Blwyddyn o Siarter Creu Lleoedd Cymru: Hana Rowlands, o Edenstone, sy'n trafod defnyddio'r Siarter Creu Lleoedd Cymru.

Hana Rowlands, Edenstone Homes

 

Siarter Creu Lleoedd Cymru

Rydw i’n myfyriwr pensaerniïaeth rhan 1, yn gweithio gyda ‘Edenstone Homes’ o fewn y tïm dylunio. Cefais yr her i ail-ddylunio rhan o’n cynllun yn Orb Drive, Casnewydd sydd gyda cais ‘reserved matters’ am 100 o gartrefi.

Y siarter ‘Creu Lleoedd Cymru’ a’r ‘Canllaw Gwneud Lle’ oedd y man cychwyn.

Wrth fynd trwy’r camau cynllunio, aethom ati i ddylunio hunaniaeth i’r rhan yma o’r safle gyda ymdeimlad o le. Wrth ddilyn y camau o’r canllaw, roedd hi’n bwysig ein bod yn cynnwys lle i weithgareddau cymdeithasol a lle agored diogel gan hyrwyddo teimlad o gymuned.

Y canlyniad yw lle agored yng nghanol y safle sy’n cynnwys man chwarae anffurfiol i’r gymuned yn ogystal a lle i weithgareddau cymdeithasol. Mae’r tai o amgylch yn edrych dros yr ardal cymunedol ac yn darparu gwyliadwriaeth naturiol i ddiogeli’r ardal. Mae’r golygfeydd allweddol yn cynnwys elwedd cryf o dirlunio ac adeiladau nodweddiadol yn ogystal a llwybrau i gysylltu a gwella hygyrchedd yr ardal.

Rydym hefyd yn defnyddio’r cynllun i ddechrau datblygu ein cartrefi di-garbon gyda ‘Sero Homes.’ Mae hyn yn gam bwysig i allu cyrraedd ein huchelgais o fod yn fusnes di-garbon erbyn 2025.