Mae dylunio da yn gwneud popeth yn well

Yng Nghomisiwn Dylunio Cymru, gallwn weithio gyda chi i gefnogi gwaith dylunio da i greu lleoedd da – er mwyn helpu i wneud Cymru’n lle gwell.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau – cyfle unigryw i ymgynghori’n gynnar ar gynlluniau a phrosiectau ledled Cymru, yn ogystal â chael mewnbwn arbenigol cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio.
  • Hyfforddiant – hyfforddiant pwrpasol ar gyfer awdurdodau lleol, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr, yn ogystal â hyfforddiant ac achrediad ar gyfer Adeiladu am Oes 12 Cymru.
  • Cymorth i gleientiaid – darparu cymorth ac arweiniad yn ystod y camau cynnar o osod amcanion, datblygu’r brîff, a chael y tîm dylunio cywir.
  • Digwyddiadau, cyhoeddiadau a rhwydweithiau sy’n codi ymwybyddiaeth, ysgogi trafodaethau ehangach a chyfathrebu manteision dylunio da. Mae ein rhwydwaith HATCH yn gweithredu fel llwyfan ar gyfer talent dylunio newydd a llunwyr yr amgylchedd adeiledig sydd â syniadau ffres.

Ffoniwch ni heddiw ar 029 2045 1964 neu anfonwch neges e-bost i connect@dcfw.org i ddarganfod sut allwn ni eich helpu chi i’n helpu ni i wneud Cymru yn lle gwell.