Creu Lleoedd fel Ffordd o Weithio

Jen Heal, Dirprwy Brif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru

Mae’r chwe rhifyn diwethaf o Gylchlythyr Creu Lleoedd Cymru wedi rhoi sylw i bob un o chwe egwyddor Siarter Creu Lleoedd Cymru yn ei dro, ac wedi cynnwys erthyglau gan amrywiaeth o gyfranwyr yn ymdrin â dylunio strydoedd, defnyddiau dros dro, cynllunio strategol a mwy. Ond, mae’n bwysig sicrhau nad ydyn ni’n mynd i’r arfer o wahanu gwahanol agweddau ar greu lleoedd yn ormodol neu mae risg o ddychwelyd i’r hen ffordd o wneud pethau. Mae’r ffordd newydd o wneud pethau – y dull creu lleoedd – yn ymwneud â meddwl cydgysylltiedig, mynd i’r afael â’r lle cyn y ddisgyblaetha chwalu seilos. Mae’r ffordd o wneud pethau yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, na’r canlyniad ffisegol ar y diwedd.  Dyma’r thema rydyn ni’n rhoi sylw iddi yn y rhifyn hwn, gan edrych ar sut mae pobl yn newid eu ffordd o weithio i integreiddio creu lleoedd fel proses, neu syniadau ynghylch sut mae angen rhagor o newid i fynd i’r afael â gwendidau presennol.

Lansiwyd Siarter Creu Lleoedd Cymru bron i bedair blynedd yn ôl ac, gyda dros 150 o lofnodwyr ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, mae ei egwyddorion wedi dod yn rhan fwy annatod o ymarfer bob dydd i lawer o sefydliadau.  Fodd bynnag, mae llawer o gynnydd i’w wneud o hyd i wreiddio creu lleoedd fel ffordd o weithio ar draws pob sefydliad, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, datblygwyr ac ymarferwyr.

Yn benodol, mae angen i’r cysyniadau creu lleoedd canlynol gael eu gwreiddio’n fwy fel rhan o ymarfer bob dydd:

  • Cyfranogiad y cyhoedd fel sylfaen i’r broses creu lleoedd – dyma lle mae gwir lwyddiant y broses o ran buddsoddi yn y newidiadau ffisegol cywir i le ond hefyd i fanteisio i’r eithaf ar y manteision o ymgysylltu a chynnwys gweithredol gan bobl leol.
  • Chwalu’r ffordd seilos o weithio yn ôl disgyblaeth, a chanolbwyntio ar heriau penodol mewn mannau penodol yn lle hynny.
  • Caniatáu amser ac adnoddau ar gyfer profi syniadau. Mae hyn yn helpu i archwilio gwahanol opsiynau yn ogystal ag adeiladu cefnogaeth cyn gwneud ymyriadau mwy costus a pharhaol.
  • Datblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer lle y gall yr holl randdeiliaid gydweithio arno.

Enghraifft o sut beth fyddai newid i ddull creu lleoedd fyddai mynd i’r afael â “problem” mewn cymdogaeth.  Un dull gweithredu ar gyfer gofod o’r fath fyddai’r canlynol:

Yn y senario hwn, mae ymgysylltu â’r gymuned yn y broses wedi’i gyfyngu i roi sylwadau ar gynlluniau a ddatblygwyd gan bobl sydd â gwybodaeth gyfyngedig am y gymdogaeth a sut mae’n gweithio. Mae’n tybio y bydd pobl yn ddiolchgar am fuddsoddiad cyfalaf sylweddol yn y gofod ac yn rhagweld sut y bydd pobl yn ei ddefnyddio ar ôl ei adeiladu. Os oes gwrthwynebiad yn ystod y cam ymgynghori, mae’r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y dyluniad hyd yma yn aml yn golygu bod amharodrwydd i wneud newidiadau sylweddol, felly mae’r ymgynghoriad yn ymwneud ag amddiffyn y dyluniad yn hytrach nag ymateb i sylwadau.

Un ffordd o liniaru cyfyngiadau’r dull hwn fyddai cyflwyno cam cynharach o’r ymgynghoriad i geisio canfod beth yw barn pobl am y gofod nawr a sut gellid ei wella. Yn aml, gall ymgynghoriadau o’r fath fod yn gyfyngedig o ran nifer ac amrywiaeth y bobl y maent yn eu denu, ac mae’r rhai sy’n arwain y prosiect yn gyndyn o gynnig ‘rhestr aros’ i’r gymuned na fyddan nhw’n gallu ei chyflawni.

Neu, gallai dull creu lleoedd edrych yn debycach i hyn:

Y man cychwyn yw nodi pwy sydd â diddordeb yn y lleoliad a gweithio gyda nhw i ddeall y lle – beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, beth yw anghenion pobl, a oes unrhyw gyfleoedd cudd fel mudiad neu fusnes sydd eisiau gwneud rhywbeth mewn gofod. Mae cyfnod wedyn ar gyfer profi syniadau lle defnyddir ymyriadau rhatach dros dro i weld beth sy’n gweithio yn y gofod, i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn ei ddyfodol ac i ddechrau newid canfyddiadau pobl ohono.  Ar ôl gwneud y gwaith paratoi hwn, bydd dealltwriaeth well o lawer o ba arbenigedd dylunio sydd ei angen i gefnogi’r prosiect. Yn olaf, mae’r gofod yn cael ei greu gyda mewnbwn gan y gymuned ac mae eu cyfraniad yn parhau yn ystod y gwaith o raglennu a rheoli’r gofod.

Perllan dros dro gan Amanda Spence Architects a Analog Architecture

Gyda’r dull creu lleoedd, mae pobl leol yn rhan o’r broses o’r dechrau ac yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o’r broses honno. Mae manteision hyn yn cynnwys:

  • Y prosiect yn mynd i’r afael ag anghenion gwirioneddol y gymuned yn hytrach na phroblemau tybiedig.
  • Y broses gyfan yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ymysg y gymuned sydd â manteision ar gyfer gofalu am y gofod yn y tymor hir.
  • Pobl yn gwneud cysylltiadau newydd yn eu cymdogaeth a all helpu i greu mwy o ymdeimlad o berthyn a mynd i’r afael ag unigrwydd.
  • Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â nifer o faterion ac felly mae ganddo nifer o fanteision i’r bobl yn y gymuned yn hytrach nag agwedd ynysig sy’n mynd i’r afael ag un mater yn unig.

Yn sicr, mae heriau i sefydlu’r ffordd hon o weithio. Mae lleoedd yn gymhleth ac rydyn ni wedi dod i arfer â rheoli’r cymhlethdod hwn drwy rannu lleoedd yn gydrannau a mynd i’r afael â nhw ar wahân – pethau fel iechyd, datblygu economaidd, cynllunio, cynaliadwyedd, trafnidiaeth, addysg, y celfyddydau a diwylliant. Byddai angen i ddull creu lleoedd gyflwyno mwy o gymhlethdod drwy fynd i’r afael â’r lle yn gyntaf yn hytrach na’r ddisgyblaeth. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i wahanol bobl weithio gyda’i gilydd a newid yn y ffordd y mae cyllid yn gweithio i sicrhau bod unrhyw gystadleuaeth am gyllid rhwng disgyblaethau yn cael ei dileu. Dyma rai materion eraill i fynd i’r afael â nhw neu i’w goresgyn:

  • Mae natur profi ac ailadroddol y dull creu lleoedd hefyd yn gofyn am ffordd wahanol o feddwl am risg. Weithiau, efallai na fydd pethau sy’n cael eu treialu a’u profi yn llwyddo. Nid methiant yw hyn, ond rhan o’r broses o sefydlu beth sydd ei angen a beth allai’r ateb fod.
  • Bydd cyfranogiad cynharach a helaethach o lawer gan y bobl yn y lle yn symud y cydbwysedd o ran amser, sgiliau a chyllid yn fwy at ddechrau’r proses. Fodd bynnag, gyda mwy o bobl leol wedi’u grymuso a’u cynnwys, mae nifer o fanteision yn ystod camau diweddarach y broses.
  • Mae’n bosib y bydd angen newid y mesurau llwyddiant i adlewyrchu bwriad y dull creu lleoedd.

Fodd bynnag, nid yw’r heriau hyn yn anorchfygol a gellir mynd i’r afael â hwy ar lefel genedlaethol, awdurdod lleol a phrosiect gan bawb sy’n rhan o’r broses os yw’r parodrwydd yno i wneud hynny. Gall fod llawer o fanteision i’r dull creu lleoedd, ac mae’r erthyglau eraill yn y rhifyn hwn o’r cylchlythyr yn rhestru rhai o’r cyfleoedd hyn. Yr her i bob un ohonom yw meddwl am y ffordd rydyn ni’n mynd ati i wneud pethau’n wahanol a gweithio’n fwy cydweithredol ar ein prosiect neu fenter nesaf.