Rhwydwaith i chi
Hatch yw’r rhwydwaith ar gyfer pobl sydd â meddwl ffres er mwyn siapio’r amgylchedd adeiledig yng Nghymru.
Mae Hatch wedi cael ei sefydlu a’i gefnogi gan Gomisiwn Dylunio Cymru, ac mae’n fforwm i bobl o bob un o'r disgyblaethau dylunio i rannu syniadau a gwybodaeth, i ddathlu dylunio da yng Nghymru, ac i gysylltu â'r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr yng Nghymru.
Nod Hatch ydy…
- Bod yn llais ar gyfer dylunio da, a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei glywed gan y bobl iawn
- Codi ymwybyddiaeth o werth dylunio a chynllunio da a chydgysylltiedig, a’r gwahaniaeth y gall ei wneud i unigolion a chymunedau
- Dysgu a gwella ein sgiliau i fod yn ddylunwyr gwell, gan ein galluogi i godi safon dylunio yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru, a gwneud lleoedd gwell sy’n fwy cynaliadwy
- Mynd i’r afael â’r heriau a’r risgiau sy’n wynebu dylunwyr talentog yng Nghymru gyda’i gilydd, a phontio’r bwlch rhwng disgyblaethau amgylchedd adeiledig
- Dangos gwerth prosesau ac atebion dylunio arloesol
- Codi dyheadau dylunio yng Nghymru
- Cael hwyl yn y broses!
Lawrlwythwch y Daflen Hatch i ledaenu’r gair, a rhowch wybod i ni am eich syniadau ffres ar gyfer gweithgareddau, digwyddiadau neu ymweliadau.