Ffyrdd o Weithio yn Sir y Fflint

Tua’r un pryd â lansio Cynlluniau Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru, cynhaliodd Rheolwr Adfywio Cyngor Sir y Fflint adolygiad o drefn lywodraethu bresennol a chyflawni prosiectau creu lleoedd yn y Cyngor. Yna cyflwynwyd cynnig i uwch arweinwyr i greu Grŵp Lleoedd newydd, sydd bellach yn cyfarfod bob chwarter i hwyluso sgyrsiau strategol ymysg uwch arweinwyr sy’n dylanwadu ar leoedd. Mae’r timau sy’n cymryd rhan yn cynnwys Adfywio, y Gwasanaethau Stryd, Cynllunio, Busnes a Sgiliau a Thrafnidiaeth.

Gan fod hyn yn newid y ffordd yr oedd pethau’n arfer cael eu gwneud, roedd cyfnod o addasu. Fodd bynnag, roedd newid graddol mewn barn wrth i fanteision ffordd fwy cydweithredol o weithio ddod i’r amlwg. Dechreuodd y tîm gydlynu ceisiadau am gyllid a datblygu dulliau o gyflwyno ar y cyd a oedd yn sicrhau gwell gwerth am arian drwy gysylltu adnoddau ariannol a chreu gweithgorau bach ar draws timau ar wahanol brosiectau.

Cafodd Cynlluniau Gweithredu Bach eu creu gan y Grŵp Lleoedd mewn tair tref allweddol – Bwcle, Treffynnon a Shotton – i nodi gweithgareddau allweddol a lle gellid cysylltu’r rhain yn well ar draws timau. Roedd y broses hon hefyd yn cynnwys nodi seilos allanol a oedd yn bodoli, gan fod datgloi’r rhain yn angenrheidiol i sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol.

Mae’r Grŵp Lleoedd yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Pobl, sy’n cynnwys rhanddeiliaid allanol perthnasol fel yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd, Clinigol, Pobl Hŷn, Plant a Phobl Ifanc, y Ffederasiwn Busnesau Bach a’r Grŵp Amrywiaeth. Mae’r cydweithio hwn ar draws y Grwpiau Pobl a Lleoedd yn cysylltu gwasanaethau’r cyngor ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau.

Ffyrdd o Weithio Cyngor Sir y Fflint

Datblygwyd y rhan fwyaf o waith y Cynllun Gweithredu yn fewnol, wedi’i gefnogi gan arbenigedd allanol ar ddylunio trefol a thynnu’r dogfennau at ei gilydd i ffurfio Cynlluniau Creu Lleoedd. Roedd hyn yn sicrhau bod syniadau wedi cael eu profi gyda’r gymuned drwy ymgysylltu dan arweiniad timau o swyddogion a oedd yn adnabod yr ardaloedd yn dda. Roedd y gwaith ymgysylltu’n cynnwys adborth digidol drwy gyfryngau cymdeithasol wedi’i dargedu sy’n gysylltiedig â’r llwyfan Give My View. Datblygwyd brand Creu Lleoedd Sir y Fflint sy’n fwriadol yn ddisglair, yn lliwgar ac yn ddifyr, er mwyn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i’r holl waith creu lleoedd sy’n digwydd ar draws y Sir ac i ennyn diddordeb.

Logo a hunaniaeth brand Creu Lleoedd Sir y Fflint, sy’n cael eu defnyddio i greu ymdeimlad cofiadwy o’r holl waith a chynlluniau sy’n cael eu gwneud gan y tîm ac i ennyn diddordeb y cyhoedd yn y prosiectau.

Mae’r Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi cyfleoedd sy’n seiliedig ar adborth gan y cyhoedd, ystadegau cymunedol ac asesiadau o’r lleoedd, gan gynnwys gwerthusiadau seilwaith masnachol, economaidd, cymdeithasol a gwyrdd. Bwriad y cynlluniau yw darparu fframwaith cyfleoedd, yn hytrach na phrosiectau penodol, sy’n cael eu trafod gan y grŵp cyflawni lleol bob blwyddyn i bennu’r camau gweithredu a’r rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Effaith

Mae effeithlonrwydd mewn dulliau cydweithredol o gyflawni prosiectau yn dod yn amlwg drwy geisiadau llwyddiannus am gyllid, mwy o werth am arian a dulliau cyfannol o nodi a chyflawni prosiectau.

Bwriad y dull ‘fframwaith cyfleoedd’ ar gyfer Cynlluniau Creu Lleoedd yw caniatáu i’r cynllun fod yn hyblyg ac yn ddeinamig i addasu i newidiadau lleol a chyfleoedd cyllido neu fuddsoddi. Mae’r Cyngor Sir yn dechrau gweld y buddsoddiadau strategol cyntaf yn Shotton, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â themâu’r cynllun creu lleoedd a nodwyd.