Astudiaeth Achos: Y Triongl, Maindy, Casnewydd

Ruth Essex, o Maindee Unlimited, sy'n dweud wrthym y stori creu lleoedd y tu ôl i'r datblygiad yn  Maindy, Casnewydd

 

Lleoliad: Y Triongl, Chepstow Road, Maendy, Casnewydd

Awdurdod Lleol: Cyngor Dinas Casnewydd

Cleient: Maindee Unlimited

Tîm dylunio: KHBT Ltd

Dyddiad cwblhau: Mehefin 2022 I’w gadarnhau

Gwerth y contract: £300K

Arwynebedd y safle: 102 m sq

Ffynhonnell gyllid:    Llywodraeth Cymru, Y Loteri Genedlaethol, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Yr Her

Dechreuodd y Triongl gyda her: sut gallai cymuned Maendy, cymdogaeth yng nghanol dinas Casnewydd, ail-agor a chynnal y gwasanaethau toiledau cyhoeddus hanfodol?

Roedd cau’r toiledau hyn yn 2017 yn siom fawr i siopwyr a masnachwyr yn y ganolfan siopa leol, ac i bobl oedd yn byw’n agos. Gwaethygodd anghydraddoldeb - gan roi’r bobl sy’n dibynnu ar doiledau cyhoeddus dan anfantais - pobl ag anableddau, cyflyrau’r coluddyn a’r bledren, pobl ddigartref, a phobl hŷn neu gyda phlant ifanc - gall effeithio ar bob un ohonom.

Roedd colli’r toiledau’n arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol o amgylch yr adeilad.

Yn ei hanfod, dechreuodd y datblygiad Triongl Maendy fel ymateb i’r angen syml i gadw toiled cyhoeddus, ond tyfodd i fod yn brosiect trosglwyddo asedau, adnewyddu a thirweddu.

Mae’r datblygiad yn dal i fynd rhagddo, ac mae disgwyl iddo agor fis Mehefin 2022.

 

Pobl a Chymunedau

Bydd yr Astudiaeth Achos hon yn canolbwyntio ar sut mae’r gymuned leol wedi cael ei chynnwys yn natblygiad y safle.

Elusen yw Mainee Unlimited a gafodd ei sefydlu gan breswylwyr a sefydliadau lleol yn ardal Maendy yn dilyn ail-agor y llyfrgell gyhoeddus yn 2015. Mae archwilio potensial y safle gyda’n gilydd fel cymuned, a’r angen am gyfranogiad cyhoeddus gweithredol, wrth wraidd ethos yr elusen.

Roedd bloc y toiledau, a’r mannau cyhoeddus cyfagos gyferbyn â’r llyfrgell ill dau wir angen eu hadnewyddu ac angen buddsoddiad. Mewn ardal heb lawer o lystyfiant a mannau agored cyhoeddus, roedd hi’n gyfle prin i wella amwynderau a lles.

Dechreuodd y prosiect fagu momentwm drwy gyllid a chefnogaeth gan gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru Syniadau: Pobl: Lleoedd. Bu i’r cyllid hwn alluogi proses greadigol - annog pobl i ddeall y safle ac ail-ddychmygu ei ddyfodol.

Hefyd, galluogodd y cyllid i Maindee Unlimited dechrau gweithio gyda phenseiri KHBT i ddatblygu syniadau dylunio. Roedd eu proses ddylunio’n canolbwyntio ar ddull archeolegol - cloddio stori’r safle a gwerthfawrogi ei gydrannau.

Roedd rôl creadigrwydd yn hanfodol o ran sicrhau bod pobl yn teimlo’n gysylltiedig eto gyda safle oedd wedi bod yn adfeiliedig ers cyfnod hir, ac a oedd wedi’i effeithio gan ganfyddiadau negyddol hirsefydlog o yfed ar y stryd a chymryd cyffuriau. Comisiynwyd arlunwyr i greu digwyddiadau a phrosiectau ar y safle, er mwyn datblygu cysylltiadau positif, atgofion newydd o’r safle ac ehangu’r canfyddiad o beth sy’n bosibl.

Un o’r digwyddiadau hyn oedd ‘Inviting the Neighbours to Paint’ a gafodd ei guradu gan Mr a Mrs Clarke, y perfformwyr. Cafodd y gofod ei droi yn ystafell gelf gymunedol awyr agored am wythnos, a throdd y ffotograffydd Dafydd Williams y toilet yn gamera obscura, a thynnu portreadau o breswylwyr lleol yn yr ardd. Cynhaliwyd ystod o ddigwyddiadau cymunedol yn y Triongl i brofi defnyddiau megis marchnad awyr agored.

Mae Maindee Unlimited hefyd wedi cynnal seminar cymunedol ‘Toilets, Public Space and Social Justice’. Roedd hyn yn gyfle i breswylwyr ac asiantaethau lleol gwrdd a thrafod ag arbenigwyr toiledau cyhoeddus byd-eang ac academyddion megis Clara Greed o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Jo-Anne Bichard o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a Charles Musselwhite o Brifysgol Abertawe. Roedd hyn yn cynnig lle ar gyfer dysgu a dadlau, ac ystyried gwleidyddiaeth gofod cyhoeddus. Roedd hefyd yn cynnig gwybodaeth ynghylch goblygiadau cymunedau’n gorfod rhedeg cyfleusterau cyhoeddus megis toiledau cyhoeddus.

Bu i’r gweithgareddau hyn, ochr yn ochr â gwaith dylunio KHBT greu momentwm ac ennyn dychymyg, a wnaeth yn y pen draw, arwain at drosglwyddo asedau’r safle o Gyngor Dinas Casnewydd i Maindee Unlimited ar les o 99 mlynedd.

Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol er mwyn creu caffi cymunedol wedi’i ariannu’n llawn a’i dirweddu, gardd gymunedol a thoiled cyhoeddus.

Drwy gydol y cyfnod datblygu, comisiynwyd rheolwr prosiect er mwyn cynnal ymgysylltiad cyhoeddus, gan gynnwys hwyluso digwyddiadau a chamau gweithredu.

Cafodd oriel bren, a ddefnyddiwyd fel ffin y safle, ei droi yn wal gelf a hysbysfwrdd cymunedol er mwyn ymgysylltu â’r gymuned leol. Cynhaliwyd digwyddiad wnaeth droi’r stryd gyferbyn yn stryd chwarae, gan ddilyn egwyddorion Chwarae Allan, a chyda chefnogaeth Chwarae Cymru.

Yn ogystal, roedd crynodeb y tendr a’r broses ddethol ar gyfer gweithredwr y caffi yn blaenoriaethu rôl y caffi o ran cynnwys yn weithredol y gymuned leol - gan gynnwys dyhead i gydweithio ar ddigwyddiadau strydoedd chwarae yn y dyfodol ac ymestyn yr ardd gyhoeddus i’r stryd bob hyn a hyn.

Yn y dyfodol, gobeithia Greening Maindee, y grŵp garddio cymunedol gynnwys pobl leol yn y broses o blannu’r ardd, gyda’r nod y bydd preswylwyr lleol yn araf deg yn chwarae rhan fwy yng ngweithrediadau bob dydd y gofod gwyrdd.

Bydd y Triongl yn agor yn ystod haf 2022, ar ôl cyfnod datblygu hir iawn.

Mae wedi cael ei ddechrau, ei yrru a’i gyd-ddylunio gan aelodau o’r gymuned leol, a chaiff ei reoli gan sefydliad cymunedol. Mae hyn wedi golygu cryn ymdrech gan wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr Maindee Unlimited.