Creu Lleoedd a Thir y Cyhoedd: Dod â phopeth at ei gilydd

Jen Heal, Dirprwy Brif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru

Mae’n debygol mai tir y cyhoedd yw’r peth cyntaf y mae llawer o bobl yn meddwl amdano wrth feddwl am greu lleoedd. Mae sgwâr cyhoeddus bywiog, stryd fawr brysur neu barc lleol llawn hwyl yn rhai o’r delweddau sy’n dod i’r meddwl ac, yn wir, dyma rai o nodau ein ffocws ar greu lleoedd. Mae gan dir y cyhoedd lawer o swyddogaethau i’w cyflawni ac maen nhw’n gallu bod yn lleoedd braf, ond ni ellir ystyried hyn ar ei ben ei hun. Mae chwe egwyddor Siarter Creu Lleoedd Cymru yn gysylltiedig â’i gilydd, ac mae angen iddynt weithio gyda’i gilydd. Ond mae llwyddiant hyn, neu ddiffyg llwyddiant hyn, yn amlygu ei hun yn nhir y cyhoedd.

Amodau er mwyn galluogi tir y cyhoedd i fod yn lleoedd cadarnhaol

Mae gwreiddio creu lleoedd mewn polisi cynllunio ar lefel genedlaethol drwy Bolisi Cynllunio Cymru a Cymru’r Dyfodol yn cydnabod bod penderfyniadau pwysig a fydd yn dylanwadu ar lwyddiant tir cyhoeddus yng nghanol tref, yng nghanol cymdogaeth neu ar strydoedd preswyl yn cael eu gwneud ymhell cyn dylunio’r lleoedd eu hunain.

Bydd lleoliad datblygiad, y dewis o ddulliau teithio sydd ar gael a’r gymysgedd o ddefnyddiau yn gosod yr amodau o ran lefelau traffig, cyfleoedd ar gyfer cerdded a beicio, a faint o lefydd parcio sydd eu hangen, sydd i gyd yn dylanwadu ar faint o le sydd ar gael ar gyfer bywyd cyhoeddus ac ar ansawdd y gofod hwn. Os yw datblygiad yn ddiarffordd, ac nad oes ganddo gymysgedd o ddefnyddiau a bod y cyfleoedd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn gyfyngedig, bydd angen mwy o le i barcio a symud ceir, bydd llai o bobl o gwmpas a bydd hyn yn amharu ar ‘fywyd’ y lle.

I’r gwrthwyneb, os yw datblygiad newydd wedi’i leoli’n agos at gyfleusterau presennol y gall pobl eu cyrraedd yn hawdd drwy deithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus, neu os oes gan ddatblygiadau newydd gymysgedd o ddefnyddiau posibl, yna gall dyluniad da reoli effaith ceir ar yr amgylchedd, ac mae potensial i’r strydoedd a’r mannau hyn ddod yn fyw. Bydd mwy o bobl yn cael cyfle i ddod i adnabod pobl eraill yn eu cymuned, bydd plant yn cael mwy o gyfleoedd i chwarae yn yr awyr agored a bydd yr amodau’n galluogi pobl i wneud dewisiadau iachach o ran symud.

O chwe egwyddor y Siarter, mae hyn yn gadael pobl a chymuned a hunaniaeth. Mae’r rhain yn nodweddion hanfodol a ddylai fod yn sail i ddyluniad tir y cyhoedd er mwyn ei wneud yn unigryw ac yn gynhwysol, ac i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y gymuned a fydd yn byw yno.

Defnyddio tir y cyhoedd i sicrhau cynhwysiant

Mae’r ddwy egwyddor uchod yn pwysleisio rôl ymgysylltu â’r gymuned wrth ddylunio tir y cyhoedd. Mae ymyriadau o ran tir y cyhoedd yn rhoi cyfle i brofi syniadau a gwneud newidiadau ar y cyd â chymunedau. Mae gan Project for Public Spaces, sy’n sefydliad creu lleoedd blaenllaw, amrywiaeth o adnoddau defnyddiol ar gyfer creu lleoedd ar dir y cyhoedd gyda phenawdau hawdd eu cofio, fel:

  • The Power of 10 – y syniad y dylid cael llawer o bethau gwahanol (e.e. deg peth) i bobl eu gwneud mewn man cyhoeddus[1], neu
  • Lighter Quicker Cheaper – hyrwyddo ymyriadau sy’n cael eu rhoi ar waith yn gyflym i helpu i brofi syniadau a dangos sut gall newid lle helpu i greu lle[2].

Mae’n ymddangos bod yr ail beth yn rhywbeth nad ydym eto’n dda iawn am ei wneud yng Nghymru. Boed hynny oherwydd rhwystr gwirioneddol neu ymddangosiadol rheolau a phrosesau, diffyg sgiliau o ran y math hwn o ymgysylltu neu amharodrwydd i gymryd risg, nid yw’n ymddangos ein bod yn gallu rhoi prosiectau o’r fath ar waith yn gyflym nac ar raddfa fawr. Roedd ymyriadau adfer ar ôl Covid yn dangos rhywfaint o’r egni hwn, ond mae’n ymddangos bod hynny wedi diflannu’n gyflym.

Cefais fy nharo gan fenter ‘Sgwariau Agored’ Milan Piazze Apertefenter[3], lle roedd y ddinas wedi defnyddio ymyriadau dros dro fel mecanwaith ar gyfer ymgysylltu a phrofi syniadau cyn gwneud newid mwy parhaol. Bu galwad agored i bob dinesydd nodi mannau yn y ddinas y gellid eu gwella. Roedden nhw’n defnyddio paent i nodi’r mannau cyhoeddus ac yn rhoi dodrefn stryd yno er mwyn sefydlu gweithgarwch yn y mannau hyn, ac yn gweithio gyda phobl leol i gynnal digwyddiadau yn y rhain. Defnyddiwyd yr adborth o’r camau dros dro hyn i lunio ymyriadau mwy parhaol, ond roedd yr effaith yn llawer mwy uniongyrchol: “Bob tro roedden ni’n cau stryd i draffig, roedd plant yn dod yno”[4].

Her barhaus

Mae llawer o fanteision i wneud gwelliannau i dir y cyhoedd, fel annog pobl i gerdded a beicio, integreiddio seilwaith gwyrdd a glas i reoli a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, a darparu mannau cyfforddus, diogel a dymunol i ryngweithio ag eraill, gan leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Fodd bynnag, dydy hynny ddim yn golygu ei fod yn hawdd. Mae’n ymddangos bod dwy her benodol yn amlwg, sef costau cynnal a chadw a dulliau hen ffasiwn o ddylunio priffyrdd. Mae’r cyntaf yn fygythiad i allu integreiddio elfennau cwbl sylfaenol, fel plannu coed ar strydoedd, oherwydd nad oes digon o gyllideb nac adnoddau i ofalu amdanynt. Mae’r ail yn broblem barhaus, er bod y Llawlyfr Strydoedd yn cynnig canllawiau ar hyn ers degawd a hanner. Ni ddylai’r un o’r heriau hyn fod yn bethau rydyn ni’n osgoi mynd i’r afael â nhw ar lefel genedlaethol nac ar lefel sefyllfaoedd unigol er mwyn sicrhau’r manteision y mae tir cyhoeddus da yn eu darparu.

Mae’n ymddangos bod patrymau ein bywydau dod yn fwyfwy unigolyddol. Fodd bynnag, mae tir y cyhoedd yn dal yn lle i bobl ddod at ei gilydd, i gyfarfod ac i rannu profiad cyffredin o le. Bydd y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud bob cam o’r ffordd, fel ble rydyn ni’n penderfynu datblygu a manylion y palmant, yn effeithio ar ba mor llwyddiannus yw’r mannau hyn ac ar y cyfraniad cadarnhaol maen nhw’n gallu eu gwneud i’n bywydau.

[1] https://www.pps.org/article/the-power-of-10

[2] https://www.pps.org/article/lighter-quicker-cheaper

[3] https://globaldesigningcities.org/update/piazze_aperte_report-en/

[4] https://twitter.com/fietsprofessor/status/1605946251286962177?lang=en-GB

Cydnabyddiaeth

Llun 3: cities-today.com