Dim mwy na llinell sialc? Creu Lleoedd ac aildrefnu’r hierarchaeth drafnidiaeth.
Patrick Williams, Sustrans.
Mae Llwybr Newydd (2021) yn amlinellu gweledigaeth lle mae pobl yn teithio’n fwy cynaliadwy yng Nghymru ac mae newid moddol i annog lefelau uwch o gerdded a beicio wrth galon y ddogfen. Mae hwn yn ymrwymiad sylweddol a fydd yn gofyn am newid y ffordd rydym yn datblygu cynigion trafnidiaeth ac, yn fwy cyffredinol, sut rydym yn ystyried ein strydoedd yn gyffredinol.
Mae ffigurau diogelwch ar y ffordd yn rhoi darlun o annhegwch, gyda rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel pobl ifanc, dan anfantais sylweddol. Yn 2015, roedd 40% o’r damweiniau’n ymwneud â phlant wedi digwydd yn ystod eu taith i’r ysgol. O ganlyniad, ein hymateb i hyn yw amddiffyn ein plant drwy eu cludo yn ôl ac ymlaen mewn ceir a thrwy hynny atgyfnerthu goruchafiaeth cerbydau modur ar ein strydoedd. Felly ers sawl blwyddyn bellach, mae Sustrans wedi gweithio yng nghyd-destun ysgolion gan archwilio dulliau o gynnwys cymunedau a cheisio mynd i’r afael â rhai o’r annhegwch hwn.
Ym mis Medi 2019, yn dilyn proses o gyd-ddylunio gyda myfyrwyr, rhieni a thrigolion lleol yn Ysgol Gynradd R C St Davis yng Nghasnewydd, treialodd Sustrans nifer o ymyriadau gan ddefnyddio potiau mawr lliwgar wedi’u llenwi â dŵr a sialc. Nodwyd mewn gweithdai gyda’r ysgol a thrigolion lleol fod tagfeydd yn y bore a’r prynhawn yng nghyffiniau’r ysgol wedi arwain at nifer o broblemau penodol, gan gynnwys; rhieni a phlant yn cael eu gorfodi ar balmentydd cul a diffyg croesfannau.
Fel rhan o’r broses ddatblygu, defnyddiwyd camerâu Deallusrwydd Artiffisial (AI) i gofnodi ymddygiadau ar y stryd, gan gynnwys cyflymder a swmp y traffig, sut roedd pobl yn croesi’r ffordd, llwybrau llygad a rhyngweithiadau (ee faint oedd yn ildio) ar y ffordd o flaen yr ysgol.
Un prynhawn roedd y stryd y tu allan i’r ysgol ar gau i gerbydau a gyda chymorth yr ysgol a’r trigolion lleol, llwyddwyd i ail-feddiannu rhannau o’r gerbytffordd o amgylch yr ysgol drwy osod potiau planhigion wedi’u llenwi â dŵr a chrëwyd croesfan newydd gan ddefnyddio marciau sialc. Ail-agorwyd y ffordd ond gadawyd yr ymyriadau yn eu lle am sawl diwrnod. Defnyddiwyd camerâu AI i gofnodi’r newidiadau mewn ymddygiad.
Cafwyd rhai canfyddiadau diddorol. Roedd nifer y ceir a oedd wedi arafu neu stopio (ildio) i alluogi rhieni a phlant i groesi wrth y groesfan newydd a farciwyd â sialc wedi cynyddu 63% yn ystod y diwrnodau a fonitrwyd. Ond yr hyn a oedd fwyaf trawiadol oedd y newid yn y cyflymderau traffig yn dilyn y treial, gyda’r cyflymderau’n gostwng tua thraean o’r hyn a welwyd cyn gosod yr ymyriadau.
Efallai na fyddai canlyniadau’r treial hwn yn dal dŵr o’u craffu’n fanwl, er enghraifft, a fyddai’r ymddygiad yn newid yn ôl dros amser? Fodd bynnag, mae dangos bod defnyddio deunyddiau fel sialc i ‘greu’ ymdeimlad o le a newid ymddygiad yn haeddu rhywfaint o sylw.
Erbyn hyn, mae Sustrans wedi cynnal nifer o brosiectau ymchwil sy’n ystyried ac yn mesur effaith ymyriadau ysgafn ac ymyriadau Trefol Tactegol tebyg. Mae canfyddiadau’r prosiectau hyn wedi dangos nifer o ganlyniadau, gan gynnwys effaith cerbydau ac ymddygiad cerddwyr er mwyn grymuso mwy o bobl ar ein strydoedd. Felly’r cwestiwn yw, ‘i ba raddau y gall darn o sialc newid ein tiroedd cyhoeddus er gwell’?