Stori a ddiffinnir gan y cartref

Matt Dicks, Cyfarwyddwr CIH Cymru

Beth am i ni gyd gau ein llygaid am eiliad a dychmygu - dychmygwch fod yn rhiant sengl yn ystod y cyfyngiadau symud Coronavirus, gyda dau blentyn ifanc, yn byw mewn fflat dwy lofft ar y chweched llawr ynghanol dinas heb unrhyw ofod gwyrdd gerllaw. Mae’r siopau lleol 15 munud i ffwrdd ar droed gyda baban yn y pram a phlentyn bychan wrth eich traed, neu ydych chi’n peryglu eich iechyd ar siwrnai bws 5 munud pan fo adroddiadau am sawl mil o bobl yn cael eu heintio o’r newydd bob dydd?

Neu dychmygwch fod yn gwpl mewn fflat un llofft, y ddau ohonoch yn gorfod gweithio o adref, un yn y llofft a’r llall ar fwrdd y gegin, ac unwaith eto dim gofod gwyrdd gerllaw a thaith gerdded hir i’r siopau.

Ac mae llawer mwy o enghreifftiau y gallwn eu rhestru lle nad yw’r dewis tai a chynllun y ‘lle’ mae pobl yn byw ynddo yn addas i’r diben o ran ymdopi â gofynion cyfyngiadau symud a osodwyd o ganlyniad i argyfwng iechyd byd-eang.

Yn anffodus, efallai nad yw rhai ohonoch yn gorfod hyd yn oed ddychmygu’r senarios hyn, a bod y lluniau a baentiaf yn disgrifio’ch gwir brofiad byw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae’r pandemig a’r cyfyngiadau symud o ganlyniad iddo wedi bod yn stori a ddiffinnir gan y cartref a’n hamgylchedd lleol oherwydd ein bod wedi ein cyfyngu iddynt, mwn un ffordd neu’r llall, am dros flwyddyn bellach.

Bu’r pandemig yn fodd i ddisgleirio golau cryfach fyth ar yr hyn a wyddem eisoes oedd yn wir, fod gennym yng Nghymru system dai annigonol a thoredig. Arweiniodd hyn at yr angen i gartrefu dros dro fwy na 5,000 o bobl yng Nghymru mewn tai gwely a brecwast neu mewn gwestai yn ystod y pandemig gyda’r her anferth bellach o ganfod cartrefi mwy parhaol a chynaliadwy iddynt wrth i ni lywio’n ffordd allan o’r cyfyngiadau symud ac anelu i gyfarfod uchelgais Llywodraeth Cymru o beidio gadael i neb o’r bobl hyn ddychwelyd at ddigartrefedd. Dyma un symptom o system dai sy’n gwegian dan bwysau y prinder difrifol o gartrefi sydd ar gael ar rent cymdeithasol. Ac mae’r broblem systemig a strwythurol yma o gyflenwad yn cael ei dwysáu oherwydd llawer o ardaloedd sydd wedi’u cynllunio’n wael lle mae diffyg difrifol mewn synnwyr lle ac yn fwy pwysig synnwyr gweithrediad o fewn eich cymuned eich hunan.

O safbwynt iechyd cyhoeddus, dangosodd Archwiliad Tu Mewn i Dai y cydberthynas, yn ystod y don gyntaf o heintiau, rhwng marwolaethau Covid-19 a thai gorlawn, yn ogystal â graddfeydd marwolaethau cynyddol mewn lleoliadau Tai Amlfeddiannaeth (HMOs), ac mewn ardaloedd lle mae prinder cartrefi ar gael ar rent cymdeithasol sy’n golygu bod llawer yn cael eu gorfodi i letyau dros dro cyfyng fel lletyau Gwely a Brecwast ac ati.

Yn sylfaenol, mae’n cysylltiad clir rhwng tlodi (a’r dewisiadau tai gwael a’r amgylcheddau gwael eu cynllun sydd ar gael i bobl sy’n profi tlodi) a chynnydd mewn heintiau a chyfraddau marwolaeth.

Felly, o safbwynt iechyd cyhoeddus yn unig, er mwyn sicrhau ein bod wedi’n harfogi i ymdopi â, Duw a’n gwaredo, unrhyw bandemig byd-eang yn y dyfodol, rydym angen mynd i’r afael o ddifrif â’n system dai aflwyddiannus sydd wedi’i chysylltu’n sylfaenol â’r ffordd yr ydym yn meddwl am ac yn cynllunio ‘lle’.

Law yn llaw â hyn mae gennym hefyd y newid radical yn y ffordd yr ydym bellach yn defnyddio ein cartrefi – i lawer ohonom maent bellach wedi dod yn fannau gwaith ac maen nhw’n debygol o barhau felly am sawl blwyddyn i ddod, os nad yn barhaol.

Dyma pam, yn ein cyflwyniad diweddar ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, i ymgynghoriad ‘Mannau a Chartrefi Prydferth’ Llywodraeth Cymru ar safonau tai, roeddem yn galw am:

  • Olwg mwy holistig o safonau tai, gan adnabod yr angen i sicrhau bod safonau yn adlewyrchu’r effaith y mae ansawdd cartref yn ei gael ar les corfforol a meddyliol.
  • Ffocws ar sut y gallai ffyrdd o fyw newid a’r angen dilynol i hybu a galluogi teithio llesol, gan leihau’r ddibyniaeth ar deithio un person fesul car.
  • Ffocws ar swyddogaeth ‘creu lleoedd’ fel modd i greu amgylcheddau llewyrchus, hygyrch a chynhwysol a ddylai fynd law yn llaw â’n disgwyliadau o safonau tai.
  • Safon sy’n gymwys ar draws pob deiliadaeth i greu gweledigaeth gyd-gysylltiedig o’r cartrefi a’r lleoedd a grëir a chefnogaeth gan drawstoriad eang o fudiadau datblygu tai.

Yn anad dim, mae’r pandemig wedi newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn edrych ar y cartref – i lawer ohonom y mae bellach yn ofod gweithio yn ogystal â gofod i hamddena – sy’n golygu bod canologrwydd y cartref wrth ddylunio ‘lle’ yn cymryd mwy fyth o amlygrwydd yn ein byd ôl-COVID. Mae’n golygu bod pawb ohonom angen meddwl yn wahanol am sut y dylai ein cartrefi gael eu cynllunio, y safonau gofod sydd eu hangen bellach, yn ogystal â’r hyn y mae’r ‘lle’ lleol ei angen er mwyn gwneud ein cartrefi, ein cymunedau a’n hamgylcheddau lleol yn bwrpasol ar gyfer ein gweithlu hyblyg newydd.