Creu gofodau sy’n atseinio – sut y gall canolbwyntio ar hunaniaeth lleoedd helpu i sicrhau ein llesiant diwylliannol hirdymor
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Mae Cymru yn unigryw am ei bod wedi ymgorffori hawliau'r rhai sydd eto i'w geni i fyw bywyd da yn y gyfraith. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn nodi saith nod llesiant. Mae’n torri tir newydd o ran diogelu hawliau cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â chynnwys llesiant diwylliannol yn greiddiol i sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Yn ein strategaeth newydd, Cymru Can, mae fy nhîm wedi nodi pum cenhadaeth i arwain ein gwaith dros y saith mlynedd nesaf, gan gynnwys atgyfnerthu effaith gadarnhaol llesiant diwylliannol yng Nghymru. Gall creu lleoedd fod yn ganolog i gyflawni’r genhadaeth hon. Mae cyfleoedd wrth gynllunio, dylunio a gwella ein lleoedd i sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n adlewyrchu hunaniaeth leol – gan gynnwys treftadaeth, diwylliant, iaith, tirwedd a hunaniaeth ecolegol. Er enghraifft, mae cymryd camau sy’n cefnogi’r Gymraeg i ffynnu yn allweddol.
Gall cadw neu ailgyflwyno enwau Cymraeg helpu i warchod y cysylltiad â threftadaeth leol. Yn ogystal, mae’r duedd i enwau lleoedd Cymraeg gael cysylltiad topograffig cryf hefyd yn helpu i wreiddio lleoedd yn y dirwedd leol – a gydnabyddir yn y nifer cynyddol o awdurdodau lleol sy’n enwi ffyrdd preswyl newydd yn Gymraeg a’r symud i enwau Cymraeg yn unig ar gyfer parciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.
Mae cymryd agwedd hirdymor yn hanfodol. Sut gallwn ni ymateb i’r bygythiad y mae newid yn yr hinsawdd a llifogydd cysylltiedig a chynnydd yn lefel y môr yn ei achosi i safleoedd treftadaeth ledled Cymru a rhai o’r traddodiadau ieithyddol, amaethyddol, adeiledig a diwylliannol sy’n gysylltiedig â’r lleoedd hyn? Mae angori ein cynlluniau addasu hinsawdd o fewn yr ystyriaethau hyn yn hanfodol, gan gynnwys defnyddio deunyddiau adeiladu cynaliadwy lleol sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae adrodd straeon hefyd yn bwysig, ac mae cynnwys cymunedau mewn gwneud penderfyniadau, ac ymgorffori diwylliant a chreadigrwydd yn y broses creu lleoedd yn galluogi hyn, gyda chanlyniadau cadarnhaol fel cynnwys celf wedi’i chydgynhyrchu yn y byd cyhoeddus.
Mae hwyluso ecosystemau busnes lleol, unigryw ac annibynnol hefyd yn bwysig ac yn rhan allweddol o ddatblygu hunaniaeth ystyrlon mewn lleoedd Cymreig a thrawsnewid i economi llesiant a Chymru lewyrchus. Mae enghraifft wych ym Mlaenau Ffestiniog lle mae busnesau a mentrau cymdeithasol lleol yn canolbwyntio ar economi twristiaeth leol sy’n seiliedig ar hunaniaeth.
Mae cryfhau llesiant diwylliannol hefyd yn cynnwys cefnogi gwead cymunedau – buddsoddi mewn seilwaith cymunedol a pholisïau sy’n galluogi pobl i fforddio cartrefi yn y lleoedd y maent yn byw ynddynt. Mae cymuned yn hanfodol i hunaniaeth, ac oni bai bod ein lleoedd yn hyfyw ac yn fforddiadwy fel lleoedd i fyw a gweithio ynddynt, bydd eu hunaniaeth yn cael ei erydu.
Cenhadaeth graidd ein strategaeth, Cymru Can, yw sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol ac yn uchelgeisiol. Rhaid i greu lleoedd ystyried pob un o’r saith nod llesiant i sicrhau bod lleoedd yn gweithio i bobl nawr ac yn y dyfodol. Mae dechrau trwy wreiddio lleoedd yn eu diwylliant a’u hunaniaeth leol yn llwybr gwych i ganlyniadau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar holl ddimensiynau llesiant.
Yn Cymru Can, bydd fy nhîm a minnau yn ei gwneud yn genhadaeth i ni atgyfnerthu effaith gadarnhaol llesiant diwylliannol. Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae cyrff cyhoeddus yn gwneud y newidiadau brys sydd eu hangen i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd, gwella gwead cymunedau a hyrwyddo aml-ddiwylliannedd a’r Gymraeg.
Bydd harneisio pŵer creadigrwydd a dod â phobl ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol gwell yn allweddol i fynd i’r afael â rhai o’n heriau mwyaf.
Cymru Can.