a defnyddio dull creu lleoedd newydd yn unig yn cyflawni’r targed uchelgeisiol hon.
Felly, ni fu’r dull Gweledigaeth a Dilysu erioed mor bwysig. Mae dau brif ffactor a all ddylanwadu lefel yr allyriadau carbon ar gyfer trafnidiaeth, yn benodol cerbyd modur, a’r pellter sy’n cael ei deithio a swm y carbon sy’n cael ei allyrru fesul uned pellter.
Dylai’r ystyriaeth gyntaf fod bob amser - oed angen i mi gyflawni’r daith hon? Oes ffordd arall o gyflawni’r hyn sydd angen ei wneud? Os nad oes modd cyflawni’r daith drwy ddull nad yw’n llygru, yna dylai’r ystyriaeth nesaf fod sut mae’r cerbyd yn cael ei bweru - a allai sicrhau symudiad at danwydd mwy effeithlon neu drydan?
Gellid cynorthwyo’r her o gyflawni lleihad sylweddol mewn carbon perthnasol i drafnidiaeth drwy alinio’r systemau cynllunio trafnidiaeth a chynllunio rhanbarthol i sicrhau bod datblygiad ar waith mewn ardaloedd sy’n gallu hwyluso’r Fframwaith Hygyrchedd a Symudedd Cynaliadwy, ac sy’n gymdogaethau 15 munud yn darparu dewisiadau teithio cyfleus a chost-effeithiol a chyfuniad o amwynderau lleol.
Dim ond drwy ddefnyddio mesurau o’r fath y mae modd i ni dorri’r cylch o estyn am allweddi’r car yn awtomatig, heb sylwi ein bod ni’n gwneud hynny.