Creu Lleoedd a Diogelu Drwy Ddylunio

Mae Mike Harvey, Heddlu De Cymru

Mae Diogelu Drwy Ddylunio yn fenter gan yr heddlu i wella diogelwch adeiladau a'u hamgylchedd i greu lleoedd diogel i fyw, i weithio, i siopa ac i ymweld â nhw.

Mae gwaith ymchwil academaidd annibynnol wedi dangos y gall Diogelu Drwy Ddylunio helpu profiadau datblygu tai drwy leihau bwrgleriaeth o 87%, lleihau troseddau'n ymwneud â cherbydau o 25% a lleihau difrod troseddol o 25%. Gall Diogelu Drwy Ddylunio hefyd leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sylweddol ac arwain at arbedion helaeth mewn costau carbon.

Mae diogelwch yn agwedd bwysig ar greu lleoedd. Mae teimlo'n ddiogel yn ein cartrefi a'n cymunedau yn hanfodol er mwyn creu lleoedd llwyddiannus. Mae angen teimlo'n ddiogel i feithrin ymdeimlad o gymuned ac i alluogi'r bobl i gerdded ac i feicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cwrdd a chymdeithasu, ac i'r plant chwarae mewn mannau cyhoeddus.

Mae creu lleoedd yn cynnwys cydweithio ar draws sectorau a disgyblaethau er mwyn rhoi ystyriaeth gynhwysfawr i ddatblygiad lleoedd nodedig a bywiog yn y dyfodol. Gall cynnwys Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau yr heddlu helpu datblygiadau newydd i ymgorffori canllawiau Diogelu Drwy Ddylunio o'r cychwyn ac i greu lleoedd diogel â llai o gyfleoedd ar gyfer troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'n well cynnwys Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau yn gynnar yn y broses o ddylunio a chynllunio. Mae eu cynnwys yn gynnar yn galluogi'r Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau i roi cyngor ac arweiniad ar sut y gellir dylunio cynlluniau o flaen llaw i leihau risg a'r ofn o droseddau. Mae'r cyngor a ddarperir gan y Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau yn benodol o ran safle ac wedi'i lywio gan waith ymchwil ar droseddau presennol a'r problemau sy'n codi yn yr ardal.

Gall y cyngor gan Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau helpu i sicrhau y caiff datblygiadau newydd eu dylunio i gadw golwg yn naturiol ac i feithrin stiwardiaeth, gan gynnwys strydoedd a mannau cyhoeddus sydd i'w gweld yn glir o adeiladau, a'u ffenestri a'r drysau, ac yn cael defnydd da.

Mae'r Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau yn chwarae rhan hanfodol wrth greu lleoedd a'r broses ddylunio i sicrhau bod y lleoedd yn ddiogel ac yn creu amgylchedd lle mae pobl am fyw, gweithio a chwarae ynddo. Mae cyngor gan y Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau am ddim, felly cofiwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn a'n helpu i wneud Cymru'n fwy diogel.

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau yma: www.securedbydesign.com.