Hyrwyddo Creu Lleoedd ym Mhenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC)

Mae Victoria Robinson, Prif Arolygydd Cynllunio Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru

Rydym ni yn PCAC yn cydnabod rôl ein Harolygwyr Cynllunio wrth roi arweiniad i bawb sy’n ymwneud â’r broses gynllunio, trwy ein penderfyniadau a’n hargymhellion i Weinidogion Cymru. Rydym yn ystyried y cyfrifoldeb o ddifrif ac yn deall bod pobl eraill yn defnyddio ein sylwadau i lywio penderfyniadau yn y dyfodol. Felly, rydym yn llwyr ddeall pwysigrwydd cymhwyso polisi’n gywir o ran cynigion datblygu unigol a’r angen i ddehongli a chefnogi polisïau’n gyson, gan gynnwys y rhai hynny sy’n ymwneud â Chreu Lleoedd.

Mae Polisi Cynllunio Cymru a Chymru’r Dyfodol yn darparu sylfaen gref ar gyfer creu lleoedd trwy benderfyniadau yng Nghymru, ac atgyfnerthir y rhain yn aml gan bolisïau cynllun datblygu lleol, canllawiau cynllunio atodol a thystiolaeth arall ddefnyddiol fel arfarniadau safle ac asesiadau treftadaeth. Defnyddiwn ein gwybodaeth a’n harbenigedd ein hunain hefyd i asesu cynigion datblygu, sy’n aml yn gofyn am farn oddrychol. Felly, rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus yn PCAC i sicrhau bod ein Harolygwyr Cynllunio yn meddu ar y sgiliau a’r arbenigedd iawn i wneud penderfyniadau o ansawdd uchel ar ran Gweinidogion Cymru.

Yn ein Cyfarfod Grŵp Arolygwyr diweddar, canolbwyntiwyd yn fwriadol ar thema creu lleoedd ac archwiliwyd hyn mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, adolygwyd nifer o apeliadau cynllunio diweddar y bu creu lleoedd yn brif fater ynddynt. Mewn un achos, roedd Arolygydd wedi cefnogi penderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol i wrthod cynnig a oedd yn is-rannu safle datblygu’n artiffisial, gan arwain at fethiant i gyflawni dyluniad cydlynol ar gyfer y datblygiad tai arfaethedig. Mewn enghraifft arall, wrth wrthod yr apêl, beirniadodd yr Arolygydd Cynllunio ddatblygiad a fethodd ymateb yn briodol i’r cyd-destun lleol a chymeriad yr ardal gan ddefnyddio mathau amhriodol o dai safonol ar gyfer datblygiad mewnlenwi.

Ymunodd Jen Heal o Gomisiwn Dylunio Cymru â ni, a rhoddodd hi gyflwyniad ar egwyddorion creu lleoedd a lywiodd drafodaeth ar eu canllawiau dylunio diweddar ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy. Yn dilyn hynny, buom yn ffodus i gael taith dywysedig o Lannau Abertawe gan yr hyrwyddwr creu lleoedd, Stephen Smith o Gyngor Dinas a Sir Abertawe. Mae’r ardal honno wedi cael ei thrawsnewid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy gymysgedd o ddatblygiadau masnachol a phreswyl ochr yn ochr â defnyddiau cymunedol a hamdden. Yn olaf, fe wnaethom ymweld â datblygiad Pentref Trefol Stryd Fawr Abertawe lle mae Grŵp Tai Coastal wedi cyflawni datblygiad defnydd cymysg preswyl, lle swyddfa a manwerthu sydd wedi rhoi bywyd newydd i ardal yr effeithiwyd arni gan gyfraddau eiddo gwag uchel yng nghalon Canol Dinas Abertawe.

Atgyfnerthodd y diwrnod bwysigrwydd egwyddorion creu lleoedd a dylunio wrth wneud penderfyniadau a chafodd ei groesawu gan bawb a oedd yn gysylltiedig. Roedd yn ffordd dda o’n hatgoffa o’n rôl bwysig wrth gyflawni lleoedd o ansawdd uchel yng Nghymru yn ogystal ag atal y cynigion datblygu hynny sy’n tanseilio egwyddorion creu lleoedd.