Darparu Aneddiadau Defnydd Cymysg
Ben Bolgar, Uwch Gyfarwyddwr Sefydliad y Tywysog
Ers dros ddeng mlynedd ar hugain, mae Sefydliad y Tywysog yn hyrwyddo’r gwaith o ddarparu mannau â defnydd cymysg, incwm cymysg, sy’n hardd ac yn annog pobl i gerdded yn hytrach na stadau tai unffurf lle mae pobl yn dibynnu ar geir. Ond, yn yr holl gyfnod hwnnw, yr unig leoedd newydd gwirioneddol amrywiol a chymysg yn y DU yw Poundbury yn Dorchester ac, yn dynn ar ei sodlau, ei chwaer fawr Nansledan yng Nghernyw.
Bydd Poundbury wedi cael ei chwblhau ymhen pum mlynedd ac mae ganddi dros 1,800 o gartrefi eisoes, ynghŷd â 2,300 o swyddi mewn 310 o fusnesau ar y safle, gyda 50% o’r rheiny’n fusnesau newydd a’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu rhedeg gan fenywod. Mae’r busnesau a’r swyddi hynny’n gwneud llawer o bethau cadarnhaol: maen nhw’n rhoi cyfleoedd gwaith yn agos i gartrefi, yn ei gwneud yn bosibl cerdded i gael gafael ar y pethau rydych chi eu hangen bob dydd, yn lleihau teithiau mewn ceir, yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned, ac yn ei gwneud yn gymuned fywiog a gwerthfawr.
Poundbury, Dorchester
Dim ond ychydig gannoedd o dai sydd wedi cael eu codi yn Nansledan hyd yma, ac mae stryd fawr fywiog yn dechrau amlygu ei hun yn barod. Mae’r stryd fawr lewyrchus wedi cyfrannu at godi gwerth tai i’r entrychion, sy’n golygu y gallai ddioddef yn sgil ei llwyddiant ei hun.
Nansledan, Cernyw
Felly, pam nad yw pob tirfeddiannwr a datblygwr yn gwneud hyn? Yr ateb syml yw bod y rhan fwyaf o leoedd newydd yn y DU yn cael eu hadeiladu gan adeiladwyr tai ar raddfa fawr, ac mae’r rheiny’n gwneud yr hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl iddyn nhw wneud – adeiladu tai. Os gofynnwch iddyn nhw adeiladu rhywbeth ar wahân i dai, fe fyddan nhw’n barod i glustnodi darn o dir ar gyfer ysgol, archfarchnad, a chanolfan iechyd os ydych chi’n lwcus. Ond, dydy eu model ddim yn gweld gwerth mewn defnyddiau amhreswyl, felly dydyn nhw ddim yn gwneud hynny. Edrychwch ar Sherford yn Plymouth, a gynlluniwyd gan Sefydliad y Tywysog ar gyfer 7,000 o gartrefi ar hyd llinellau tebyg i Nansledan, ond sydd bellach yn cael ei arwain gan gonsortiwm o adeiladwyr tai ar raddfa fawr. Gyda bron i fil o dai wedi’u hadeiladu, yr unig fusnes ar y safle yw siop goffi mewn caban a sefydlwyd gan y trigolion, ac sy’n eiddo iddyn nhw.
Y model busnes sy’n sbarduno’r ymddygiad o’r math hwn. Fel arfer, bydd datblygwr yn cysylltu â pherchennog tir neu bydd y tirfeddiannwr yn penodi asiant i werthu rhywfaint o’i dir, a bydd yr asiant hwnnw’n cael ei gymell drwy gymryd canran o’r pris uchaf y mae’n gallu ei gael. Mae cael gafael ar dir yn rhywbeth mor gystadleuol fel y bydd y rhan fwyaf o adeiladwyr tai yn gordalu oherwydd y gallan nhw - yn y pen draw wasgu mwy o dai ar y safle, gostwng safon y tai, a pheidio â chadw at ymrwymiadau o ran tai fforddiadwy, defnydd cymysg, a seilwaith cymunedol.
Fel arall, ni fydd tirfeddiannwr sy’n defnyddio dull stiwardiaeth yn gwerthu ei dir yn llwyr. Yn hytrach, bydd yn cyflogi consortiwm o adeiladwyr bach a chanolig i adeiladu’r safle mewn partneriaeth, gan adeiladu seilwaith cymunedol wrth iddynt fynd yn eu blaen. Ar gyfer yr unedau llai, sy’n is na’r cyfraddau busnes ac felly’n fwy fforddiadwy, efallai y bydd yr adeiladwr yn eu cadw ar gyfer eu potiau pensiwn gan ddisgwyl gwneud elw iach ar eu buddsoddiad o safbwynt incwm a hefyd fel ased sy’n cronni gwerth dros amser. Mae’r mannau hyn yn denu entrepreneuriaid a gwneuthurwyr lleol sy’n teimlo’n angerddol am yr hyn maen nhw’n caru ei wneud ac yn gallu fforddio ei wneud, gan greu lle diddorol ac amrywiol. Mae’r busnesau lleol hyn yn ychwanegu gwerth at y tai, gan fod pobl eisiau byw yno. Dyna pam y mae Poundbury yn cyfrannu Gwerth Ychwanegol Gros o £100 miliwn y flwyddyn, a gallai Nansledan werthu dwywaith yn fwy o dai nag mae’n nhw’n eu hadeiladu.
Mae angen i fwy o dirfeddianwyr ddilyn y model stiwardiaeth ac mae angen i gynllunwyr a chynghorwyr ofyn am ffordd well o adeiladu