Canllaw Creu Lleoedd Cymru
Mae creu lleoedd yn derm sydd yn cael ei ddefnyddio'n eang ac sydd ag ystyron gwahanol mewn gwahanol gyd-destunau. Mae'r ddogfen ganllaw hon yn adeiladu ar Siarter Creu Lleoedd Cymru, ac yn nodi'n fwy manwl beth mae creu lleoedd yn ei olygu, fel bod gan bawb sy'n ymwneud â llunio'r amgylchedd adeiledig yng Nghymru ddealltwriaeth glir. Mae'n cwmpasu, ar lefel uchel, agweddau allweddol ar greu lleoedd y dylid eu hystyried, ac yn cyfeirio at ffynonellau darllen pellach sy'n rhoi mwy o fanylion am bob un o'r agweddau.
Dogfen Gymraeg i ddod cyn bo hir
Canllawiau ar Greu Lleoedd ar gyfer Canol Trefi
Mae’r ddogfen ganllaw hon yn ategu Canllaw Creu Lleoedd Cymru ac yn canolbwyntio ar Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi. Mae’n dweud beth mae Cynllun Creu Lleoedd yn ei olygu (a beth nad yw’n ei olygu), yn rhoi arweiniad ar y broses o baratoi’r cynllun, ac yn nodi beth y dylid ei gynnwys yn y ddogfen. Bwriad y canllaw yw cefnogi’r rhai sy’n comisiynu ac yn ymgymryd â Chynlluniau Creu Lleoedd, ond bydd hefyd yn helpu cymunedau i ddeall beth yw eu pwrpas.
placemaking_TownPlan_CYMRAEG_v1
Astudiaethau Achos
Rydym wedi casglu detholiad o astudiaethau achos ynghyd, sy’n defnyddio enghreifftiau ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt. Mae’r detholiad hwn yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau, galluogi pobl i weithredu’n lleol, a gwreiddio ffyrdd o weithio ar gyfer creu lleoedd. Gobeithio y byddant yn eich ysbrydoli ac efallai’n sbarduno syniadau neu ffyrdd newydd o wneud pethau.
Astudiaethau-Achos-Creu-Lleoedd-Canol-Trefi
Canllawiau ar Ddadansoddi Safle a Chyd-destun: Cipio gwerth safle
Mae dadansoddi safle yn rhan hanfodol o'r broses gynllunio a dylunio. Does dim datblygiad yn digwydd ar ei ben ei hun - bydd amodau'r safle yn dylanwadu arno, a bydd yn cael effaith ar ei gyd-destun. Mae dadansoddiad da o safleoedd a chyd-destun yn ffurfio sylfaen dylunio da. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i'r rheiny sy'n comisiynu, yn ymgymryd â chynigion datblygu ac yn eu hadolygu, ac mae'n berthnasol i ddatblygiadau o bob math a graddfa. Mae'n argymell dadansoddiad trylwyr a chymesur o safle a'i gyd-destun fel rhan annatod o'r broses ddylunio. Gellir defnyddio casgliadau'r dadansoddiad i lywio fframwaith dylunio a fydd, o'i gyfuno ag egwyddorion dylunio trefol ac egwyddorion pensaernïol allweddol, yn sefydlu paramedrau ar gyfer datblygu. Dylai'r canlyniad fod yn ddull sy'n manteisio i'r eithaf ar botensial y safle, ac sy'n cael ei gyflwyno'n glir mewn cais cynllunio.