Creu Lleoedd, Cymunedau a Byd Natur
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Natur a Ni yn brosiect blwyddyn sy’n gwahodd pobl Cymru i gymryd rhan mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol. CNC sy’n cynnal y prosiect, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a bydd y canlyniadau ar gael i Gymru gyfan.
Y nod yw datblygu cydweledigaeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn 2030, 2050, a’r llwybrau y mae eu hangen i gyrraedd yno – yn arbennig, ystyried y ffyrdd mae ein gweithredoedd yn effeithio ar yr amgylchedd naturiol, sut mae angen i berthynas cymdeithas â byd natur newid, a chasglu barn ynghylch beth mae angen i ni gyd wneud nawr, a thros y 30 mlynedd nesaf.
Lansiodd y prosiect ym mis Chwefror ac mae’n defnyddio offer ymgysylltu ar-lein i annog pobl i rannu eu barn, er enghraifft drwy lenwi arolygon, cymryd rhan mewn gweminarau rhyngweithiol, mynychu gweithdai a chymryd rhan mewn grwpiau trafod. Mae yna adnoddau i grwpiau eu llwytho i lawr er mwyn iddynt allu cynnal eu sgyrsiau eu hunain gyda’u ffrindiau neu eu rhwydweithiau cymunedol. Mae dau awdur preswyl wedi’u comisiynu i weu gwedd emosiynol y sgwrs i farddoniaeth a rhyddiaith.
Ar ôl i’r cyfnod cychwynnol o gymryd rhan ddod i ben ddiwedd mis Ebrill, caiff y safbwyntiau a gasglwyd eu dadansoddi drwy broses gydweithredol – gan weithio ar draws sectorau i nodi’r themâu sy’n gyffredin, y gwerthoedd a rennir, ac ystyriaethau mwy dadleuol. Mae CNC yn awyddus i ddefnyddio prosesau cydgynghori i ddod i ddeall yn well pa fathau o gred a chymhelliant sydd y tu ôl i’r materion y mae pobl wedi’u codi. Wedyn caiff y weledigaeth ddrafft ei llunio drwy gyfrwng proses o gydgynghori.
Mae tirwedd wedi chware rhan allweddol erioed mewn prosesau cydgynghorol am lefydd a meithrin ymdeimlad o le. Un o’r cwestiynau a ofynnwn ydy “Pa ddyfodol yr hoffech chi ei weld ar gyfer ein hamgylchedd naturiol?” Bydd yn ddiddorol gweld faint o bobl a fydd yn ymateb drwy ddisgrifio nodweddion y dirwedd, a’r amgylchedd ffisegol o’u cwmpas.
Mae pobl weithiau’n mynegi pa nodweddion mewn tirwedd sy’n arbennig iddyn nhw heb fod yn ymwybodol bob tro o’r prosesau economaidd-gymdeithasol sy’n galluogi i’r dirwedd honno gael ei chynnal, neu sy’n achosi newid yn y dirwedd dros y blynyddoedd. Rydyn ni’n hoff o’r brithwaith o gaeau. Rydyn ni’n teimlo cysylltiad â’r mynyddoedd. Rydyn ni wrth ein boddau yn dianc i’r rhostir llwm. Yr her i Natur a Ni yw symud y tu hwnt i’r golygfeydd a gwneud y cysylltiadau â’r dydd-i-ddydd – y bwyd rydyn ni’n ei brynu a’i fwyta, y ffordd rydyn ni’n teithio, ein defnydd cyffredinol ar ynni a nwyddau.
I wneud hyn, mae Natur a Ni yn defnyddio senarios am y dyfodol yn ei sesiynau gweithdy a gweminar. Gan adeiladu ar waith yr Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol a diweddaru’r gwaith hwnnw – mae hon yn ffordd wych o ddangos sut gallai’r dewisiadau a wnawn heddiw achosi canlyniadau gwahanol iawn ar ein tirwedd yn y dyfodol, ar ein hamgylchedd naturiol a hefyd ar sut rydym yn byw. Nid yw’r dewisiadau hynny o anghenraid yn nwylo llywodraethau a chyrff llywodraethol yn unig – mae gan gymdeithas rôl enfawr i’w chwarae yn mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.
Y gobaith o ran y Weledigaeth ei hun yw y bydd yn dod yn gofnod dynamig a hirdymor i’n hatgoffa am yr hyn yr hoffem ni i gyd ei gyflawni gan weithio gyda’n gilydd, ac yn ffon i ni fesur a ydyn ni ar y trywydd iawn i wireddu hynny. Mae ganddi’r potensial i osod y sylfeini ar gyfer llunio polisïau yn y dyfodol er lles amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Bydd y sgwrs genedlaethol sy’n sylfaen iddi yn parhau yn hir wedi i’r arolwg gau. A dyna ddiben hyn go iawn – ein bod, drwy ehangu’n cwmpas, yn dod i ddeall gyda’n gilydd oblygiadau’r argyfyngau hinsawdd a natur a sut gallai ein hymateb iddynt effeithio ar wahanol gymunedau mewn gwahanol ffyrdd. Bydd Natur a Ni yn creu llwyfan sy’n ein helpu ni gyd i weithredu gyda’n gilydd, i ddysgu ac i addasu.
I gymryd rhan yn y sgwrs genedlaethol, ewch i: www.naturani.cymru