Dylunio Strydoedd a Chreu Lleoedd yn Well: Y Cyfle i gael Terfynau Cyflymder 20mya

Jon Tricker, Cyfarwyddwr Creu Lleoedd yn PJA, Aelod o’r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (CIHT)

Mae creu lleoedd wedi dod yn fwyfwy amlwg yng Nghymru wrth i gynllunwyr a dylunwyr ymdrechu i greu strydoedd bywiog sy’n canolbwyntio ar bobl. Un mesur effeithiol i gyflawni’r weledigaeth hon yw cyflwyno terfyn cyflymder 20mya diofyn mewn ardaloedd trefol. Bydd cam strategol arloesol o’r fath nid yn unig yn creu strydoedd mwy diogel, ond hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer dylunio strydoedd yn well a chreu lleoedd ar raddfa fwy.

Yn bennaf oll, bydd lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya yn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Mae astudiaethau’n dangos yn gyson bod cyflymder is yn lleihau difrifoldeb damweiniau yn sylweddol, gan wneud strydoedd yn fwy diogel i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr fel ei gilydd. Drwy feithrin diwylliant o yrru’n gyfrifol, mae’r cynlluniau hyn yn hybu ymwybyddiaeth o ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed ac yn annog pobl i fod yn ystyriol ohonynt, gan wella diogelwch cyffredinol ar y ffyrdd.

Ar ben hynny, mae terfyn cyflymder o 20mya yn trawsnewid deinameg y broses dylunio strydoedd. Gall cyflymderau traffig is leihau’r gofynion o ran gwelededd gyrwyr, gan greu ffyrdd o ddylunio strydoedd sy’n llai seiliedig ar briffyrdd. Gellir ailystyried seilwaith ffyrdd i flaenoriaethu anghenion pobl sy’n cerdded ac yn beicio. Mae llwybrau troed lletach, beicio mwy diogel a chroesfannau gwell yn dod yn opsiynau posibl, gan rymuso unigolion i fanteisio ar deithio llesol. Mae gwaith ailddylunio o’r fath yn creu strydoedd sy’n hygyrch ac yn ddeniadol yn weledol, yn ogystal â meithrin rhyngweithio cymdeithasol gan gryfhau’r ymdeimlad o gymuned a chwrteisi mewn cymdogaeth.

Y tu hwnt i ddiogelwch ar y ffyrdd a dylunio strydoedd, wrth i 20mya ddod yn norm, bydd yn gatalydd ar gyfer creu lleoedd yn well. Mae traffig arafach yn annog amgylchedd mwy hamddenol a phleserus, gan ddenu pobl i dreulio amser yn yr awyr agored. Yn ei dro, mae hyn yn rhoi hwb i fusnesau lleol ac yn arwain at greu mannau cyhoeddus fel parciau a gerddi cymunedol. Mae awyrgylch tawelach yn annog digwyddiadau diwylliannol a mwy o waith tirlunio strydoedd, gan wella ymhellach hunaniaeth a chymeriad unigryw cymdogaethau presennol a rhai newydd. Mae Grangetown, Caerdydd, wedi elwa o lawer o'r manteision hyn. Mae cyflwyno teithio llesol, gwaith tirlunio a Systemau Draenio Cynaliadwy wedi trawsnewid y strydoedd yno.

Mae enghreifftiau diweddar yng Nghaergrawnt yn tynnu sylw at rai meysydd arloesol o ran dylunio strydoedd mewn cymdogaethau. Yn Accordia, Caergrawnt, mae’r detholiad ehangach o hierarchaethau strydoedd, fel strydoedd heb geir, strydoedd chwarae a strydoedd pengaead, ynghyd â mathau mwy traddodiadol o strydoedd, wedi creu amodau ar gyfer cymdogaeth newydd hyfryd gyda chyflymder traffig isel, gan ddangos sut gall cynllunwyr a dylunwyr lwyddo i flaenoriaethu amgylcheddau sy’n addas i gerddwyr drwy waith dylunio da.

Mae dylunio strydoedd culach gyda thraffig arafach yn golygu bod modd cael mwy o fannau gwyrdd, parciau ‘poced’ ac ardaloedd cymunedol, sy’n meithrin ymdeimlad o gymuned ac yn annog rhyngweithio cymdeithasol. Mae beicio diogel ar gerbytffyrdd yn dod yn bosibl, sy’n hyrwyddo opsiynau symudedd cynaliadwy. Mae croesawu’r cysyniad 20mya yn galluogi dull o ddylunio strydoedd sy’n canolbwyntio ar bobl, gan greu amgylchedd byw croesawgar a dymunol i breswylwyr. Er nad oes traffig arni, mae stryd Marmalade Lane (sydd hefyd yng Nghaergrawnt) yn dangos sut y gellir dylunio strydoedd i fod yn fannau cymunedol y mae modd eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o bethau gwahanol.

I gloi, bydd cyflwyno terfynau cyflymder is mewn cymdogaethau preswyl yng Nghymru yn arwain at fanteision pellgyrhaeddol y tu hwnt i ddiogelwch yn unig. Drwy sbarduno newid mewn diwylliant traffig, mae’n gam tuag at ddylunio strydoedd yn well, symudedd gwell, ac ymdrechion creu lleoedd gwell. Mae croesawu’r cysyniad o derfynau cyflymder 20mya yn gam blaengar tuag at greu cymdogaethau cynhwysol, cynaliadwy a bywiog sy’n blaenoriaethu llesiant ac ansawdd bywyd eu preswylwyr.