Newyddion Polisi Gorffennaf 2021
Diweddariadau CDLl
Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at gyfleoedd i ymgysylltu â diweddariadau CDLl.
Mae rôl cynllunio a chynllunwyr yn allweddol i ddarparu lleoedd cynaliadwy a bywiog i gymunedau. Mae cynllunio yn dod â chyfleoedd i ddefnyddio dulliau rhagweithiol ac arloesol o lunio lleoedd. Mae mewn sefyllfa unigryw i ddod â phobl ynghyd ac i feddwl yn strategol wrth lunio lleoedd i'r dyfodol. Mae'r system a arweinir gan gynllun yn offeryn hanfodol wrth gyflawni egwyddorion llunio lleoedd strategol; dylai Cynlluniau Datblygu Lleol nodi gweledigaeth feiddgar a chadarnhaol ar gyfer eu hardaloedd gan gydnabod cyfleoedd i wella eu cymunedau.
Mae nifer o Gynlluniau Datblygu Lleol yn y camau cynnar o gael eu hadolygu. Mae hyn yn gyfle pwysig i bawb sy'n ymwneud â'r system gynllunio fod yn rhan o’r agenda creu lleoedd, ac i lunio cynlluniau sy’n adlewyrchu eu cymunedau lleol ac yn gosod fframwaith ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Y ffordd orau o gyflawni hyn yw trwy ymgysylltu yn ystod camau cynnar paratoi'r cynllun gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys y bobl a'r sefydliadau hynny sydd wedi ymrwymo i gyflawni egwyddorion y Siarter Creu Lleoedd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod lleoedd o ansawdd uchel yn cael eu darparu ledled Cymru er budd eu cymunedau. Mae mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan mewn Cynlluniau Datblygu Lleol ar wefannau’r holl gynghorau sir. Mae cytundebau cyflwyno'r Cynllun Datblygu Lleol a chynlluniau cynnwys y gymuned yn nodi sut a phryd i gymryd rhan.