Soft City: Building Density for Everyday Life
Adolygiad Llyfr gan Max Hampton, Cynghorydd Dylunio yng Nghomisiwn Dylunio Cymru
Mae’r Siarter Creu Lleoedd yn hyrwyddo lleoedd sydd â chymysgedd o ddefnyddiau a phoblogaeth digon dwys i gefnogi eu bywyd cymdeithasol ac economaidd. Mae adeiladau dwysedd canolig gyda defnydd cymysg yn nodweddiadol o drefi a dinasoedd traddodiadol Ewrop. Ac eto, mae’r math hwn o adeiladau mân, canolig, sy’n cael eu disgrifio fel y ‘canol coll’, yn anarferol mewn datblygiadau newydd yn y DU. Yn ‘Soft City’, mae David Sim, pensaer o’r Alban sydd wedi’i leoli yn Llychlyn, yn dangos sut i ddylunio amgylcheddau gydag adeiladu dwys ar raddfa ddynol.
Y Canol Coll (Sim/Island Press)
Dadl Soft City yw y gallai cynyddu dwysedd ein trefi a’n dinasoedd helpu i fynd i’r afael â heriau byd-eang y newid yn yr hinsawdd, tagfeydd a threfoli. Mae cynyddu dwysedd datblygiadau wedi cael enw drwg yn y DU ac mae’n cael ei gysylltu â thyrau uchel iawn, fflatiau bach a gorlenwi. Mae Sim yn cydnabod nad cynyddu dwysedd yw’r unig yw’r ateb, ond pan fyddwch chi’n ychwanegu amrywiaeth o fathau o adeiladau a defnyddiau yn yr un lle, rydych chi’n creu gwir ansawdd trefol i drefi a dinasoedd Ewrop.
Aarhus, Denmark (Sim/Island Press)
Damcaniaeth Soft City yw Dwysedd x Amrywiaeth = Agosrwydd. Y syniad yw bod cyfuno dwysedd ac amrywiaeth yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd pethau, lleoedd a phobl ddefnyddiol yn nes atoch chi. Mae’r llyfr yn dangos sut y gellir dod â gwahanol agweddau ar fywyd bob dydd ynghyd a’u cysylltu â’i gilydd er mwyn darparu gwell ansawdd bywyd.
Mae Soft City yn dangos sut y gall patrwm adeiladu trefol traddodiadol o flociau caeedig, gydag adeiladau annibynnol, cydgysylltiedig a haenog, alluogi dwysedd ac amrywiaeth o ddefnyddiau ar yr un pryd â chynnal ‘y raddfa ddynol’. Mae Sim yn dangos pam mae’r ffurf drefol hon, gyda’i rheolau syml, wedi helpu i greu rhai o’r trefi a’r dinasoedd brafiaf i fyw ynddynt yn y byd. Gall blociau o adeiladau maint canolig gyfuno cysur a diogelwch bywyd yn y maestrefi gyda hwylustod a hygyrchedd bywyd trefol.
Y Bloc Caeedig (Sim/Island Press)
Mae’r llyfr yn cynnwys enghreifftiau o Lychlyn, gweddill Ewrop, Japan, yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Roedd yn ddiddorol darllen sut mae Melbourne yn defnyddio rheolau clir a syml i alluogi datblygiad defnydd cymysg mwy dwys ar hyd ac o amgylch y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus presennol. Mae’r polisi hwn yn galluogi’r ddinas i ddarparu ar gyfer twf poblogaeth heb ehangu tuag allan ac esblygu dros amser, gyda’r dwysáu’n digwydd fesul plot.
Melbourne - Cynyddu dwysedd o amgylch Seilwaith Presennol (Sim/Island Press)
Mae enghreifftiau da o safleoedd mwy o faint yn yr Almaen a Sweden sydd wedi eu huwchgynllunio gan yr awdurdod lleol ac wedi’u rhannu’n blotiau bach. Mae pob plot yn cael ei ddatblygu gan wahanol ddatblygwyr, gyda phenseiri amrywiol. Y canlyniad yw creu cymysgedd amrywiol o fathau o dai a defnydd tir mewn cymdogaethau bywiog gydag ymdeimlad cryf o hunaniaeth a chymuned.
Vauban, Freiburg (Sim/Island Press)
Nid bwriad Sim yw gwneud y byd yn ‘Llychlynnaidd’ ac mae’n cydnabod bod gwahanol bobl a diwylliannau, hinsawdd a thirweddau, gwleidyddiaeth a systemau cynllunio mewn gwahanol wledydd. Fodd bynnag, mae’n nodi ein bod i gyd yn wynebu heriau tebyg ac y gall yr egwyddorion dylunio trefol yn y llyfr hwn helpu i’w datrys.
Rwy’n argymell Soft City i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybod sut gall datblygiadau dwys a defnydd cymysg greu cymunedau cynaliadwy a chadarn sydd â phobl iachach a hapusach. Mae’r llyfr hwn a’i ddarluniau hyfryd yn llawn syniadau ac enghreifftiau a allai gefnogi’r gwaith o greu lleoedd yng Nghymru.