Goldsmith Street – Sut mae Cyngor Dinas Norwich wedi adfer ansawdd da mewn tai cymdeithasol

Public Practice

Sut byddai hi os oedd tai cymdeithasol yn ymwneud â mwy na rhifau’n unig, ac yn golygu urddas, cynaliadwyedd ac ymdeimlad o berthyn i gymuned? Mae Goldsmith Street yn ninas Norwich yn dangos bod hyn yn bosibl.

Yn gynharach eleni, cafwyd astudiaeth achos ysbrydoledig gan Clare Goff yn y cylchgrawn Public Notice am yr uchelgais sydd gan Norwich i adfer ansawdd da mewn tai cymdeithasol. Mae dyfyniadau isod o’r erthygl wreiddiol sydd ar gael i’w darllen yn llawn ar-lein: https://www.publicpractice.org.uk/magazine-article/east-anglian-dreams

Mae datblygiad Goldsmith Street yn cynnwys 93 o dai Passivhaus wedi’u rhannu’n saith bloc[1] mewn rhesi syml sydd wedi’u hysbrydoli gan dai teras traddodiadol. Gyda’r datblygiad hwn, roedd Cyngor Dinas Norwich wedi gweithredu’n fentrus drwy ddarparu cynllun a oedd yn cynnwys tai cymdeithasol yn unig, a hwn oedd y prosiect tai cymdeithasol cyntaf i ennill gwobr Stirling RIBA yn 2019.

Wrth fynd ati i ddatblygu Goldsmith Street, roedd Cyngor Dinas Norwich wedi gweithredu mewn ffordd newydd a mentrus; roedd y briff dylunio yn galw am gynigion ar gyfer cynllun a oedd yn cyfuno ansawdd da, cynaliadwyedd ac ymdeimlad o berthyn i gymuned, yn ogystal â dwysedd datblygu uchel. Eglurodd Clare fod Mikhail Riches, y practis pensaernïol a benodwyd, wedi canolbwyntio yn ei ddyluniad ar ddarparu “cynllun tai dwysedd uchel a oedd yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cynaliadwyedd, yn lleihau’r defnydd o geir ac yn cynyddu integreiddio cymunedol a chyfleoedd chwarae i blant. Roedd y cyngor hefyd yn awyddus i ragori ar dargedau cynaliadwyedd, nid yn unig am resymau ecolegol ond hefyd i ymateb i bryderon ariannol difrifol ei denantiaid tai oherwydd, ar y pryd, roedd 13%[2] o aelwydydd y ddinas yn profi tlodi tanwydd[3].

Eglurodd Clare fod y canlyniadau o werthusiad diweddar o gynllun Passivhaus lleol wedi gwneud argraff ar Andrew Turnball, rheolwr strategaeth ddatblygu Cyngor Dinas Norwich, a’r rheolwr prosiect ar gyfer y safle hwn. “Er bod y costau am ymgorffori egwyddorion Passivhaus gymaint â 10% yn fwy nag ar gyfer safonau adeiladu traddodiadol, roedd yr effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol a gafwyd o ganlyniad yn golygu bod modd arbed ar gostau’n ddiweddarach. O ganlyniad i’r penderfyniadau hyn, byddai preswylwyr y dyfodol ar Goldsmith Street yn arbed o leiaf 70%[4] ar eu costau tanwydd[5].”

Agwedd allweddol ar y datblygiad hwn oedd cynnwys mannau ar gyfer chwarae, bywyd cymunedol a gwydnwch. Mae’r angen am le a rhyddid i chwarae yn cael ei deimlo’n ddwys yn Norwich, lle mae un rhan o dair o’r plant bellach yn byw mewn tlodi. Roedd mannau cydgysylltiedig wedi’u plethu drwy’r dyluniad: “mae’r rhodfeydd sy’n rhedeg y tu ôl i’r tai teras yng Nghynllun Goldsmith Street - a nifer isel y ceir - wedi creu mannau naturiol ar gyfer chwarae a bywyd cymunedol[6]”.

Fel y dywedodd Clare, “Mae Goldsmith Street yn adfywio traddodiad cadarn y ddinas o ran darparu tai cyngor. Mae’n dangos bod modd adeiladu tai o ansawdd da o fewn y gyllideb ac, os bydd y cyngor yn eu stiwardio’n dda, y byddant yn gallu sicrhau canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. Yn bwysicaf oll, mae’r cyngor wedi adfer ansawdd da mewn tai cymdeithasol. Fel y dywedodd un o’r preswylwyr: “roedd rhywun yn meddwl ei bod yn bwysig fy mod i’n hoffi fy nghartref. Mae hynny’n cyfri llawer i mi[7].”

Drwy arweinyddiaeth uchelgeisiol, briff cynllunio rhagweithiol a gwrthod cyfaddawdu ar ansawdd, mae’r cyngor wedi herio rhagdybiaethau o ran beth mae tai cymdeithasol yn gallu bod a beth ddylent fod. Mae Goldsmith Street yn dangos bod newid o ran creu lleoedd yn dechrau oddi mewn—a bod y gallu gan lywodraeth leol i arwain drwy osod esiampl.

Llun: Nikolas Dost

[1] Goldsmith Street, Passivhaus Trust, 2019

[2] ‘ECO Flexible Eligibility - Statement of Intent’, Cyngor Dinas Norwich, Hydref 2019

[3] ‘East Anglian Dreams’ gan Clare Goff, Public Notice, 2025

[4]  ‘I’ve seen the future and it’s Norwich: the energy saving, social housing revolution’, The Guardian, Gorffennaf 2019

[5]  ‘East Anglian Dreams’ gan Clare Goff, Public Notice, 2025

[6] ‘East Anglian Dreams’ gan Clare Goff, Public Notice, 2025

[7] ‘East Anglian Dreams’ gan Clare Goff, Public Notice, 2025