Datblygu trefi yng Nghymru – Rhoi twf ar y cledrau

David Milner, Rheolwr Gyfarwyddwr Create Streets

Sut byddai hi os oedd cartrefi newydd yn dod â safle tramiau yn eu sgil yn hytrach na thagfa draffig? Yn 2026, fel y cam cyntaf yng nghynllun Metro De Cymru, bydd y trenau tram cyntaf yn rhedeg ar Linellau Craidd y Cymoedd ar eu newydd wedd uchelgeisiol; 105 o filltiroedd o draciau wedi’u trydaneiddio, 40 o orsafoedd uwchraddedig, a threnau sy’n dod bob 15 munud yn y rhan fwyaf o’r safleoedd. Bydd hyn yn dod â thrafnidiaeth ddibynadwy, fynych i gymunedau ledled y de.

Bydd dylunwyr trefol yn breuddwydio’n aml am faestrefi newydd tebyg i Metroland lle mae’r preswylwyr yn gallu dewis sut i deithio. Mae’r wir sefyllfa’n fwy cyfyngedig o lawer, fodd bynnag: yn y rhan fwyaf o leoedd yn y DU, mae hyd yn oed bws bob awr yn ormod i obeithio amdano. Yng Nghymru, mae llawer o’r gwaith paratoi wedi’i gwblhau eisoes. Diolch i’r ffaith bod cynllunio ar sail gweledigaeth wedi’i fabwysiadu’n gynnar mewn polisi cynllunio cenedlaethol, mae Cymru ar fin gweld cenhedlaeth newydd o gymunedau hardd a ffyniannus yn codi ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd a Metro De Cymru. Drwy seilio twf ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach nag adeiladu ffyrdd, gallwn ddarparu cartrefi newydd wrth ddiogelu’r cefn gwlad sy’n gwneud Cymru yn lle mor arbennig.

Mae’r egwyddorion sy’n trawsnewid trafnidiaeth yn y de hefyd yn gallu gweddnewid ein ffordd o adeiladu cartrefi mewn mannau eraill yng Nghymru a’r DU. Yn Chippenham, roedden ni yn Create Streets wedi mynd i’r afael â’r broblem hon o’r cyfeiriad arall. Roedd cynllun ar gyfer estyniad o 7,500 o gartrefi, seiliedig ar ffyrdd, wedi’i ailddyfeisio i greu cymdogaeth gryno, hawdd ei cherdded, wedi’i seilio ar ddwysedd datblygu cymedrol a thrafnidiaeth gynaliadwy. Drwy ailddyrannu’r gyllideb wreiddiol o £75 miliwn ar gyfer ffyrdd at wella bysiau, uwchraddio rheilffyrdd, gwella’r stryd fawr a chefnogi siopau newydd a swyddi lleol, roedd y cynllun diwygiedig wedi arbed 230 hectar o dir cefn gwlad, wedi dileu 12,000 o deithiau dyddiol mewn ceir, ac wedi rhoi hwb sylweddol i gerdded, beicio a mynediad i fannau gwyrdd, yn ôl modelu pwrpasol ar drafnidiaeth.

Ystyr ‘dwysedd datblygu cymedrol’ yw cartrefi isel neu ganolig o ran uchder wedi’u trefnu’n strydoedd addas ar gyfer cerdded a defnydd gan bobl, datblygiad sydd rywle yn y canol rhwng maestref wasgarog a thyrau o fflatiau. Mae’r cartrefi hyn yn cael eu hintegreiddio ag opsiynau trafnidiaeth mynych a mannau gwyrdd cynlluniedig. Gyda’r gorsafoedd ar hyd llinellau Metro De Cymru yn ganolbwynt, byddai cymdogaethau newydd o’r fath yn gallu darparu miloedd o gartrefi newydd gan gymryd llai o dir, cynyddu’r mynediad at swyddi, ysgolion ac amwynderau heb greu gormod o draffig.

Mae egwyddor dwysedd datblygu cymedrol wedi’i chefnogi mewn polisi cynllunio cenedlaethol (Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040) ac yn Siarter Creu Lleoedd Cymru, gyda chanllawiau atodol ar adeiladu ar ddwysedd uwch yn y Canllaw Creu Lleoedd. Drwy fabwysiadu dwysedd datblygu cymedrol, gall Cymru dyfu mewn ffordd sy’n harddach ac yn fwy cynaliadwy.

Ar gyfer trefi neu estyniadau newydd, fel y rheini sydd wedi’u cynnig mewn ardaloedd fel Pont-y-clun, Llantrisant, neu y tu allan i ardal gymudo bresennol Caerdydd, gellir defnyddio’r dull hwn o ddatblygu i osgoi’r anfanteision o ddatblygu ynysig wedi’i seilio ar ffyrdd. Yn lle arllwys miliynau o bunnoedd i adeiladu ffyrdd osgoi a chylchfannau newydd, gellid buddsoddi mewn lonydd bysiau, rhwydweithiau beicio, clybiau ceir a chanolfannau lleol ffyniannus.

Yn ogystal â hyn, drwy ddwysáu’r datblygu ger gorsafoedd trenau a danddefnyddir, fel y rheini yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd, gellid ailfywiogi trefi sydd wedi’u hen anghofio. Mae hyn yn gyson ag argymhellion Comisiwn Burns yn dilyn canslo Ffordd Liniaru’r M4, sy’n ffafrio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na ffyrdd.

Mae’r cyd-destun polisi cynllunio yng Nghymru yn rhoi offer i awdurdodau lleol siapio lleoedd yn ôl y ffordd y mae pobl am fyw mewn gwirionedd – yn hawdd eu cerdded, yn gysylltiedig, ac yn llawn bywyd. Mae Cymru mewn lle unigryw i allu mabwysiadu’r model hwn sydd wedi’i seilio ar weledigaeth. Yr her yn awr yw mynd ati i gyflawni a dangos dewrder gwleidyddol. Os awn â’r maen i’r wal, y wobr sydd o fewn ein cyrraedd yw Cymru lle mae trefi’n tyfu ac yn ffynnu, lle mae cartrefi’n fforddiadwy a dyfodol wedi’i greu nid ar gyfer traffig ond ar gyfer pobl.