Persbectif 95cm

Rydyn ni i gyd wedi bod yn 95cm o daldra ar un adeg, o gwmpas y teirblwydd oed. Ydych chi’n cofio sut oedd llefydd yn edrych o’r fan honno?

A ninnau’n 5 neu 6 troedfedd neu’n eistedd mewn sedd car, gall fod yn hawdd anghofio persbectif y plentyn. Felly, mae plant yn gweld ac yn profi pethau’n wahanol - llawenydd, perygl a hud llefydd.

Mae bod yn rhiant neu ofalwr i blentyn hefyd yn newid persbectif. Mae amser cerdded yn hirach pan fo rhaid cofio am y traed bach yn trio eu gorau i gydgerdded â chi, mae cael mynediad i gyfleusterau fel toiledau yn fwyfwy pwysig pan fo angen newid cewyn, neu ddysgu plentyn i ddefnyddio toiled, ac mae ‘aros ar y palmant’ yn dod yn rhan o eirfa naturiol, ond dim ond os oes palmant clir, a lle nad oes ceir arno. Mae crwydro a mwynhau’r ddinas yn newid yng nghwmni plant, ond mae gweld pethau o’u persbectif nhw yn cael ei anghofio’n aml wrth gynllunio a dylunio ein trefi a’n dinasoedd.

Felly mae Urban 95 Academy am i gynllunwyr dinasoedd feddwl o’r persbectif hwn.  Mae sefydliad y Bernard van Leer Foundation ac Ysgol Economeg a Gwleidyddiaeth Gwyddonol Llundain wedi datblygu ‘rhaglen arweinyddiaeth wedi’i chynllunio ar gyfer arweinwyr trefol ledled y byd i ddysgu a datblygu strategaethau i sicrhau fod dinasoedd yn fwy addas i fabanod, plant bach a’u gofalwyr’[1].  Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle arbennig i gynllunwyr dinasoedd i ddysgu o brofiadau rhyngwladol wrth iddynt ddyfeisio strategaethau ar gyfer eu dinasoedd eu hunain.  Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan yr Urban 95 Academy.

Fel yr amlygwyd gan Play Wales, mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae, hawl sydd wedi ei hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plentyn[2].  Mae Erthygl 31 y Confensiwn yn nodi:

Mae gan bob plentyn yr hawl i orffwys a hamdden, i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden sy’n briodol i oed y plentyn ac i gyfranogi’n ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.

Mae hyn yn cynnwys nid yn unig plant ifanc ond plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael ei diystyru wrth gynllunio ardaloedd, fel nad ydynt yn llefydd croesawgar a hygyrch iddynt.  Yn y cyd destun hwn y sefydlwyd yr elusen Make Space for Girls, i ‘ymgyrchu dros gynllunio parciau a mannau cyhoeddus ar gyfer merched a menywod ifanc, nid bechgyn a dynion ifanc yn unig’[3].  Canfu eu hymchwil nad oedd y ddarpariaeth o ran cynllunio gofod cyhoeddus yn dda o gwbl ar gyfer merched yn eu harddegau, yn wir, roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio’n weithredol gan y cynllun.   Maent yn tynnu sylw at yr angen i ddeall cyd-destun unrhyw ofod cyhoeddus ac i siarad â merched yn yr ardal i ddatblygu atebion creadigol, gan nad yw’r un cynllun yn addas i bawb. Mae eu gwefan, fodd bynnag, yn darparu rhai enghreifftiau o syniadau sydd wedi eu treialu mewn llefydd eraill.

Boed yn ddatblygiad newydd, strategaeth canol tref, neu fuddsoddiad mewn gofod cyhoeddus sy’n bodoli’n barod, mae diffyg meddwl weithiau am bersbectifau yr holl ystod o bobl fydd yn defnyddio’r ardaloedd hyn.  Dylai ymchwil, siarad gyda defnyddwyr posib fod yn rhan sylfaenol o’r dull o weithredu ar gyfer cynllunio i fuddsoddi mewn ardaloedd cyhoeddus, ynghyd â monitro a buddsoddi parhaus.

Wrth gynllunio llefydd gan ddefnyddio model damcaniaethol cyfartalog, gall hynny anwybyddu llawer o bobl sydd â llawer o anghenion. Ond mae pobl yn wahanol, ac o edrych ar y cynllunio a’r dylunio trwy lygaid plentyn, gellid creu lleoliadau sy’n fwy hygyrch ac sy’n decach i bawb.

Gan Jen Heal

 

Footnotes:
[1] https://www.urban95academy.org/home
[2] https://www.playwales.org.uk/eng/rightoplay
[3] http://makespaceforgirls.co.uk/