Strydoedd ar gyfer Ysgolion – Creu Diwylliant o Gerdded a Beicio i’r Ysgol

Patrick Williams, Pennaeth Lleoedd Iachach, Sustrans Cymru

Mae gan Heol Dryden ym Mhenarth hanes o broblemau traffig yn ystod y cyfnod hebrwng plant i’r ysgol ac yn ôl; mae’n problem sy’n effeithio ar y trigolion ac ar ddiogelwch plant Ysgol Gynradd Fairfield.  Mae prosiect Stryd Ysgol newydd wedi cau’r ffordd y tu allan i’r ysgol i gerbydau modur adeg gollwng a chasglu plant ac mae hynny, law yn llaw â gwelliannau yn y seilwaith a newid mewn ymddygiad, wedi creu amgylchedd mwy diogel ac iachach i bawb.

Fe wnaeth Sustrans ddatblygu’r prosiect drwy broses o gyd-ddylunio, a oedd yn cynnwys y gymuned leol, y 320 o blant sy’n mynd i Ysgol Gynradd Fairfield, eu rhieni a’u hathrawon. Y nod oedd cynnwys yr holl randdeiliaid hyn mewn proses ddylunio a fyddai’n gwneud y strydoedd cyfagos yn fwy diogel ac yn annog diwylliant o deithio ar feic neu ar droed i’r ysgol.

Ymgysylltodd Sustrans ag amrywiaeth eang o bobl ar amrywiol lefelau, gan gynnwys rhai nad ydynt yn aml yn cael y cyfle i leisio’u barn, i gasglu eu hadborth. Gan nad oes neb yn teimlo’n gyfforddus nac yn abl, a gan nad oes gan neb amser i gymryd rhan mewn gweithdai ffurfiol, trefnwyd yr ymgysylltu i fod mor hygyrch a hwylus â phosibl. Cynhaliwyd y gweithdai ar y stryd, mewn lleoliadau hwylus, ar adegau o’r dydd pan oedd pobl yn debygol o fod yn pasio ar hyd y stryd, a gyda gweithgareddau cyflym a hawdd.

Cafwyd hefyd gymysgedd o gyfryngau a dewisiadau eraill ar gyfer cymryd rhan, megis mapiau digidol rhyngweithiol, arolygon papur gyda blychau postio wedi’u gosod mewn llefydd hwylus, gwefan a gâi ei diweddaru’n rheolaidd, teithiau tywys, arolygon stryd i’r disgyblion a diwrnod chwarae haf.

Cofnodwyd maint a chyflymder y traffig yn yr ardal, a defnyddiwyd fideos deallusrwydd artiffisial, er mwyn deall y cysylltiad rhwng cerddwyr a cherbydau y tu allan i’r ysgol.

Yn sgil y gweithgaredd ymgysylltu a’r data, gwelwyd mai’r problemau mwyaf oedd traffig trwm yn ystod amseroedd prysur yr ysgol, symudiadau a pharcio peryglus, a theimlad cyffredinol nad oedd hi’n ddiogel i bobl oedd yn teithio i’r ysgol ar droed ac ar feic.

Yna cafodd cyfres o welliannau i drefn stryd Heol Dryden eu datblygu, gan gynnwys lledu’r palmant wrth ymyl yr ysgol a chreu ymyl o blanhigion neu ardd law. Crëwyd yr ardd law i ddisodli’r cwterydd ar hyd un ochr y stryd, gan weithio fel system draenio naturiol (SuDS), gan gyflwyno gwyrddni i’r stryd a darparu rhwystr rhwng ceir a cherddwyr. Mae’r ymyraethau hefyd yn cynnwys cyflwyno system un-ffordd, sy’n gosod trefn ffurfiol i’r llif cerbydau anffurfiol blaenorol gan ei gwneud yn haws cau’r stryd o ddydd i ddydd.

Cafodd y stryd ysgol ei threialu am ddiwrnod cyn adeiladu’r newidiadau parhaol. Roedd yn bwysig treialu’r ymyraethau dros dro er mwyn cael rhagor o adborth pwysig a chwblhau’r cynigion cyn adeiladu.

Agorodd y Stryd Ysgol ym mis Mai 2023. Fodd bynnag, mae’r data o’r arolwg cychwynnol a gasglwyd ar ôl gweithredu’r prosiect wedi dangos iddo gael effaith gadarnhaol. Mae’r rhan fwyaf o’r rhieni/gofalwyr a’r trigolion a holwyd, yn meddwl bod y stryd yn teimlo’n fwy diogel, yn fwy cyfeillgar i blant a drwyddi draw, yn lle brafiach i fod. Bydd y prosiect, gan gynnwys barn y gymuned a llifoedd traffig, yn dal i gael eu monitro a’u defnyddio i ddangos effaith Prosiect Fairfield ar y lefelau teithio llesol, ar y newidiadau yn ymddygiad y traffig, a safbwyntiau’r gymuned, yn ogystal ag i lywio prosiectau i’r dyfodol.