Mapio Ynys Môn gyda Phlant a Phobl Ifanc

Yr Athro Flora Samuel, Prifysgol Caergrawnt

Mae ymgysylltiad cymunedol mewn ardaloedd trefol yn faes ymchwil sydd wedi cael ei esgeuluso, ond mae’r sefyllfa o ran ymchwil ar ymgysylltiad cymunedol mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd ‘a adawyd ar ôl’ – heb sôn am rai lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang – yn waeth byth. Mae llai byth o ymchwil systematig wedi cael ei wneud ar astudio ymgynghoriadau cymunedol gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyn yn dod yn fwyfwy pwysig yng Nghymru, lle gall pobl ifanc bleidleisio yn 16 oed erbyn hyn.

Mae datblygu offer i ymgysylltu'n gynhwysol â'r gymuned wrth gynllunio yn un o amcanion allweddol y Llwyfan Map Cyhoeddus, sef prosiect ymchwil gwerth £4.6 miliwn sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau drwy Arsyllfa'r Dyfodol yn yr Amgueddfa Ddylunio ac sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caergrawnt mewn partneriaeth â Phrifysgolion Caerdydd, Wrecsam a Bangor [www.mapcyhoeddus.org].

Ynys Môn yw’r astudiaeth achos ar gyfer y prosiect. Yno, dros haf 2024, bu tîm y prosiect yn arbrofi gyda dulliau datblygu technegau ymgysylltu cynhwysol mewn pedair gŵyl mapio Lle Llais/Voice Place gyda phlant a phobl ifanc, gan ddenu tua 1200 o gyfranogwyr i bedwar safle gwahanol ar yr ynys hon sy’n un o Geobarciau trawiadol UNESCO. I bob safle, cludwyd y Caban Crwydro, sef fersiwn o ‘ystafell drefol’ gyda phum ‘gŵydd’ o wahanol feintiau, a ddyluniwyd gyda chymorth plant o’r ynys gan Invisible Studio a Pearce+, gan ffurfio canolbwynt i’n gweithgareddau. Wrth i’r gwyddiau deithio o amgylch yr ynys, roeddent yn magu mantell o storïau, gwrthrychau a lluniau o hoff lefydd.

Ffocws ‘taith drwy brofiad’ Lle Llais oedd annog cyfranogwyr i fynd ar daith drwy’r synhwyrau a chofnodi eu harsylwadau am eu hamgylchedd mewn mapiau digidol gyda chymorth ein tîm o fapwyr cymunedol, rhai ohonynt yn bobl ifanc eu hunain.

Nid ydym wedi dadansoddi’r data a gasglwyd o’r safleoedd eto, ond rydym eisoes wedi dysgu llawer iawn wrth fireinio dyluniad profiad Lle Llais yn y gwahanol safleoedd. Rydym wedi canfod y canlynol yng nghyd-destun Ynys Môn:

  • Llwyddir i ymgysylltu’n well gyda chriwiau o ysgolion na gydag ymwelwyr yn galw heibio. Mae plant yn canolbwyntio fwy pan fyddant yn yr ysgol ac maent yn cynnig syniadau a brwdfrydedd i'w gilydd.
  • Yr unig ffordd o gael pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc i ymgysylltu yw drwy’r awenau iddyn nhw, sef naill ai darparu adloniant sy’n procio’r meddwl, er enghraifft côr lleol, neu eu cyflogi fel hwyluswyr ar gyfer y gweithgaredd mapio. Prin yw’r cyfleoedd am brofiad gwaith (cyflogedig neu ddi-dâl) ar yr ynys, ac mae angen cyfleoedd ar bobl ifanc i fagu profiad bywyd a CVs.
  • Hanfodol oedd cynnwys ymarferwyr creadigol – beirdd – i ddenu cyfranogwyr i ymgysylltu ac i'w hannog i feddwl yn ddyfnach am eu lleoedd.
  • Rhaid treulio llawer o amser yn meddwl sut i gynnal gwaith ymgysylltu mewn modd cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys creu cynlluniau cynhwysiant i alluogi pobl sydd â gwahanol fathau o heriau i gynllunio eu hymweliad. Drwy greu rhywle cyfforddus, ar wahân i’r prif weithgareddau, gyda lliwiau deniadol, bagiau ffa a theganau ffidlan, roedd pawb yn gweld bod croeso iddynt yn y gofod.
  • Rhywbeth pleserus sy’n codi calon pawb yw ymgysylltu mewn mannau o harddwch naturiol.

Er nad ydym wedi dadansoddi ein data eto, rydym yn amau bod siaradwyr Cymraeg, pan fyddant yn gweithredu yn Gymraeg, yn dangos mwy o gysylltiad â’r amgylchedd na phan fyddant yn gweithredu yn Saesneg. Dyma rai o’r canfyddiadau diddorol sy’n deillio o’r prosiect.