Beth yw ein cynefin erbyn hyn?

Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru

Roedd paratoi’r rhifyn hwn o Gylchlythyr Creu Lleoedd Cymru ar droad 2023/24 yn teimlo ychydig fel agor drysau, un ar ôl y llall, mewn calendr adfent dylunio a chreu lleoedd, gan lanio yn y diwedd ar hunaniaeth, y chweched a’r olaf, ond nid y lleiaf, o blith egwyddorion Siarter Creu Lleoedd Cymru.

Yn y cyd-destun polisi cenedlaethol, mae natur unigryw wedi bod yn elfen gref ers datganoli ac yn briodol felly. Mae datblygiad a allai fod yn unrhyw le yn y byd yn anghydnaws â maint y drafodaeth a gafwyd yn y sgwrs genedlaethol, Y Gymru a Garem https://cynnalcymru.com/the-wales-we-want-national-conversation/, sgwrs a lywiodd siâp yr hyn a ddaeth yn Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – y llinyn aur deddfwriaethol sydd bellach yn rhan annatod o bob polisi.

Yn y Comisiwn Dylunio, rydym yn dod ar draws pob math o adfywio, datblygu, adnewyddu ac adeiladu o’r newydd ac, yn y cyfan, hunaniaeth yw’r mwyaf heriol yn gysyniadol. Mae’n cael ei hamlygu gan amlaf fel nodwedd o ‘Gymreictod’ ar ffurf treftadaeth neu adeiladwaith hanesyddol, gan uniaethu â ffyrdd o’i defnyddio yn y gorffennol neu rinweddau sydd wedi’u gwarchod. Neu, gall fod ymgais i ddal gafael ar Gymru’r oes a fu sydd wedi’i diffinio’n benodol, yn y frwydr i greu natur unigryw ffurfiau. O bryd i’w gilydd, daw hunaniaeth i’r amlwg fel hiraeth neu pastiche ar ffurf deunyddiau neu ymdriniaeth, ac mewn achosion eraill ar ffurf enw stryd neu enw lle Cymraeg. O ran yr un olaf, ni ddylid drysu rhwng y meddwl gofalus a’r weledigaeth i adnewyddu ac ailddychmygu a ysbrydolodd y dymuniad i ailddatgan yr enw Bannau Brycheiniog.

Mae datblygu ac adfywio’n cael ei siapio gan rymoedd pwerus a’r ffiniau pendant, mesuradwy, sef amser, arian a pherchnogaeth. Mae’r cyfleoedd i gael cymeriad a hunaniaeth gref yn gallu bod yn brin. Er mwyn mynd i’r afael â natur unigryw a hunaniaeth ac ymateb yn effeithiol i’r chweched egwyddor wrth i ni lunio lleoedd sy’n diwallu anghenion pobl, mae’n hanfodol ein bod yn symud y tu hwnt i lwybrau cyfarwydd ac yn mynd i’r afael â Chymru fel y mae go iawn – a’i phobl, ei ffyrdd o fyw a’i hanghenion fel y maent go iawn.

Heddiw, efallai bod llawer o ffyrdd cyfarwydd o weithio a bywyd y tu ôl i ni – mae ein presennol a’n dyfodol yn cael eu dominyddu gan dechnolegau newydd, diwydiannau ynni newydd, trefoli ac awtomeiddio, a bygythiadau byd-eang o newid yn yr hinsawdd ac argyfwng natur. Yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, mae pobl, patrymau bywyd, gwaith a diwylliannau yn parhau i newid, symud, codi a gostwng. Beth, felly, mae hunaniaeth yn ei olygu erbyn hyn? Sut gallwn ni ddiffinio ein cynefin?

A yw’n bosibl i ni ffynnu gyda hunaniaeth luosog? Un sy’n gynhwysol ac yn amlochrog yn ei holl werthoedd, profiadau byw a defodau, lle mae creu lleoedd yn mynd i’r afael â’n hanghenion cyffredin ac yn cofleidio gwahaniaethau mewn modd cyfartal? A oes modd i’n natur unigryw fodoli yn ein hymatebion gwahanol i’r hyn sy’n gyffredin i bob un ohonom a’r hyn rydym yn ei rannu yn ein bywydau a sut rydym yn eu byw? Sut rydym yn cynhyrchu, yn paratoi ac yn rhannu bwyd; sut rydym yn cysylltu ac yn symud o gwmpas; beth rydym yn ei drysori; beth mae ein cartrefi’n ei olygu i ni a sut rydym yn chwarae ein rhan yn ein cymunedau; sut mae ein traddodiadau a’n harferion yn aros yn gyson o fewn cylch o newid parhaus.

Mae cyfansoddiad diwylliannol Cymru wedi bod yn amrywiol ac yn aml-ddimensiwn ers tro byd, ac mae’n bryd i’r ffordd rydym yn siapio ein hamgylcheddau ddal i fyny. Gellir mynegi hunaniaeth fel rhywbeth sy’n hynod gynhwysol pan fydd yn rhan o weledigaeth sylfaenol ar gyfer pobl a lleoedd. Gellir ei mynegi mewn ffyrdd sy’n gwyro oddi wrth drosiadau cyfarwydd a’i chyfleu drwy ymarfer ac ymgysylltu cydweithredol, gwirioneddol a pharhaus, ar yr amod ei bod yn seiliedig ar sawl safbwynt sy’n ceisio cofleidio’r elfennau sy’n gyffredin i bob un ohonom.

Cydnabyddiaeth

Llun – Kyle Pearce