Creu Lleoedd, Sero Net a Chymdogaethau Sy’n Atyniadol i Fyw Ynddynt
Jon Tricker, Cyfarwyddwr Creu Lleoedd PJA
Mewn ymateb i anghenion brys i newid hinsawdd, mae’r diwydiant cynllunio trafnidiaeth yn datblygu dulliau newydd o gynllunio a gweithredu atebion trafnidiaeth a chreu lleoedd di-garbon net mewn datblygiadau newydd ac mewn cymdogaethau presennol.
Mae’r meddylfryd hwn yn cyd-fynd â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (2021) a strategaethau dulliau cysylltiedig megis y Ddeddf Teithio Llesol. Gyda’i gilydd, mae’r symudiadau hyn, ynghyd â’r cyfeiriad cyffredinol a nodir yn COP26 yn diffinio taith lleihau allyriadau carbon hyd at 2050, gan nodi sut y bydd diwydiannau gwyrdd newydd yn dylanwadu ar y sector trafnidiaeth drwy hyper-leoleiddio gan ganiatáu mwy o gerdded a beicio, ac ar gyfer teithiau hirach, mwy o deithiau ar y bws neu drên yn gynyddol cerbydau trydan.
Mae llawer o ymarferwyr bellach yn mabwysiadu dulliau gweithredu, sy’n tynnu ar dair prif egwyddor – Osgoi, Symud a Gwella.
Gellir defnyddio osgoi teithio mewn lleoedd newydd a phresennol, a gellir ei grynhoi fel mewnoli ar gyfer datblygiad annibynnol newydd, a lleoleiddio ar gyfer lleoedd presennol a datblygiadau tir llwyd.
Mae symud yn golygu mwy o gerdded, beicio a micro-symudedd mewn cymdogaethau lleol a chanolfannau trefol, a thrafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod y dull o ddewis ar gyfer teithiau canolig a hir.
Mae gwella yn rhannol yn ymwneud â’r car neu fathau o drafnidiaeth breifat yn y dyfodol, sy’n debygol o barhau’n boblogaidd, a bydd gyrru ceir trydan yn yr ardaloedd allanol ac ar gyfer rhai teithiau rhyngdrefol yn parhau’n bwysig. Fodd bynnag, gellir gwireddu manteision eraill gydag integreiddio â chanolfannau teithio newydd ym mhyrth y dinasoedd sy'n caniatáu trosglwyddo o geir trydan i drafnidiaeth gyflym ar fysiau neu reilffordd, fel y gall dinasoedd elwa ar ardaloedd sydd heb traffig.
Ar gyfer datblygiad newydd mae hyn yn golygu edrych ar ddyluniad tai a dulliau mwy addasol o barcio. Ar gyfer yr ardal leol, mae’n ymwneud â sefydlu strwythur trefol mwy cynaliadwy a chymysgedd o ddatblygiadau i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar drigolion o fewn taith fer o’u cartref, mewnoli nifer o deithiau, a rheoli teithiau car preifat allanol, yn enwedig ar adegau prysur ac i gyrchfannau allweddol lle tagfeydd yn debygol. Daw’r syniadau hyn at ei gilydd ar ffurf egwyddorion Cymdogaeth Atyniadol i Fyw lle mae datrysiadau teithio llesol yn cael eu cyfuno â gwneud ardaloedd trefol yn fwy gwyrdd i greu strydoedd gwell a chymdogaethau mwy atyniadol i fyw ynddynt. Gellir cyfuno’r syniadau hyn hefyd â syniadau newydd mewn Canolfannau Symudedd sy’n dod â nifer o gyfleusterau trafnidiaeth ynghyd mewn lleoliad cymdogaeth ganolog.
Ar gyfer lleoedd presennol, mae hyn yn golygu gwneud y defnydd gorau o dir, ôl-osod seilwaith cerdded a beicio i fannau lleol a rheoli integreiddio â thrafnidiaeth gyhoeddus a’r newid i fflydoedd cerbydau trydan llawn. Nid ateb trafnidiaeth yn unig yw hwn, ond mae angen cefnogaeth awdurdodau lleol a busnesau i ganiatáu lleoli/adleoli gwasanaethau ac amwynderau i wasanaethu patrwm teithiau mwy lleol ar gyfer anghenion dydd i ddydd, gan helpu i greu cymdogaethau 10 munud gwirioneddol.
Nid yw dod â chynllunio trafnidiaeth ynghyd â chreu lleoedd erioed wedi bod mor bwysig ac mae hyn i’w weld mewn llawer o gynlluniau diweddar a rhai sy’n dod i’r amlwg, megis prosiect Grangetown Gwyrddach Caerdydd sy’n dod â Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDs), seilwaith gwyrdd a gwelliannau cerdded a beicio ynghyd. Mae’r llwyddiant yn Grangetown yn gosod meincnod ar gyfer gwelliannau cymdogaethol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.