Creu Lleoedd a Gwerth Lleoliad - Dr Roisin Wilmott
Dr Roisin Wilmott, Cyfarwyddwr RTPI Cymru
Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r dywediad 'lleoliad, lleoliad, lleoliad', ond a ydym ni’n meddwl amdano y tu hwnt i eiddo a'i werth? Fel cynllunwyr rydym ni’n defnyddio dull yr adeilad iawn yn y lleoliad iawn, ac mae’r olaf o’r rhain yn hollbwysig.
Mae'r lleoliad iawn yn rhan fawr o'r ateb i fynd i'r afael â'r heriau tymor byr a thymor hir yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu, nid yn unig yma yng Nghymru ond yn fyd-eang hefyd, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, yr argyfwng ynni, yr argyfwng costau byw a phroblem endemig tlodi. Mae'r lleoliad iawn hefyd yn effeithio ar gostau rhedeg gwasanaethau cyhoeddus. Mewn sawl ffordd mae'r rhain i gyd yn faterion rhyng-gysylltiedig. Os cawn ni'r lleoliad yn iawn, gallwn wneud llawer iawn i helpu i liniaru a / neu atal yr effeithiau negyddol. Yn bwysig, rhaid inni osgoi achosi ymrwymiadau carbon yn y dyfodol am genedlaethau i ddod drwy'r penderfyniadau a wnawn am leoliad yn awr.
Nodir lleoliad gan y cysyniad poblogaidd o 15 / 20 munud mewn dinasoedd, y cyfeirir ato hefyd fel y 'gymdogaeth gerddedadwy'. Mae'r cysyniad hwn yn golygu bod modd cyrraedd y gwasanaethau sydd eu hangen arnom bron bob dydd neu bob dydd naill ai drwy gerdded neu feicio (h.y. gan ddefnyddio ein nerth ein hunain) mewn cyfnod ymarferol o amser. Drwy hyn rydym yn cael rhywfaint o ymarfer corff, rydym yn fwy tebygol o gwrdd â chymdogion (datblygu cydlyniant cymunedol), lleihau troseddu trwy fwy o wyliadwriaeth a bod yn gyfarwydd â’n cymuned, lleihau llygredd trwy lai o draffig, cefnogi busnesau a chyfleusterau lleol, lleihau cost teithio a mynd i'r afael â thlodi teithio. Mae gwneud lle ar gyfer llecyn gwyrdd o ansawdd mewn ardaloedd adeiledig hefyd yn dod â manteision iechyd a bioamrywiaeth ac os darperir dodrefn stryd, yn enwedig seddi, mae hyn yn gwella cynhwysiant yn yr ardal ar gyfer grwpiau ehangach gan gynnwys pobl hŷn, neu rai sydd â dementia a chyflyrau eraill.
Yn ogystal â chynyddu'r pwyslais ar deithio llesol, rhaid ystyried integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddatblygiadau hefyd, er mwyn gallu cael mynediad at ddewis o wasanaethau ehangach a chyfleoedd gwaith mewn modd mwy cynaliadwy a chyfartal.
Gallwn adeiladu'r adeilad mwyaf cynaliadwy ond os nad yw wedi'i leoli yn y lle iawn, gall yn hytrach fod yn gynhenid anghynaladwy; ni ddylem guddio y tu ôl i un agwedd yn unig ond ystyried y prosiect cyfan. Wrth gwrs, mae yna adegau pan mai tŷ yng nghefn gwlad agored yw’r lleoliad iawn a dylid cefnogi hynny e.e. y rhai hynny sy'n cefnogi diwydiannau gwledig.
Y 'cynllun datblygu' yw'r prif gyfrwng ar gyfer nodi polisi lleoliad yng Nghymru. Mae'r cynllun datblygu yng Nghymru sydd wedi'i osod mewn deddfwriaeth yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Lleol sy'n gyfarwydd i nifer, cyflwynwyd Cynlluniau Datblygu Strategol gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ond nid ydynt wedi dod i'r amlwg eto, a Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 (y cyfeirir ato mewn deddfwriaeth fel y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol). Nod y rhain yw gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu, gan gynnwys lleoliad, ar wahanol lefelau gofodol: lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn y drefn honno. Mae'r cynlluniau hyn yn cario llawer iawn o gyfrifoldeb wrth osod y fframwaith ar gyfer penderfyniadau ar leoliad datblygiad sy'n wirioneddol diwallu anghenion presennol a hirdymor Cymru.