
Celf Gyhoeddus a Chreu Lleoedd: Cyfleoedd, Manteision a Ffactorau Allweddol er mwyn Llwyddo
Jo Breckon, Cyd-gyfarwyddwr Studio Response
Mae Studio Response yn wasanaeth sydd wedi ennill gwobrau am gomisiynu celf mewn mannau sy’n perthyn i’r cyhoedd. Rydym yn gweithio gydag artistiaid, dylunwyr, gwneuthurwyr, penseiri a chymunedau i ymateb yn greadigol i’r bobl, y lle, y diwylliant, y dreftadaeth a’r amgylchedd er mwyn gwella ein cymdogaethau, ein trefi a’n dinasoedd. Rydym yn gwahodd pobl greadigol i greu gwaith newydd, gyda’r bobl yn ganolog i’r broses o ddatblygu eu syniadau, boed hynny’n arwain at waith celf parhaol neu dros dro, prosiectau sy’n cydweithio â chymdeithas, neu ddyluniadau pensaernïol integredig.
Creu lleoedd yw’r nod bob amser wrth gomisiynu celf gyhoeddus. Pobl yw canolbwynt y broses, ac mae’r gwaith yn ymateb i’r safle. Mae llawer o egwyddorion arfer gorau y broses gomisiynu yn gydnaws ag egwyddorion creu lleoedd: cynnwys y gymuned, cydweithio ar draws disgyblaethau, buddsoddi yn y broses i'r un graddau â chanlyniadau diriaethol, a chefnogi gweledigaeth ar y cyd.
Beth yw’r cyfleoedd?
Gall gweithio gydag artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr (a elwir o hyn ymlaen yn artistiaid) drwy brosiectau celf gyhoeddus gyfrannu’n sylweddol at greu cymdogaethau bywiog a chysylltiedig sy’n lleoedd braf i fyw. Ond, i fanteisio ar botensial hynny, mae angen newid canfyddiadau ynghylch beth mae celf gyhoeddus yn gallu ei olygu.
Mae ystyried celf gyhoeddus fel dim ond lleoliad gwaith celf cerfluniol unigol mewn amgylchedd adeiledig yn syniad hen ffasiwn a chyfyngedig o ran yr hyn sy’n bosibl, a sut gall celf gyhoeddus ychwanegu gwerth. Mae celf gyhoeddus yn fwy na dim ond amwynder gweledol, mae’n democrateiddio ein cymdogaethau ac yn rhoi gwerth ar fannau agored cyhoeddus.
Mae celf gyhoeddus yn deillio o sgyrsiau a sylwadaeth gymunedol, ac yn datgelu hanes a threftadaeth lleoedd, yn gwella ein hamgylchedd adeiledig ac yn cyfrannu at greu lleoedd sy’n gynaliadwy o safbwynt cymdeithasol ac amgylcheddol. Gall comisiynau dan arweiniad artistiaid, a ariennir yn briodol, hefyd gyflawni gofynion ymarferol fel mannau chwarae, arwyddion a gerddi natur cyhoeddus.
Mae artistiaid sy’n gweithio gyda chymunedau dros gyfnod hir yr un mor ddilys, lle rhoddir pwyslais ar y broses o gydweithio’n greadigol, yn hytrach nag unrhyw ganlyniad ffisegol. Yn y sefyllfa hon, y gwerth ychwanegol yw’r ffordd y gall celf gyhoeddus annog dinasyddiaeth weithredol drwy ddarparu mecanwaith sy’n grymuso cymunedau a rhanddeiliaid i siapio’r amgylchedd o’u cwmpas.
Astudiaeth Achos – Meysydd Chwarae The Parish @ Llanilltern Village, ar gyfer Persimmon Homes
Amanda Spence, Situated Studio + Rhian Thomas, Analog Architecture
Penodwyd Studio Response gan Persimmon Homes i greu’r rhaglen celf gyhoeddus ar gyfer ei ddatblygiad preswyl, The Parish @ Llanilltern Village. Ar ôl i Strategaeth Celf Gyhoeddus Studio Response gael ei chymeradwyo, comisiynwyd Situated Studio ac Analog Architecture i ddylunio tri maes chwarae.
Mae pob cae chwarae wedi’i ddylunio mewn ffordd sy’n ymateb i ddadansoddiad o gyd-destun y dirwedd:
- Mae LEAP ar thema Coedwig Hudolus yn cyfeirio at goetir hynafol cyfagos;
- Gwaith chwarela hanesyddol oedd wrth wraidd NEAP Daearwedd; a
- System Ddraenio Gynaliadwy gyfagos oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y maes chwarae Glawlif – lle hwyliog i chwarae yn y glaw.
Ond, nid yw’r cysyniadau’n ddehongliadau llythrennol – mae themâu haniaethol yn gyfle i greu profiadau chwarae rhydd, llawn dychymyg.
Cafodd plant lleol eu cynnwys mewn gweithgareddau ymgysylltu creadigol, a roddodd deimlad o berchnogaeth: Plannu coed yn y Goedwig Hudolus; a chreu teils ‘gweddglai’ i feithrin syniadau ar gyfer y dyluniadau Glawlif a Daearwedd. Mae pecyn SuDS sy’n cynnwys gweithgareddau hwyliog i archwilio topograffeg a glaw yn creu gwaddol ar gyfer ymgysylltu ac addysg yn y dyfodol.
Beth yw’r manteision?
Mae celf gyhoeddus yn cysylltu pobl â lle a’i gilydd. Pan fydd artistiaid yn cydweithio â chymunedau yn ystod y broses greadigol, mae’n meithrin teimlad o berchnogaeth a balchder yn y gwaith celf yn ogystal â’r datblygiad cyffredinol.
Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod cyfranogiad diwylliannol yn cyfrannu at feithrin cysylltiadau cymdeithasol a chydlyniant cymunedol drwy leihau allgáu cymdeithasol a/neu wneud i gymunedau deimlo’n fwy diogel ac yn gryfach[1].
Ac wrth gwrs, wrth ystyried celf gyhoeddus fel elfen allweddol o leoedd sydd wedi’u dylunio’n dda, ni ellir gorbwysleisio cyfraniad celf gyhoeddus at feithrin ymdeimlad o le yn ogystal â hunaniaeth.
Beth yw’r ffactorau allweddol er mwyn llwyddo?
Mae’n bwysig buddsoddi yn y broses ac mewn pobl, ac ymddiried yn y naill a’r llall. Ychwanegwch adnoddau digonol at y gymysgedd, buddsoddiad ariannol yn ogystal â buddsoddiad amser.
Mae’n hollbwysig cydweithio â gweithwyr proffesiynol ym maes celf gyhoeddus. Mae eu harbenigedd yn hanfodol wrth chwilio am gyfleoedd, dod o hyd i artistiaid, rhoi egwyddorion arfer gorau ar waith yn y broses gomisiynu, a chefnogi artistiaid er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar eu hymarfer creadigol. Wrth gwrs, mae’n rhaid cael artist proffesiynol.
Mae angen penodi artistiaid a gweithwyr proffesiynol ym maes celf gyhoeddus cyn gynted â phosibl – nid er mwyn cyflymu’r broses ddylunio, ond er mwyn caniatáu amser i ddatblygu gweledigaeth strategol ar y cyd, i feithrin cysylltiadau cymunedol ac er budd ymarfer creadigol. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod y canlyniadau’n arwyddocaol ac yn integredig, yn hytrach na’u bod yn atebion “parod” a gyflwynir i’r safle ar y funud olaf.
Yn olaf, mae gofyn bod y broses yn cael cefnogaeth gyson a chydlynol gan y system gynllunio. Er enghraifft, defnyddio amodau ymarferol sy’n ystyried yn ofalus y paramedrau a osodir ar amserlenni gweithredu, a dull cynllunio sydd â’r gallu i atal arferion gwael a thanfuddsoddi.
Ni all celf gyhoeddus ddatrys yr holl broblemau sy’n ymwneud â bodlonrwydd a chydlyniant cymunedol mewn datblygiadau newydd, ond gydag amser, adnoddau a’r dull cywir o weithredu, gall yn sicr wneud gwahaniaeth cadarnhaol sy’n cyd-fynd ag egwyddorion cyffredinol creu lleoedd.
[1] The Value of Arts and Culture to People and Society, Arts Council England. 2014. T33
Clod am ddelweddau: Amanda Spence, Situated Studio + Rhian Thomas, Analog Architecture