Blwyddyn o Siarter Creu Lleoedd Cymru: Land Studio sy'n trafod yr egwyddor 'Hunaniaeth' sy'n ran o Siarter Creu Lleoedd Cymru

 

Kate Richards, Land Studio.

 

HUNANIAETH

Tra bod pob un o chwe egwyddor y siarter yn bwysig yn y gwaith yr ydym yn ei wneud, “hunaniaeth” yw’r un sydd wedi atseinio gyda ni drwy gydol y broses gynllunio ar brosiect y gwnaethom ei gychwyn y llynedd.  Mae Amlosgfa Powys wedi’i chynnig fel amlosgfa, tir claddu naturiol, a gardd goffa wedi’i gosod yn nhirwedd bugeiliol wrth ymyl Caersws, i’r gorllewin o’r Drenewydd yng Nghanolbarth Cymru.

Dechreuodd ein triniaeth o’r cynllun gyda dadansoddiad o gyd-destun ehangach y safle, a oedd yn cynnwys agweddau hanesyddol a daearegol fel ei gilydd.  Gweithredodd basn Caersws (cydlifiad pedair afon i mewn i Ddyffryn Hafren) hefyd fel ffin ar gyfer teyrnasoedd hanesyddol a phrif goridor ar gyfer cyfathrebu.  Yna, gwnaethom astudio’r golygfeydd allan o’r safle ac i mewn i’r safle, gan nodi nodweddion daearegol a naturiol yn y dirwedd sy’n ffurfio cymeriad y lle.

Gwnaeth yr haen nesaf o ddadansoddiad ganolbwyntio ar ddefnydd y safle yn y dyfodol drwy edrych yn ôl drwy hanes claddu ac amlosgi, a diffinio beth all cofio ei olygu, yng nghyd-destun tirwedd.  Gwnaethom nodi tair elfen (pobl, tirwedd a diwylliant), ac yn dilyn hynny, gwnaethom ddiffinio cyfres o ‘atgofion’ sy’n benodol i Bowys a allai hefyd gyfrannu tuag y synnwyr o le yn ein cynnig.

Roedd cynllunio mannau, llwybrau a pherthnasedd i gyd yn cael eu harwain gan y ddau faes hyn o ddadansoddi, a chredwn fod yr uwchgynllun a ddaw o ganlyniad i hyn yn gynrychiolaeth gref o hanes naturiol a diwylliannol y dirwedd.  Gobeithiwn y bydd yr hunaniaeth wydn hon yn creu lle coffa gwirioneddol unigryw ar gyfer pobl Powys.