Coed Er Lles
Lydia Huws, Uwch Bensaer gyda Down to Earth
Mae prosiect Coed Er Lles yn edrych sut gall y gymuned a byd natur gael budd drwy ddatblygu nwyddau posibl o ystad coetir Skyline yn Nhreherbert. Dyma gyfle unigryw i ail-greu’r berthynas rhwng y gymuned a’r dirwedd er mwyn diwallu anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae’r prosiect yn enghraifft wych o gymhwyso Siarter Creu Lleoedd Cymru mewn cyd-destun gwledig, gyda chyfraniad cymunedol cryf a datblygu hunaniaeth sy’n seiliedig ar rinweddau unigryw’r dirwedd.
Mae’r prosiect yn dilyn bron i ddegawd o sgyrsiau cymunedol ynglŷn â mynediad at y dirwedd a defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol er mwyn cael dyfodol mwy cadarnhaol o ran yr hinsawdd. Mae'r defnydd o bren lleol ar gyfer nifer o fuddion wedi dod yn un ffocws canolog i Weledigaeth Coedwig y Dyfodol. Mae’r gymuned a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i gytundeb cyd-ddylunio na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae’n golygu bod modd i werthoedd a gweledigaeth y gymuned ar gyfer y goedwig yn y dyfodol siapio’r ffordd y mae’r goedwig yn cael ei rheoli dros y 100 mlynedd nesaf. Mae’r Weledigaeth hon ar gyfer Coedwig y Dyfodol wedi cael ei llunio ar y cyd gan banel o ddinasyddion sy’n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a bydd yn cael ei rhannu â’r gymuned ehangach. Mae hyn yn creu mudiad cymunedol eang sydd â diddordeb yn nyfodol y goedwig, a menter gymdeithasol gynaliadwy.
Gan gyfuno profiad Down to Earth o ymgysylltu’n gynhwysol a rhyngweithiol, yn ogystal â’n profiad ymarferol ni o ddarparu rhaglenni rheoli coetiroedd, gweithgareddau antur awyr agored, rhaglenni crefft traddodiadol a rhaglenni adeiladu cynaliadwy, rydym yn gweithio gyda’r gymuned leol dros 24 mis i archwilio sut y gellir rheoli’r ystad coetir i greu’r buddion yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir yn gymdeithasol, yn economaidd ac ar gyfer byd natur.
Dechreuodd y prosiect Coed Er Lles drwy adeiladu tŷ crwn traddodiadol yn yr ardal, wedi'i ariannu gan Severn Wye, gan ddefnyddio pren o goetiroedd lleol a thechnegau traddodiadol, cynaliadwy. Rydym nawr wrthi'n gweithio gydag aelodau’r gymuned i reoli coetiroedd lleol yn gynaliadwy, i gynhyrchu nwyddau y gellir eu dylunio a’u gwneud yn lleol. Mae’r cyrsiau’n agored i bawb o bob angen a gallu ac maent yn gweithio i fagu hyder, gwella iechyd a llesiant, a chynyddu cysylltiad cymunedol drwy sgiliau ymarferol ac achrededig yn yr awyr agored.
Gan weithio’n agos gyda chymuned Treherbert, bydd y prosiect Coed Er Lles yn parhau i ddarparu rhaglenni sydd wedi’u profi’n glinigol i wella iechyd meddwl, yn ogystal â chynnig lle i ennill cymwysterau, tra bydd y gymuned yn archwilio’r nwyddau posibl y gellid eu datblygu o’r coetiroedd. Yn sgil y prosiect hwn, bydd y gymuned yn bwrw ymlaen â syniadau busnes posibl yn deillio o’u coetiroedd. Bydd y dull hwn yn cael ei lywio gan anghenion y gymuned a’r hyn y maen nhw’n ei ystyried yn nwyddau sydd â’r potensial mwyaf i greu economi leol gynaliadwy.
Wood for Good – doing good things together (downtoearthproject.org.uk)
Down to Earth
Mae Down to Earth yn grŵp o Fentrau Cymdeithasol Nid-Er-Elw sydd â bron i 20 mlynedd o brofiad o ddarparu rhaglenni addysgol a gofal iechyd trawsnewidiol sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer aelodau o’r gymuned sy’n agored i niwed ac sydd ar y cyrion. Credwn fod modd mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a chynaliadwyedd ar yr un pryd drwy brosiectau sy’n canolbwyntio ar fyd natur ac ar berthnasoedd.