Ein Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau

Mae’r Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau sydd gan Gomisiwn Dylunio Cymru yn caniatáu i’ch cynlluniau a chynigion datblygu gael eu hystyried gan ein panel annibynnol o arbenigwyr; gorau po gyntaf.

Mae ymgynghori’n gynnar yn cael ei argymell gan y Comisiwn Dylunio, a hynny mewn polisïau cynllunio cenedlaethol ac mewn canllawiau ymarfer cysylltiedig, yn enwedig gan fod ein sylwadau yn cynrychioli ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Mae ein sylwadau yn cael eu cydnabod fel rhai awdurdodol gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru a Lloegr, a gellir defnyddio ein hadroddiadau mewn ymholiadau cyhoeddus ac apeliadau cynllunio.

Mae ein gwasanaeth unigryw ar gael i gleientiaid, datblygwyr, dylunwyr, awdurdodau cynllunio, rhanddeiliaid a chyrff cyhoeddus eraill, grwpiau cymunedol neu aelodau o'r cyhoedd sydd eisiau barn arbenigol annibynnol. Gallwn helpu i adnabod cyfleoedd cynnar i sicrhau ansawdd dylunio da mewn cynigion datblygu yn y system gynllunio, a helpu awdurdodau lleol i sicrhau gwerth cyhoeddus trwy ragoriaeth dylunio.

Gallwn helpu gyda phrosiectau bach yn ogystal â rhai mwy yn y tymor byr neu’r tymor hir. Gallwn eich helpu i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i lywio a llunio amcanion eich prosiect. Mae gennym arbenigwyr ym maes seilwaith ynni a thrafnidiaeth, ac ym meysydd dylunio trefol, cynllunio a phensaernïaeth. Yn aml, gallwn weithio’n strategol gyda chi dros y tymor hir i ymateb i anghenion penodol eich cais.

Gallwch lawrlwytho ein canllaw i’r Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau yma a’n Hanfodion Adolygu Dyluniadau yma, gallwch ein ffonio ni ar 029 2045 1964 neu gallwch anfon neges e-bost i connect@dcfw.org i ddarganfod mwy.